Skip to main content
Advertisement

Mam o Wynedd yn Ennill Pasiant ar Ei Chynnig Cyntaf Ar Ôl 11 Mlynedd o Hyfforddiant

Mae Gemma Pritchard o Wynedd wedi ennill pasiant Mrs Galaxy UK ar ei chynnig cyntaf ar ôl 11 mlynedd o hyfforddi ei merched a gweithio tu ôl i'r llenni.

·3 min read
Gemma Pritchard

Llwyddiant i Gemma Pritchard yn y Byd Pasiant

Mae mam o Wynedd yn dathlu ar ôl ennill pasiant ar ei chynnig cyntaf, a hynny ar ôl dros ddegawd o wneud y gwaith y tu ôl i'r llenni.

Mae Gemma Pritchard wedi hyfforddi ei merched i gystadlu mewn pasiantau ers 11 mlynedd, ond doedd hi erioed wedi camu i'r llwyfan ei hun.

O ddydd i ddydd mae Gemma, 45, o Lanrug yn hyfforddwr crefft ymladd (martial arts) ac yn "gwisgo trackies a trainers," ond meddyliodd "pam ddim rhoi ychydig o golur ar am unwaith?"

Mae wrth ei bodd â'r byd pasiantau harddwch ac mae wedi hyfforddi ei merched Efa-Hâf ac Erin, sydd nawr yn 17 ac 18 oed, ers oedden nhw'n 6 a 7 gan gael tipyn o lwyddiant.

"Dwi bob tro wedi gadael o i'r plant ond mae o, os rhywbeth, i genod hŷn," meddai a "dwi ddim yn cael dim ieuengach felly neshi feddwl - a'i amdani!"

Er mawr syndod iddi, enillodd ei chategori Mrs Galaxy UK ym mis Mawrth yn Chorley, gogledd orllewin Lloegr.

Mae gan Gemma felt du ar gyfer Karate a Chic-focsio a belt glas yn Jiu Jitsu

Ad (425x293)
Gemma Pritchard
Disgrifiad o’r llun, Mae gan Gemma felt du ar gyfer Karate a Chic-focsio a belt glas yn Jiu Jitsu
"Doeddwn i ddim yn disgwyl curo o gwbl," meddai, gan ychwanegu ei bod hi'n nerfus iawn.

Er mwyn ennill Mrs Galaxy UK mae'n rhaid eich bod yn 18 neu'n hŷn ac yn briod.

"Mae wedi gwneud lot i fy hyder i mae hynny'n bendant.
Mae lot yn credu mai dim ond rhywbeth ar gyfer pobl ifanc yw pasiant harddwch ond tydi hynny ddim yn wir.
Un o'r prif resymau pam wnes i signio fyny oedd ar gyfer fy hunan hyder."

Mae Gemma Pritchard yn mwynhau cystadlu ond fel arfer matiau mewn campfa yw ei llwyfan. Mae ganddi felt du ar gyfer Karate a Chic-focsio, yn ogystal â belt glas yn y gamp Jiu Jitsu.

Erbyn hyn, mae'n hyfforddwr crefft ymladd yn ei hacademi ei hun ond gan ei bod yn "gwneud y gwaith tu ôl y llenni'n casglu arian i elusennau [yn rhan o'r pasiant], neshi feddwl 'pam ddim?'"

Cystadlu yn y Bahamas nesaf

Nawr mi fydd Gemma, Mrs Galaxy UK, a'r UK Galaxy Queens eraill i gyd yn teithio i'r Bahamas ym mis Awst ar gyfer y Galaxy International Pageant.

"Mae'r ddwy ferch wedi bod yn Galaxy Queens," esboniodd a nawr "dwi 'di gwneud achievement fi fy hun...
Ond, who knows blwyddyn nesaf, efallai bydd yna rhywbeth yndda i sydd eisiau cadw'r teitl.
Cawn weld sut hwyl gawni yn y Bahamas!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol

  • Merch o Gymru'n ennill pasiant yn Texas
  • Tiaras a thaith i Texas: Chwiorydd y sioeau harddwch
  • Mam a mab yn llwyddo mewn sioe harddwch

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News