Trystan ac Elin ydi enwau'r ddau - ar ôl cyflwynwyr y gystadleuaeth
Mae dau grwban ifanc wedi cyrraedd Ysgol Pentrefoelas yn Sir Conwy.
Fe wnaeth pennaeth yr ysgol, oedd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni, addo prynu crwbanod i'r ysgol pe bai'n ennill y gystadleuaeth.
Er mai trydydd gafodd Rhodri Lloyd Evans yn y gystadleuaeth, fe wnaeth o gadw at ei air, ac fe brynodd ddau grwban i'r ysgol.
Yn ôl Mr Evans, mae'r crwbanod newydd wedi bod yn
"ffordd dda i ddysgu am wahanol rywogaethau".

'Addysg i ni gyd'
"Ges i fy rhoi ar y spot braidd, roeddwn i wedi bod yn 'neud gwaith gyda'r plant ynghylch cael anifail anwes i'r ysgol,"meddai.
"Roedd crwbanod ymhlith y rhai oedd uchaf ar y rhestr."
Pan ddaeth criw ffilmio i'r ysgol, fe wnaeth un disgybl, Casi, ofyn i Mr Evans a fydden nhw'n cael crwban i'r ysgol pe bai'n llwyddiannus.
Ychwanegodd Mr Evans:
"Mi 'naeth Casi roi fi ar y spot, unwaith oedd hynny ar gamera, doedd gen i ddim dewis wedyn, oeddwn i'n gorfod cael crwban.!"
Roedd Rhodri Lloyd Evans wedi addo i ddisgyblion Ysgol Pentrefoelas - ble mae'n brifathro - y byddai'n prynu dau grwban i'r ysgol petai'n ennill
"Rŵan mae'r crwbanod wedi cyrraedd, mae dipyn o gyffro wedi bod efo'r plant sydd yn mwynhau eu cael nhw yma ac mae'r rhieni a'r staff hefyd wedi gwirioni efo nhw.
"Mae 'na lwyth o waith 'da ni'n gallu neud efo nhw - efo anifeiliaid gwaed oer ac ati."
Nid i'r disgyblion yn unig mae'r crwbanod yn brofiad newydd - mae'r athrawon hefyd yn dysgu.
"Mae'n addysg i ni gyd rŵan, 'da ni dal yn y camau cychwynnol o gadw crwbanod, ond 'dw i'n ffodus - mae gen i gymydog sydd wedi darparu'r crwbanod i'r ysgol,"meddai'r pennaeth.
"'Da ni'n gallu disgyn yn ôl arnyn nhw i gael cymorth... mae'r plant wedi mopio efo nhw wir ac isio gwybod popeth amdanyn nhw.
"Mae'n andros o ffordd dda i ddysgu nhw am wahanol rywogaethau ac yn y blaen, ac mae'n ffitio mewn i'n thema ni."

Mae'r crwbanod newydd wedi bod yn destun astudio i'r dosbarth eleni
Wrth drafod ei gyfnod yng nghystadleuaeth Cân i Gymru dywedodd Mr Evans:
"Dwi'n mwynhau cyfansoddi a 'neud caneuon. 'Dw i'n gobeithio rhyddhau un neu ddwy o ganeuon eraill, recordio yn y misoedd nesaf 'ma.
"Mae'n dipyn bach o hwyl, a 'dw i'n mwynhau y broses deud y gwir, rhywbeth gwahanol i beth 'dw i'n ei wneud o ddydd i ddydd."
Cafodd y ddau grwban newydd eu henwi yn Elin a Trystan, ar ôl enwau cyflwynwyr y gystadleuaeth - Elin Fflur a Trystan Ellis Morris.
"Ddaeth yr enwau gan un o'r plant 'dw i'n meddwl. Ond 'da ni'm yn siŵr os mai bachgen neu merch ydyn nhw, felly hwyrach fydd rhaid i ni fynd am enwau sy'n gallu neud i'r ddau ryw mewn ffordd."
Dywedodd Tomos fod rota wedi cael ei chreu ar gyfer y crwbanod

Mae'r disgyblion yn yr ysgol wedi gwirioni cael crwbanod yno yn gwmni.
Dywedodd Tomos, sy'n 10 oed, ei fod yn mwynhau gofalu amdanyn nhw.
"Cyffrous iawn, doeddwn i ddim yn siŵr sut oedden nhw am edrych, os oedden nhw am fod yn fach a faint oed fysa nhw.
"Pryd ddaethon nhw mewn, ges i bach o sioc i ddeud gwir.
"Mae nhw'n yfed allan o'u trwynau nhw ac maen nhw'n rhoi eu pennau yn y dŵr.
"'Da ni wedi neud rota, i wybod pwy sy'n bwydo nhw a phwy sy'n llnau nhw a phethau fel 'na."
Yn ôl Alys, mae'r holl brofiad wedi bod "yn syrpreis"

Mae Alys, 11 oed, hefyd yn mwynhau gofalu am yr anifeiliaid anwes newydd.
"'Dan ni wedi bod yn bwydo nhw, 'da ni wedi bod yn sbïo arnyn nhw bron iawn bob bore, a sa neb yn gadael llonydd iddyn nhw.
Na'th criw S4C ddod mewn i'r ysgol i gyflwyno bod ein prifathro Mr Evans wedi mynd drwadd i ffeinal Cân i Gymru.
"Oedd o'n syrpreis - mi gafodd o drydydd felly mi gafon ni ddau grwban."
Mi gafodd y disgyblion hefyd gyfle i ddod i'r ysgol ar noson y gystadleuaeth i wylio eu pennaeth yn perfformio yn fyw ar y teledu.
Er bod y mwyafrif yn eu hoffi, dywedodd Neli fod rhai plant ofn y crwbanod newydd

Dywedodd Alys:
"Naeth pawb o'r ysgol ddod i'r ysgol nos Sadwrn, a gwylio fo ar y sgrîn fawr... oedd pawb mewn sioc ac yn sgrechian rownd y neuadd i gyd."
Ar ôl iddo gael trydydd, dywedodd Alys ei bod wedi meddwl yn syth wedyn
"mae'r crwbanod yn mynd i gyrraedd".
Roedd Neli, 10 oed, yn dweud fod gweld eu pennaeth yn perfformio yn sioc.
"Oeddan ni gyd ddim yn disgwyl iddo fo gael drwadd i Cân i Gymru, ond oedd Mr Evans ddim chwaith, ond mi 'naeth o allu a chael trydydd.
"'Mae 'na ambell un yn lecio nhw [y crwbanod], ond mae 'na rai ofn nhw, ond 'dw i'n lecio nhw," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer yn ennill Cân i Gymru 2026
Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2026






