Skip to main content
Advertisement

Sioned Webb Reflects on Adoption and Identity Struggles

Sioned Webb discusses her adoption at eight days old, the identity struggles she faced, and how music has been a vital part of her healing and self-expression.

·3 min read
Llun Sioned Webb

Mae Sioned Webb yn cyflwyno Swyn y Sul ar BBC Radio Cymru

"Er fy mod i wedi cael magwraeth arbennig iawn doeddwn i byth yn teimlo'n gwbl saff neu fel fy mod yn perthyn."

Yn wyth diwrnod oed, cafodd y cerddor a'r cyfansoddwr Sioned Webb ei mabwysiadu gan deulu o Gymru. Er i'w theulu ei chefnogi, parhaodd cwestiynau ynghylch ei hunaniaeth i fod yn bresennol.

Wrth drafod ei albwm newydd, a ryddheir ar y cyd gyda Siân James ar raglen Heledd Cynwal ar Radio Cymru, disgrifiodd Sioned effaith ei mabwysiadu arni a'r cysur a gafodd trwy gyfansoddi cerddoriaeth.

'Methu perthyn i unrhyw le nag i unrhyw berson'

Symudodd Sioned i fyw ym Mhenygroes gyda'i theulu newydd. Roedd ei thad yn weinidog capel yn y pentref, ac er i'r teulu ei chroesawu, roedd gwybod ei bod wedi'i mabwysiadu yn parhau i fod yn bwnc meddwl iddi.

"Roedden nhw [ei theulu] yn dweud fy mod i'n arbennig, mod i'n sbesial, mod i wedi cael fy newis," meddai Sioned, "tra ar y tu mewn o'n i'n trio gwneud synnwyr o bwy o'n i, ac yn teimlo ar goll yn aml".

"O'n i'n aml iawn yn cael y breuddwydion yma, lle roeddwn i'n rhuthro drwy'r gofod a methu glanio yn nunlle, a methu credu fy mod i'n arbennig o gwbl."

Wrth iddi fynd yn hŷn, roedd y teimlad o "beidio perthyn" yn "chwarae havoc" gyda'i hiechyd meddwl.

"Dwi'n siŵr bod yna blant allan yn fanna sydd wedi cael eu mabwysiadu ac wedi profi magwraeth arbennig iawn ac yn teimlo'n gwbl saff.
Er mod i wedi cael magwraeth arbennig iawn, iawn, iawn... byth yn teimlo'n gwbl saff ac yn perthyn.
Mae'n anodd iawn esbonio fo, methu perthyn i unrhyw le nag i unrhyw berson, nag i unrhyw ardal."

Advertisement

'Doeddwn i byth yn teimlo'n gwbl saff'

Roedd cerddoriaeth yn rhan fawr o blentyndod Sioned. Yn wyth mlwydd oed, enillodd ei gwobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Aberystwyth am chwarae'r piano.

Ers hynny, mae cerddoriaeth wedi bod yn hollbwysig iddi, nid yn unig fel gyrfa, ond hefyd wrth brosesu a rhannu trafferthion ei phlentyndod.

"Dwi'n deall cerddoriaeth," meddai Sioned.
"Dwi'n gallu siarad pan dwi'n canu'r piano. Dwi ddim cweit yr un fath efo'r delyn, oherwydd ail offeryn ydy'r delyn, ond mi fedra i siarad a mynegi fy hun efo'r piano.
Ac mae yna dal rhai darnau o gerddoriaeth sy'n fy symud i hyd at ddagrau.
Dwi'n ffeindio fy hun yn byrstio allan i grio am ddim rheswm o gwbl, dim ond oherwydd bod yna rhywbeth anesboniadwy wedi digwydd.
A dwi'n derbyn erbyn hyn yn fy chwedegau, dwi'n derbyn fod 'na ddim absoliwt sy'n bod, i fod yn hollol athronyddol... fod yna ddim esboniad i rai pethau."

'Blodeuo' yn Y Bala

Erbyn hyn, mae Sioned wedi symud i fyw yn Y Bala gyda'i gŵr Arfon, sydd wedi chwarae rhan sylweddol yn ei phroses o "drwsio".

"Ffeindiais i oddefgarwch a phartneriaeth falle am y tro cyntaf erioed efo Arfon.
Dwi'n teimlo'n saff efo fo a dwi'n teimlo mod i'n gallu blodeuo drwy'r bartneriaeth."

Ychwanegodd:

"Mae'r teimlad yma o ddod yn ôl i ardal Y Bala wedi helpu'r trwsio llawer.
Roedd angen arna i i ddatblygu fel person ac fel cerddor hefyd, mae teimlad o heddwch a berthyn yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Mabwysiadu 'ddim yn syml ond mae'n brofiad anhygoel'
  • O feddwl bod ei rhieni'n cynllwynio i'w lladd i fod yn nyrs iechyd meddwl - graddedig
  • Rhybudd am berygl i glyw cerddorion a'r rhai sy'n gwrando

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News