Cynrychioli Cymru gyda Marciau Llawn a Gwobr Fawreddog
Mae cynrychioli eich gwlad ar lwyfan rhyngwladol yn brofiad unigryw, ond gwneud hynny gyda marciau llawn a dod yn ôl gyda'r brif wobr yw cyflawniad arbennig iawn. Dyna union a wnaeth Côr Merched Plastaf y penwythnos hwn wrth iddynt gystadlu yng ngŵyl gorawl Golden Voices of Montserrat yng Nghatalunya. Nid yn unig enillodd y côr yn eu categori Ensembles a Chorau Siambr, ond hefyd cipiodd y Grand Prix, sef y wobr am gôr orau'r ŵyl, gan ddod yn y côr cyntaf o Gymru i gyflawni hyn erioed.

Mae'r côr, sy'n gyfuniad o ddisgyblion benywaidd o'r tair ysgol uwchradd Gymraeg yn y brifddinas - Plasmawr, Glantaf a Bro Edern, wedi ennill enw da dros y blynyddoedd am eu sain unigryw a chyfoethog. O dan gyfarwyddyd Caryl Ebenezer, arweiniodd eu gwaith caled at benwythnos o fuddugoliaeth ysgubol o dan haul Sbaen.
Cymuned o Leisiau
Sefydlwyd y côr yn 2010 fel rhan o adran Salem yng Nghaerdydd. Roedd cenhadaeth Caryl yn mynd tu hwnt i ganu'r nodau cywir; roedd hi eisiau creu gofod i ferched ifanc allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Sefydlais i'r côr yn ôl yn 2010 fel rhan o adran Salem yng Nghaerdydd. Maen nhw'n ffantastig. Maen nhw'n gymuned Cymraeg.
"O'n i eisiau bo ni'n creu cymuned Gymraeg fel bod merched ifanc yr oedran yna'n gallu dod at ei gilydd i ganu yn y Gymraeg, i siarad Cymraeg ac i gael profiadau gwych.
"Mae lleisiau mor dda yn y côr. Y rhan fwyaf ohonyn nhw'n cael gwersi canu. Maen nhw'n wych."
Y Daith i'r Basilica
Dechreuodd y daith i Montserrat gyda fideo o'r côr a anfonwyd i drefnwyr yr ŵyl, cyn iddynt gael eu derbyn i'r ŵyl ryngwladol. Cynhaliwyd y digwyddiad ar draws Lloret de Mar a basilica anhygoel Montserrat ger Barcelona, gan ddod â chorau o wledydd mor bell â Lithuania, Canada, Twrci, a Kosovo at ei gilydd.
Roedd yr ŵyl yn gyfle i'r merched ifanc gwrdd â phobl o ar draws y byd.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ddydd Gwener yn Eglwys Sant Roma, ac fe ddilynwyd hynny gan ddydd Sadwrn bythgofiadwy ym Masilica Montserrat - safle gyda thraddodiadau corawl yn dyddio nôl i'r 14eg ganrif.
"Aethon ni ar y bws wedyn lan i Basilica Monsterrat. Eglwys yn y graig yw hi, eglwys enwog lle mae 'na gôr bechgyn enwog wedi cael ei sefydlu yna yn ôl yn y 14eg ganrif.
"Mae traddodiad corawl hynafol yn y basilica 'ma ym Montserrat. Mae fe lan yn y glogwyn, yn y graig, oedd e jysd yn brofiad anhygoel a phawb wrth eu boddau."
Cyrraedd Perffeithrwydd
Er bod y penwythnos yn ddathliad o gerddoriaeth, roedd yr elfen gystadleuol yn frwd. Gyda thri beirniad rhyngwladol o fri yn cadw llygad, roedd y sgorio'n drylwyr iawn. Nos Sul, yn ystod cyngerdd gala mawr lle perfformiodd y côr dri darn o'u dewis, cyhoeddwyd y canlyniadau.

Yn gyntaf, clywson nhw fod Ensemble Plastaf o 16 o ferched wedi ennill y wobr gyntaf yn y categori Ensembles a Chorau Siambr. Wedyn daeth y newyddion anhygoel bod Côr Merched Plastaf wedi ennill y Grand Prix, sef y brif wobr Golden Voices of Montserrat am gôr orau'r ŵyl gyda sgôr berffaith o 100 allan o 100.
"Mae fe'n wahanol i'r Eisteddfod. Pwyntiau sy'n bwysig fan hyn. Gaethon ni 100 allan o 100. Dim ond corau sy'n cael 100 allan o 100 sy'n gallu ennill y Golden Voices of Montserrat - felly gaethon ni farciau llawn.
"Mi oedd hwnna'n newyddion ffantastig a phawb mor hapus. Mae 'da ti dri beirniad rhyngwladol sydd yn enwau mawr yn y byd corawl hefyd. Mae e'n dipyn o bluen yn het y merched i fod wedi ennill hwn."
Dathlu ac Ymlaen i'r Dyfodol
Dathlwyd y fuddugoliaeth mewn modd Cymreig iawn - gyda phryd o fwyd lle'r oedd y merched yn canu caneuon Cymraeg drwy'r nos, gan hyd yn oed gyd-ganu gyda'u halbwm newydd, Annwyl Faria (a gafodd ei recordio yn Eglwys Sant Awstin ym Mhenarth a'i rhyddhau ar label Sain y llynedd).
Cyn i'r merched ddychwelyd i Gaerdydd i wynebu eu harholiadau ysgol, fe gawson nhw ddiwrnod haeddiannol ar y traeth, gyda sawl un yn ddigon dewr i fynd i weld sut roedd dŵr y Môr Canoldir.

Fodd bynnag, nid yw'r amserlen yn arafu am yn hir; mae'r côr eisoes yn paratoi ar gyfer Gŵyl Gerdd Llandaf ym mis Gorffennaf a'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhreseli ym mis Awst.
I'r cantorion ifanc hyn, mae'r tlysau'n fonws hyfryd, ond y wobr go iawn yw'r berthynas y maen nhw wedi'i meithrin ar draws y tair ysgol. Fel y dywed Caryl wrth edrych nôl ar benwythnos o sgoriau perffaith a chyfeillgarwch rhyngwladol:
"Cwrdd â pobl o wahanol wledydd. Mae 'di bod yn brofiad gwych iddyn nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







