Skip to main content
Advertisement

Plasty moethus yng Nghaerdydd o ddrama Rivals ar werth am £8m

Plasty moethus yng Nghaerdydd, a ddefnyddiwyd fel lleoliad ar gyfer y gyfres Rivals, ar werth am £8m. Mae'r eiddo'n cynnwys 7 ystafell wely, campfa, 24 erw o dir, llynnoedd a chwrt tenis, ac mae'n un o'r cartrefi drytaf yn ne Cymru.

·2 min read
Plasty Rivals

Plasty moethus yng Nghaerdydd o ddrama Rivals ar werth

Hoffech chi fyw mewn un o'r cartrefi moethus sydd i'w gweld ar gyfres ddiweddaraf Rivals gan Disney? Mae cyfle nawr gan bod plasty yn ardal Caerdydd, sy'n un o'r lleoliadau yn y rhaglen, bellach ar werth.

Mae gan y plasty bedwar llawr, saith ystafell wely, campfa a 24 erw o dir sy'n cynnwys llynnoedd a chwrt tenis.

Yn y gyfres, mae'r plasty yn ardal Llys-faen yn gartref i Freddie a Val Jones, cymeriadau'r actorion Danny Dyer a Lisa McGrillis.

Danny Dyer (chwith) sy'n chwarae rhan cymeriad Freddie Jones, yma gyda'r actores Katherine Parkinson
Disgrifiad o’r llun, Danny Dyer (chwith) sy'n chwarae rhan cymeriad Freddie Jones, yma gyda'r actores Katherine Parkinson

Gyda phris o £8m, dyma'r cartref drytaf ar werth yn ne Cymru ar hyn o bryd.

Danny Dyer (chwith) sy'n chwarae rhan cymeriad Freddie Jones, yma gyda'r actores Katherine Parkinson

Bella Vista yw enw cartref crand Freddie a Val Jones yn Rivals - sy'n seiliedig ar nofelau'r Fonesig Jilly Cooper.

Ad (425x293)

Er bod lluniau'r tŷ eisoes wedi denu sylw gwylwyr, prin iawn yw'r bobl fydd yn medru fforddio ei brynu, fel eglurodd Jemma Friday o asiantaeth dai Fine & Country ar BBC Radio Wales.

"Ar hyn o bryd dyma gartref drytaf de Cymru, ac mae'n haeddu hynny. Mae'n eiddo gwych, ac mae mynd yno yn brofiad syfrdanol.
"Nodwedd Cymreig yw'r grisiau siap pêl rygbi a pherson busnes lleol, perchennog Peter's Pies oedd berchen â'r eiddo."
Mae'r eiddo'n cynnwys tir, llynnoedd a chwrt tenis
Disgrifiad o’r llun, Mae'r eiddo'n cynnwys tir, llynnoedd a chwrt tenis

Mae'r eiddo'n cynnwys tir, llynnoedd a chwrt tenis.

Sut denu prynwr i eiddo mor ddrud?

Ond sut mae denu prynwr i eiddo mor ddrud a chartref mor fawr?

"Does dim pool enfawr o multi-millionaires yng Nghymru", meddai Jemma Friday.
"Rydyn ni'n gwmni rhyngwladol sydd gyda swyddfeydd dros y byd fel ei fod yn cael ei farchnata dros y byd. Mae llawer o brynwyr yn dod o'r Unol Daleithiau er enghraifft.
"Mae gan y plasty yma nifer o ffactorau fydd yn denu pobl sydd â diddordeb mewn cefn gwlad a threftadaeth ac mae mewn lleoliad sydd wedi ei gysylltu'n dda â Llundain hefyd."
Ystafell fyw yn y ty

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News