Darlledu yn nyddiau cynnar Radio Ysbyty Gwynedd
Dechreuodd Radio Ysbyty Gwynedd drwy chwarae recordiau vinyl ddwywaith yr wythnos o stafell ddarlith yn yr hen ysbyty C&A cyn symud i hen garafán tu allan fel stiwdio.

Heddiw, mae'r orsaf yn darlledu 24 awr y dydd, bob dydd, o stiwdio bwrpasol yn Ysbyty Gwynedd ac mae ar gael i unrhywun wrando dros y we.
Mae llawer wedi newid yn yr hanner canrif ers i Radio Ysbyty Gwynedd ddechrau gwasanaethu cleifion ar 18 Ebrill 1976, fel y dangosir yn y lluniau isod.
Gŵyl 50 mlynedd a datblygiadau diweddar
I nodi'r garreg filltir, bydd cyflwynwyr yn darlledu'n fyw am 50 awr o 18:00 nos Wener 17 Ebrill tan 20:00 nos Sul 19 Ebrill, gyda rhai unigolion yn darlledu am 14 awr yn ddi-dor. Yn ddiweddarach eleni, bydd y stiwdio'n cael ei uwchraddio gyda grant o £20,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Hanes y stiwdio a'r cyfarpar
Yn fuan ar ôl ei sefydlu, roedd yr orsaf yn darlledu o'r hen garafán deintydd, a gafodd ei droi'n stiwdio recordio gan adeiladwr lleol. Roedd wedi ei leoli yng nghefn yr hen ysbyty C&A ar Allt Glanrafon, Bangor. Agorodd Ysbyty Gwynedd yn 1984.

Mae'r cyfarpar wedi newid yn sylweddol ers y dyddiau cynnar.

Staff a chyflwynwyr allweddol
Terry Phipps yn darlledu gyda Roger Richards, sydd wedi bod ynghlwm â'r orsaf ers y cychwyn ac yn dal i wirfoddoli fel rheolwr stiwdio, yn y lobi.

Derec Owen, sydd hefyd wedi bod gyda'r orsaf ers y dyddiau cyntaf ac yn dal i gyflwyno heddiw.

Gwestai arbennig ar raglen Derec Owen oedd Dafydd Iwan.

Y cyflwynwyr Michael Aaron ac Aaron Pleming gyda'u gwestai, Elin Fflur.

Darlledu digwyddiadau a gweithgareddau
Mae'r orsaf wedi darlledu nifer o ddigwyddiadau tu hwnt i'r stiwdio dros y degawdau, gan gynnwys perfformiadau cerddorol yn yr ysbyty a gemau tîm pêl-droed Bangor yn Ffordd Farrar.

Ar un adeg, roedd gan yr orsaf garafán felen er mwyn darlledu o sioeau a digwyddiadau yn yr ardal.

Cysylltiad gyda'r gymuned a gwrandawyr
Janet Jones (chwith) a Janice Davies yn ymweld ag un o'u gwrandawyr.

Ar finyl a chasét oedd y gerddoriaeth yn arfer cael ei chwarae.

Nigel Marland a Doreen Thomas yn ymweld â chlaf. Mae cleifion yn gallu rhoi cais am gerddoriaeth.

Personoliaethau eraill a chyfraniadau
Terry Phipps a'i fab.

Myfanwy Owen, Derec Owen a Barry Owens.

Annis Milner, sy'n dal i gyflwyno heddiw.

Fiona Williams o Lanfairpwll.

Cyn-gyflwynydd Radio Ysbyty Gwynedd sydd wedi mynd yn ei flaen i weithio ar orsafoedd radio masnachol yr ardal ac ar BBC Radio Cymru yw Kev Bach.







