Skip to main content
Advertisement

Naomi Allsworth on Living Polyamory: 'Loving More Than One Person Isn't Taboo'

Naomi Allsworth o Grymych yn rhannu ei bywyd amlgarwriaethol mewn rhaglen S4C, gan drafod heriau, cenfigen a'r rhyddid i garu mwy nag un person.

·6 min read
Naomi Allsworth

Bywyd Amlgarwriaethol Naomi Allsworth

"Mae calon fi yn agored i garu gymaint o bobl ond diffyg amser yw'r broblem. A dwi ishe 'neud yn siŵr bod pob person yn bywyd fi yn cael yr amser a'r egni maen nhw werth."

Mae Naomi Allsworth o Grymych yn byw bywyd amlgarwriaethol (polyamory). Mae'r arbenigwr ar oroesi yn y gwyllt yn rhannu ei bywyd a'i pherthynasau mewn rhaglen newydd ar S4C, Cariad Heb Ffiniau: Poliamori a Fi, sy'n dilyn Naomi wrth iddi gynnal perthynas gyda dau ddyn tra'n gweithio ac yn magu ei mab.

Bu'n trafod y "jygl" o fyw bywyd amlgarwriaethol a'r cenfigen sy'n rhan annatod o'r ffordd o fyw, mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw.

"Poliamori i fi yw cael yr hawl i gael mwy nag un perthynas hirdymor.
Dwi dal yn dysgu amdano, hyd yn oed 10 mlynedd mewn i fywyd fel hyn."

Yn ystod y rhaglen mae Naomi mewn perthynas hirdymor gyda Christopher ac hefyd yn cychwyn ar berthynas gyda Matt, sy'n byw yn Llundain.

Er gwaethaf teitl y rhaglen, mae Naomi yn credu fod 'na ffiniau yn ei bywyd rhamantaidd hi:

"Mae pob perthynas yn mynd i fod bach yn wahanol – bydd 'na ffiniau i bob un ond jest ffiniau gwahanol.
Oedd Chris a fi yn fwy agored i weld pobl eraill ond gyda partner newydd fi nawr ni jest yn gweld menywod eraill gyda'n gilydd.
Mae hwnna'n rhywbeth newydd i fi ac iddo fe felly mae pob perthynas yn wahanol ond hefyd yn agor lan opsiynau eraill o'n i ddim yn gwybod amdano."

A'r rhyddid hynny i fagu perthynas gyda menywod neu dynion newydd sy'n bwysig i Naomi, fel mae'n dweud:

"Just gwybod bod 'da fi'r hawl i gael mwy na un perthynas os oes teimladau newydd yn dod lan a chael y gallu i dreial rhywbeth newydd.
Dwi'n gallu bod yn hapus gydag un person – ond mae gwybod bod yr hawl 'da fi i gael mwy na un perthynas, dyna beth sy'n gweithio i fi.
Mae bob person yn dod â theimladau newydd ond dwi'n glir efo nhw o'r dechrau beth yw setup fi. Dwi byth yn trio twyllo unrhyw un."

Roedd Naomi yn fentor ar gyfres S4C Tŷ Ffit ac hefyd wedi ymddangos yn y gyfres realiti Alive ar

Naomi Allsworth
Disgrifiad o’r llun, Roedd Naomi yn fentor ar gyfres S4C Tŷ Ffit ac hefyd wedi ymddangos yn y gyfres realiti Alive ar

Ar hyn o bryd mae Naomi a'i chariad newydd yn gweld menywod eraill ac mae'n cydnabod fod emosiynau yn gallu cymhlethu y sefyllfa:

"Mae 'na risg o gwympo mewn cariad ond dwi'n gwybod bod cariad ni mor gryf – ni'n gallu siarad am hwnna os ydy e'n dod lan. Delio gyda'r logistics sy'n anodd wedyn.
Ond dwi'n agored i beth bynnag all ddigwydd."

Y jygl i gadw pawb yn hapus yw un o'r prif heriau, yn ôl Naomi:

"Mae mwy na dau berthynas yn anodd yn enwedig efo mab fi ac hefyd gwaith sy'n cymryd fi i bob cornel o'r byd.
'Sym mwy o amser 'da fi. Mae'n cymryd llawer o amser ac egni ond mae cyfathrebu a chynllunio yn allweddol i gael perthynas fel hyn."

