Cyngherddau Blackweir Live yng Nghaerdydd yn cael caniatâd er gwaethaf gwrthwynebiad
Daeth miloedd o bobl i gyngherddau Blackweir Live yng Nghaerdydd y llynedd.
Mae ymgyrchwyr yng Nghaerdydd wedi beirniadu penderfyniad cyngor y brifddinas i gymeradwyo cyfres o gyngherddau Blackweir Live ym Mharc Bute am yr ail flwyddyn yn olynol.
Bydd artistiaid gan gynnwys The Cure, Lewis Capaldi, Pitbull a Teddy Swims yn perfformio ar gaeau'r Gored Ddu rhwng 24 Mehefin a 4 Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Dywedodd gwrthwynebwyr y cynlluniau eu bod yn parhau i bryderu am effaith y digwyddiadau ar natur, bywyd gwyllt a mynediad y cyhoedd i'r parc.
Ond mae'r cyngor a chefnogwyr y cynlluniau yn dadlau bod y cyngherddau'n denu miloedd o ymwelwyr, yn hybu economi'r ddinas ac yn cyfrannu at wasanaethau lleol.
Mae Paul Barrett yn credu nad caeau'r Gored Ddu yw'r lleoliad cywir ar gyfer y cyngherddau

Cymeradwyodd pwyllgor cynllunio'r cyngor y cais ddydd Iau, gan roi caniatâd i'r digwyddiad ddychwelyd bob haf tan 2031.
Daeth y penderfyniad er gwaethaf ymgais aflwyddiannus gan wrthwynebwyr i gael Llywodraeth Cymru i ymyrryd a chymryd cyfrifoldeb am y cais cynllunio.
Dywedodd cadeirydd Ffrindiau Parc Bute, Paul Barrett, ei fod yn
"siomedig iawn"bod y safle'n cael ei ddefnyddio eto ar gyfer cyngherddau.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd fod y grŵp yn cefnogi cynnal cyngherddau yng Nghaerdydd ond yn credu nad caeau'r Gored Ddu yw'r lleoliad cywir.
"Mae'r un pryderon gyda ni nawr ag oedd gyda ni llynedd,"meddai.
Dywedodd fod y parc yn cynnwys safleoedd pwysig o ddiddordeb gwyddonol ar gyfer natur a bywyd gwyllt, gan gynnwys ystlumod ac adar, a'i fod yn poeni am effaith digwyddiadau mawr ar yr amgylchedd.
Ychwanegodd fod rhai pobl wedi cwyno am gyfyngiadau ar fynediad i rannau o'r parc yn ystod y digwyddiadau ac am lefel y sŵn.
"Ry' ni fel Ffrindiau Parc Bute yn hoff iawn o gerddoriaeth ond mae'r ŵyl yma yn y lle anghywir.
Mae parc i fod ar gyfer pobl Caerdydd nid i Gyngor Caerdydd - 'da ni ddim yn NIMBYs (Not in my Back Yard) ond jyst bod e yn y lle wrong,"meddai.
Cyngherddau Caerdydd: 'Blaenoriaethu elw ar draul natur a'r gymuned'
Gigiau yng Nghaerdydd heb gael caniatâd cynllunio cywir - cyngor
Cymeradwyo cynllun am arena £150m ym Mae Caerdydd
Yn ystod cyfarfod y pwyllgor, dywedodd Lyn Eynon o Gymdeithas Ddinesig Caerdydd fod Parc Bute wedi'i roi
"er mwynhad y cyhoedd, nid digwyddiadau preifat".
Mynegodd bryder hefyd am effaith bosibl y cyngherddau ar amgylchedd naturiol y parc a'r effaith gronnus o gynnal digwyddiadau tebyg bob haf.
Galwodd ar y cyngor i ystyried lleoliadau eraill ar gyfer y cyngherddau a beirniadodd y ffaith fod tocynnau wedi mynd ar werth cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi.
Cododd rhai aelodau'r pwyllgor bryderon hefyd am sŵn y digwyddiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Jon Shimmin ei fod wedi gallu clywed y cyngherddau o'i gartref ym Mhen-y-lan y llynedd a bod y sŵn wedi effeithio ar ei blant.
Dywedodd y Cynghorydd Ali Ahmed y byddai'r sŵn yn effeithio ar rannau helaeth o Cathays a chanol y ddinas, a galwodd am gymeradwyo'r cynlluniau am flwyddyn yn unig, er na chafodd ei gynnig gefnogaeth gan gynghorwyr eraill.
Ond dywedodd swyddogion cynllunio fod
"gwersi wedi'u dysgu"o ddigwyddiadau'r llynedd a bod mesurau ychwanegol wedi'u rhoi ar waith i fynd i'r afael â phryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedodd cynrychiolydd ar ran y cyngor fod gan Gaerdydd hanes hir o gynnal digwyddiadau cerddorol mawr a bod Blackweir Live yn helpu i hyrwyddo rôl y ddinas fel canolfan ddiwylliannol.
Dywedodd Huw Thomas fod y cyngherddau'n dod â budd economaidd i Gaerdydd
Yn gynharach ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod o'r Senedd dros Gaerdydd Penarth, Huw Thomas, ei fod yn credu bod y safle yn
"le anturus a chyffrous iawn"ar gyfer cyngherddau.
Mae'r digwyddiadau yn
"amlwg yn boblogaidd"ac yn dod ag
"incwm i mewn i'r cyngor sy'n cael ei ailfuddsoddi mewn parciau a gwasanaethau diwylliannol", meddai.
Ychwanegodd eu bod hefyd yn dod â budd economaidd i fusnesau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Garry Hunt, a fynychodd gyngerdd Alanis Morissette y llynedd, ei fod yn credu bod y digwyddiad yn
"rhagorol"ac bod y
"manteision yn gorbwyso'r anfanteision".
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael fod
"cyngherddau Blackweir 2025 wedi bod yn llwyddiannus"a bod mesurau lliniaru newydd wedi'u cyflwyno mewn ymateb i bryderon.
Ychwanegodd ei fod yn
"anodd dod o hyd i leoliad a fyddai'n plesio pawb"ac mai ei farn ef oedd bod Blackweir yn addas ar gyfer cynnal digwyddiadau o'r fath.
Yn y bleidlais derfynol, pleidleisiodd saith cynghorydd o blaid y cynlluniau, roedd un yn erbyn ac ac fe wnaeth un ymatal.
Bydd Blackweir Live 2026 yn cael ei gynnal rhwng 24 Mehefin a 4 Gorffennaf.






