MOJO heddiw: (o'r chwith) Gerallt Williams, Peter Elias Jones, Bedwyr Morgan, Huw Smith a Tony Parisella
Mae'r band MOJO wedi rhyddhau albwm newydd am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.
Mae'r albwm Hir Oes hefyd yn nodi 40 mlynedd ers i'r banc roc o Fôn ryddhau eu EP cyntaf, Mae'r Neges yn Glir.
Dyma bumed albwm y band a gafodd ei sefydlu yn Llangefni gan Bedwyr Morgan a Peter Elias Jones yn 1986. Er bod aelodau wedi newid dros y blynyddoedd, mae'r ddau wreiddiol yn parhau wrth galon sain adnabyddus y band.

Hanes y Dechrau
"O'n i'n nabod Bedwyr yn yr ysgol, a 'nes i adael ysgol a d'eud y funud 'swn i'n dechrau gweithio, 'swn i'n prynu drumkit, a dyna 'nes i," eglurodd Peter.
"'Nath Bedwyr a finna' gael at ein gilydd a dechrau ymarfer yn nhŷ fy mam a 'nhad, yn yr atig. O'dda ni'n semi-detached, felly doedd y bobl drws nesa' ddim yn hapus iawn!
"'Naethon ni benderfynu ar ôl rhyw chwe mis bod ni am 'neud EP – Mae'r Neges yn Glir."
Andros o yrfa
Dros y 40 mlynedd, mae'r band wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru, wedi perfformio gyda rhai o enwau mawr cerddoriaeth, fel Take That a gitarydd White Snake, Bernie Marsden. Maent hefyd yn gyfrifol am rai o ganeuon mwyaf poblogaidd y Gymraeg, o Cuddio yn y Cysgod, i Rhy Hwyr a Dipyn Bach Mwy Bob Dydd.
Maen nhw wedi mwynhau bob munud, meddai Bedwyr ar raglen Ifan Jones Evans ar BBC Radio Cymru, lle'r oedd rhai o'r traciau oddi ar yr albwm newydd yn cael eu chwarae am y tro cyntaf.
"Ddaru ni chwarae efo Take That yn 1991 efo cwmni radio. Ddaru ni fynd trwy Gymru efo nhw; Llangefni, Bangor, Wrecsam, Drenewydd ac Aberystwyth.
"Gaethon ni'r fraint o agor i'r Beach Boys yn 2006.

"A 'naethon ni daith fach ddiwedd flwyddyn dwytha a ddaru ni orffen y daith yng Nghlwb y Bont, Pontypridd. Roedd y gynulleidfa'n ffantastig, un o'r nosweithiau gorau 'da ni 'erioed wedi ei gael.
"'Da ni 'di cael andros o yrfa, 'di pobl ella ddim yn sylweddoli be' 'da ni 'di 'neud, ond 'da ni dal yn mwynhau bob eiliad ohono fo ac yn gobeithio bo' ni'n chwarae cystal ag erioed."
Ychwanega Peter, gan chwerthin: "'Da ni 'di bod drwy gymaint efo'n gilydd fel band, mae'n anhygoel bod ni wedi treulio gymaint o amser efo'n gilydd... a dal yn ffrindia'!"
Aelodau hen a newydd
Fel sy'n digwydd gyda bandiau sydd wedi bod yn weithgar am ddegawdau, mae aelodau wedi newid dros y blynyddoedd. Mae Bedwyr yn gwerthfawrogi pawb sydd wedi bod yn rhan o hanes y band.
"Ar y ffordd, 'da ni 'di colli un neu ddau, ac mae'n bwysig cofio rheiny a'r partiau anferth ddaru nhw roi i'r band. Mae'n bwysig ofnadwy i fod yn ddiolchgar am be' sy' gynno ni. 'Da ni 'di bod yn lwcus ofnadwy cael pobl yn ein helpu ni ar hyd y ffordd wrth gwrs."
Gerallt Williams yw aelod newyddaf a ieuengaf y band, a ddechreuodd chwarae gyda'r criw yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017. Mae o bellach yn cyfansoddi caneuon ar y cyd gyda Bedwyr.
Mae wedi dod â gwaed newydd i'r band, eglura Peter, ond yr un yw'r band yn y bôn.
"Mae'r aelod 'fenga wedi dod â bach o buzz i ni. Mae o bendant yn wahanol ond dal yn MOJO."

Yr un wefr ers 40 mlynedd
Mae gan y band nifer o gigiau ar y gweill eleni i hyrwyddo'r albwm newydd, er nad ydynt yn disgwyl bod mor brysur ag yn 1989. Yn ôl dyddiaduron Pete, perfformiodd MOJO 72 o gyngherddau yn y flwyddyn honno.

Heddiw, mae bywyd yn fwy prysur, y gwalltiau'n wynach a'r cyrff ychydig yn fwy blinedig, eglura Bedwyr. Ond mae'r nerfau cyn y sioe, y wefr ar y llwyfan, a'r awydd i barhau yn yr un fath.
"'Da ni wrth ein boddau yn chwarae, hyd yn oed bod ni'n hen! Mae 'na le i bawb – mae 'na le i gerddoriaeth newydd grwpiau ifanc, a mae 'na le i grwpiau hŷn. Mae'n bwysig cadw rheiny; roedda ni'n ifanc unwaith!
"Chwarae ym Mhorthaethwy rhyw bythefnos yn ôl, ac oedd hi'n ofnadwy o oer ac roedd llaw Pete wedi cloi efo crydcymala', ac o'n i methu sefyll efo poen yn fy nghefn.. ond er hynna i gyd, 'da ni dal i gario 'mlaen. Awn Ymlaen Fel Hyn!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






