Cystadleuaeth Cân i Gymru yn Dychwelyd i Ynys Môn
Bydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn dychwelyd i Ynys Môn eleni am y tro cyntaf ers 2015. Mae’r caneuon sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Cân i Gymru 2026 wedi cael eu cyhoeddi.
Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno’r gystadleuaeth, a fydd, am y tro cyntaf ers dros 10 mlynedd, yn cael ei chynnal yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror.
Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr, yw cadeirydd panel y beirniaid unwaith eto. Mae Barry 'Archie' Jones o’r band Celt, y gantores a’r gyfansoddwraig Mali Hâf, y cyflwynydd a’r DJ radio Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard, hefyd ar y panel.
Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws a gwobr ariannol o £5,000, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.
Pwy sydd ar y rhestr fer?
Cyfansoddi a pherfformio: Rhodri Lloyd Evans
Mae Rhodri Lloyd Evans wedi addo i ddisgyblion Ysgol Pentrefoelas - ble mae'n brifathro - y byddai'n prynu dau grwban i'r ysgol petai'n ennill!

Cyfansoddi: Geth Tomos, Henry Priestman, John Beck, Adam Dennis ac Emlyn Gomer
Fe wnaeth Geth Tomos ac Emlyn Gomer benderfynu gweithio gyda'i gilydd ar ôl cwrdd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2022.

Cyfansoddi: Rhi Jorj a Gwynedd Maesywaun
Mae Rhi Jorj yn gyn-aelod o'r bandiau Amledd ac Ust.

Dyma ail brosiect Ruby ac Endaf gyda'i gilydd ar ôl rhyddhau'r gân 'To You, From Me' y llynedd.

Cyfansoddi a pherfformio: Dan Williams
Mae Dan Williams yn gyn-aelod o'r bandiau Y Promatics a Hudo.

Cyfansoddi: Lowri Clancy Davies
Perfformio: Lowri Clancy Davies a'i chwaer, Cifa
Enillodd tad Lowri, Ryland Teifi, cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2006 gyda'r gân 'Lili'r Nôs'.

Cyfansoddi: Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd
Perfformio: Jacob Elwy a Lleucu Gwawr
Fe ddaeth Rhydian Meilir i'r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2022 gyda 'Mae Yna Le'.

Cyfansoddi: Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer
Efallai bod y llun yma'n gyfarwydd... a hynny gan fod dwy gân gan Emlyn Gomer, Geth Tomos a Henry Priestman wedi cyrraedd y rhestr fer eleni.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