Advertisement

Naomi gyda'i mab a Christopher a Matt. Roedd Christopher hefyd mewn perthynas gyda menywod eraill

Naomi gyda Christopher a Matt a'i mab
Disgrifiad o’r llun, Naomi gyda'i mab a Christopher a Matt. Roedd Christopher hefyd mewn perthynas gyda menywod eraill

Yn naturiol mae cenfigen yn rhan annatod o fywyd amlgarwriaethol ond mae Naomi'n credu'n gryf fod cenfigen yn rhywbeth positif:

"Dwi mor genfigennus, dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth dyw pobl ddim yn disgwyl.
Mae cenfigen yn normal ac yn signal i stopio a meddwl a siarad, ond hefyd mae'n rhywbeth neis i atgoffa dy hun fod teimladau cryf yno.
Dyw cenfigen ddim yn rhywbeth negyddol, mae'n gallu bod yn rhywbeth neis.
Mae cael y sgyrsiau hynny hefyd yn neis a ti'n dod mwy agos i rywun drwy gael y sgwrs yna. Mae lot o bobl a cyplau ddim yn trafod."

Mae Naomi'n dweud fod cael ei threisio pan oedd yn 15 oed wedi cael effaith ar ei hagwedd at berthynasau:

"Mae rhywbeth fel 'na yn digwydd – gall rhywun fynd ddau ffordd, naill ai yn cau cariad ac intimacy i ffwrdd yn gyfan gwbl neu byw bywyd yn llawn a thaflu dy hun mewn i garu.
Mae hynny yn agor fi lan i gael fy nghalon wedi torri ond mae hefyd yn rhoi cyfle i fi deimlo'n gryf am bobl, a 'na beth dwi wedi 'neud.
Fwy na dim 'nath hwnna roi'r rheswm i fi gael mwy o control dros perthynasau fi, nid mewn ffordd afiachus ond mewn ffordd le fi sy'n ysgrifennu y rheolau i gyd.
Dwi'n dewis pwy a pryd a ffordd dwi'n gallu caru a ddim yn gwrando ar unrhyw beth o'n gwmpas i a'r ffordd mae pobl eraill yn dweud wrtha'i i garu."

Mae'r ffaith nad yw Naomi wedi cael cyfiawnder gan nad oedd tystiolaeth digonol i ddwyn achos am y trais hefyd wedi cael effaith fawr arni:

"Mae wir yn boenus ond mae hefyd yn digwydd i lot o bobl.
Ond dwi'n hapus yn gwybod bod e ddim wedi rheoli bywyd fi a dyna sy'n bwysig i fi bod e ddim wedi stopio fi fyw bywyd llawn.
O'n i mewn perthynas hefyd ar y pryd ond yn teimlo mod i methu gweud dim byd achos o'n i ddim yn barod i gael perthynas intimate ac oedd e mor anodd i esbonio i partner ifanc beth oedd wedi digwydd so 'nes i ddim."

Bywyd gyda Sawl Cariad

Mae Naomi'n dweud fod caru mwy nag un person yn gallu bod yn anodd ond y peth pwysig yw bod yn onest ac yn agored:

"Mae'n anodd i bobl i ddeall a derbyn ond dyw caru mwy nag un person ddim yn tabŵ.
Mae'r logistics yn anodd ac mae'r diffyg amser yn anodd ond mae'r cariad mor fawr. Ac mae gymaint o egni a passion o gwmpas bywyd fi ac mae hwnna yn ffantastig a bydden i ddim yn newid hynny.
O'n i'n nerfus i rannu hyn ond mae'n bwysig rhannu hyn jest er mwyn dathlu – ac i bobl ddeall bod gyda nhw opsiynau i fyw bywyd llawn mewn ffordd sy' bach yn wahanol."

Gwyliwch Cariad Heb Ffiniau: Poliamori a Fi ar S4C ar nos Fawrth 24 Mawrth neu ar BBC .

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig

Hefyd o Ddiddordeb

Naomi Allsworth: 'Mae bod tu fas yn fath o therapi'

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News