Skip to main content
Advertisement

Hergest Reunion: Original Members Perform at Eisteddfod y Garreg Las After 22 Years

Aelodau gwreiddiol Hergest yn dychwelyd i berfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf ers 22 mlynedd yn Eisteddfod y Garreg Las, 50 mlynedd ar ôl eu perfformiad yn Eisteddfod Aberteifi 1976.

·5 min read
Geraint Davies,  Elgan Ffylip, Derec Brown a Delwyn Siôn

Hergest yn ôl gyda'i gilydd ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las

Bydd aelodau gwreiddiol Hergest - Geraint Davies, Elgan Ffylip, Derec Brown a Delwyn Siôn - yn perfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd.

Mae un o fandiau Cymraeg mwyaf poblogaidd yr 1970au yn dod nôl at ei gilydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.

A bydd Hergest yn dychwelyd i'r Brifwyl yn sir Benfro 50 mlynedd ers perfformio yn Eisteddfod Aberteifi 1976, sy'n agos at leoliad y Maes eleni.

Dyma'r tro cyntaf i'r band chwarae'n gyhoeddus ers 22 mlynedd.

Llun du a gwyn o Hergest
Disgrifiad o’r llun, Doedden nhw'n ddyddiau da... Derec Brown, Geraint Davies, Delwyn Siôn ac Elgan Ffylip. Wnaeth y band berfformio yn Eisteddfod Hwlffordd 1972 ac Eisteddfod Aberteifi 1976

Hanes y Band

Doedden nhw'n ddyddiau da... Derec Brown, Geraint Davies, Delwyn Siôn ac Elgan Ffylip. Wnaeth y band berfformio yn Eisteddfod Hwlffordd 1972 ac Eisteddfod Aberteifi 1976.

Fe gafodd Hergest ei ffurfio wedi i'r pedwarawd gyfarfod ei gilydd yng Nglan Llyn fis Awst 1971.

Wrth sgwrsio fe sylweddolodd Geraint Davies o Abertawe, Elgan Ffylip o Aberystwyth, Derec Brown o Gaerfyrddin a Delwyn Siôn o Aberdâr eu bod yn hoffi'r run fath o gerddoriaeth.

Ffurfiwyd y grŵp yn fuan wedyn gan ryddhau dwy record EP cyn mynd ymlaen i recordio pedwar albwm rhwng 1975-1978, gan gynnwys Glanceri a Ffrindiau Bore Oes.

Fe wnaeth cerddorion eraill ymuno â'r band am gyfnodau, gan gynnwys Arfon Wyn, Rhys Dyrfal Ifans a Gareth Thomas.

Rhai o ganeuon mwya' poblogaidd y grŵp ydi Dyddiau Da, Niwl ar Fryniau Dyfed, Hirddydd Haf a Harbwr Aberteifi.

Advertisement

Er i Hergest ddod i ben yn 1979 mae'r cerddorion wedi cadw mewn cysylltiad byth ers hynny ac aelodau wedi cyd-chwarae ar wahanol brosiectau ac mewn grwpiau eraill dros y degawdau.

Lleoliad a'r amseru yn 'taro tant'

Ond ar wahân i berfformiad preifat i gofio'r basydd John Griffths tua saith mlynedd yn ôl, dydi'r band heb chwarae gyda'i gilydd ers Gŵyl y Faenol yn 2004 - y tro diwethaf iddyn nhw berfformio'n gyhoeddus.

Nawr mae'r pedwar aelod gwreiddiol - Geraint, Derec, Elgan a Delwyn - yn paratoi i chwarae yn y Tŷ Gwerin am 18:15 ar nos Fawrth yr Eisteddfod.

"Wnaeth rhywun ofyn wrth Delwyn os fydden ni'n chwarae yn yr Eisteddfod, a gawson ni neges ganddo fe yn gofyn os oedden ni'n ffansi gwneud," meddai Geraint Davies.
"Ac oherwydd y lleoliad a'r amseru, mae'n taro sawl tant."
Llun lliw o'r 1970au o Hergest
Disgrifiad o’r llun, Roedd Hergest yn fand oedd yn adnabyddus am alawon cryf a harmoniau lleisiol

Roedd Hergest yn fand oedd yn adnabyddus am alawon cryf a harmoniau lleisiol.

Mae'n hanner can mlynedd ers i Hergest berfformio yn yr un ardal, yn Eisteddfod Aberteifi 1976, pan oedden nhw wedi datblygu'n un o fandiau mwyaf poblogaidd y cyfnod.

"Dwi'n cofio'r gwres a'r llwch yn yr Eisteddfod ac yn gobeithio gawn ni dywydd braf eleni - nid mor danbaid, ond ei bod hi'n sych," meddai Geraint.
"Roedd hi'n gyfnod prysur i ni bryd hynny. Roedden ni newydd orffen recordio Ffrindiau Bore Oes ond doedd e heb ei ryddhau.
"Doedd 'na ddim lansiad swyddogol na nosweithie' lansio bryd hynny - roedd recordiau yn rhyw lithro allan yn dawel.
"Mae Derec yn dda iawn am gadw cofnod ynglŷn â pha sets ni wedi chwarae a wnaeth e edrych ar be' wnaethon ni chwarae ac roedd e'n gyfuniad o ganeuon oedd allan yn barod a chaneuon newydd oedd ar y record newydd.
"Ac un o'r caneuon ar yr albwm hwnnw - y gân gyntaf - oedd Harbwr Aberteifi, ac felly mae hwnnw'n rhoi tic arall yn y bocs."
Hergest
Disgrifiad o’r llun, Ffrindiau Bore Oes...

Fe wnaeth Hergest hefyd berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn 1972. Bu'r pedwar yn perfformio mewn gwahanol nosweithiau ac yn sesiwn y cylchgrawn Sŵn, cyn mynd ar daith ledled Cymru a dechrau denu sylw.

Gyda'r aelodau bellach yn byw rhwng Aberystwyth, ardal Abertawe a Chaerdydd maen nhw wedi bod yn ymarfer yn festri Capel Gwaelod-y-Garth, ger Caerdydd, ble mae Delwyn Siôn yn weithgar.

"Ni gyd yn ein 70au felly ni wedi cyrraedd yr oed nawr lle sna'm llawer o'r rhain i fod eto," meddai Geraint.
"Dwi'n edrych ymlaen, mi ryden ni'n hen ffrindiau ac mae'n gyfle i ni ddod nôl at ein gilydd.
"Mae muscle memory yn dod fewn iddi a ni'n arfer yn sydyn iawn.
"A gan ein bod ni i gyd wedi parhau i chwarae ers Hergest dyle ni fod yn ddigon ffit."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Doedden nhw'n Ddyddiau Da: Hanner canrif o Hergest
  • Eisteddfod Aberteifi '76: Pwy sy'n cofio Concwest Cilgerran?
  • 1996: y flwyddyn mwyaf arwyddocaol yn hanes pop Cymraeg?

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News