Skip to main content
Advertisement

Jed O'Reilly Answers the Call: Actor and Presenter from Lyn-nedd

Jed O'Reilly, cyflwynydd ac actor o Lyn-nedd, yn rhannu atgofion, hoff leoedd, profiadau a hoff gerddoriaeth mewn cyfweliad manwl.

·7 min read
Jed O'Reilly

Y cyflwynydd a'r actor o Lyn-nedd, Jed O'Reilly, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Yn wyneb cyfarwydd i wylwyr ifanc rhaglenni fel Stwnsh Sadwrn a Mabinogi-ogi, mae hefyd yn cyflwyno'r podlediad How's Your Mam?.

Mae'n chwarae Gwyn yn y cynhyrchiad Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau, a fydd ar daith ledled Cymru fis Mehefin.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Mae'r atgof yma yn ddoniol nawr ond ddim i Mam a Dad ar y pryd fi'n siŵr. Cofio bod ar fy ngwyliau, pan o'n i tua dwy flwydd oed. Neidies i mewn i'r pwll heb arm bands ar ôl bwyta a 'nath neb sylwi heblaw fy ffrind oes Shaun Moses, diolch byth. Fi'n cofio'n glir ei bawennau mawr yn dod mewn i'r dŵr ac achub fi, ar ôl be' oedd yn teimlo fel oes. Felly diolch Shaun, byse fi ddim 'ma hebddo ti.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Mae'n anodd peidio dweud Glyn-nedd. Fi'n caru byw yma ac wedi prynu lle fy hun erbyn nawr gyda fy mhartner Lois.

Ond mae gennai atgofion mor felys o fod lawr y garafan yn Saundersfoot pan o'n i'n fach. Oedd tua pedwar neu bump teulu agos o Lyn-nedd yn mynd gyda'n gilydd bron pob haf.

Felly os oedd rhaid i fi ddewis, Saundersfoot - er 'sai'n mynd 'na yn ddigon aml dyddiau 'ma.

Saundersfoot
Disgrifiad o’r llun, Harbwr hardd Saundersfoot yn Sir Benfro

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Mae yna gymaint i ddewis, fi 'di cael sawl noson gofiadwy.

Ond yn ddiweddar, roedd Oasis yng Nghaerdydd haf diwethaf yn eithaf epig. Gwnaeth fi a fy ffrind Gwydion fynd gyda'n gilydd. Eithaf munud olaf a talu lot gormod i fynd, ond o'dd e bendant werth e.

'Nathon ni hyd yn oed sneakio lawr i'r standing tickets zone, er o'dd gyda ni docynnau seti. O'dd e fel mission impossible yn trio mynd mewn.

Noson amazing; o'dd pawb mewn hwyliau da - mor dda o'n i'n rhoi cwtsh i bobl o'n i ddim hyd yn oed yn 'nabod yn ystod rhai caneuon.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Roedd grŵp mawr ohonon ni yn mynd ar ein gwyliau gyda'n gilydd yn aml, teuluoedd gwahanol o'r pentref ac un flwyddyn aethon ni i Orlando, Florida i ymweld â'r theme parks.

James Newell o'dd un o'n ffrindiau 'nath dod gyda ni a dydi James ddim yn 'neud yn dda gyda rollercoasters. Gwnaethon ni berswadio fe i fynd ar yr un mwyaf yn Universal ar y pryd - Rip Ride Rock It!

Roedd camera ar y sêt o flaen ti yn ffilmio popeth a wna' i byth anghofio wyneb James ar y footage 'na. 'Nath e faintio ar un adeg a dihuno eto yn sgrechen. Un o'r pethe mwyaf ffyni weles i erioed.

Ond 'nathon ni ddim prynu fe am ryw reswm - rhy ddrud siŵr o fod. Fi'n difaru hynna lot!

Rip Ride Rock It
Disgrifiad o’r llun, Dim rhyfedd fod gan James ofn ar y Rip Ride Rock It!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Fi'n di cael track record o 'weud pethe twp yn ystod fy mywyd.

Fi yn dyslexic a fi'n defnyddio hynna fel esgus weithiau, ond unwaith 'nes i feddwl o'dd y peiriant condom yn y toiledau yn beiriant 'bon bon' fel ti'n cael yn y siop losin. 'Nes i ofyn Mam i roi 50c i fi er mwyn cael un...

O'n i yn tua saith ar y pryd i fod yn deg i fi.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Fi'n eithfach emosiynol. Fi'n crio yn aml yn gwylio ffilm.

Ond mae fy mhartner Lois Elenid yn actor ac yn fardd, a 'nath hi ddarllen ei cherdd mwyaf diweddar hi i fi wythnos diwethaf, darn mor hyfryd ohoni hi'n cofio ei thad.

Advertisement

O'n i newydd godi yn y bore ac o'n i ddim yn prepared i glywed rhywbeth fel'na. Dagrau ymhobman. Dylse hi 'di rhoi trigger warning i fi!

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Oes, llawer. Ond fi'n ofnadwy am gnoi fy mysedd i, i'r pwynt maen nhw'n brifo.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Gormod o ffilmiau i ddewis rili. 'Nes i dyfu lan yn gwylio ffilmiau Jim Carrey ac mae'r ffilm Me, Myself & Irene yn sefyll mas.

'Sai'n darllen gymaint â liciwn i, ond fi'n hoff iawn o hunangofianau a 'nes i ddarllen un Ozzy Ozbourne ar fy ngwyliau yn Cyprus haf diwethaf. Mae'r llyfr yn insane a mor ffyni.

Fi hefyd yn caru cartŵns; bach gormod falle achos mae gyda fi a fy ffrind Jacob Oakley yr un tatŵ o'r cartŵn Rick and Morty ar ein breichiau ni.

Kelly Jones
Disgrifiad o’r llun, Diod gyda Kelly Jones? Byddai Jed wrth ei fodd

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Kelly Jones. Eto, rhywbeth 'nes i dyfu lan yn gwrando arno.

Mae fy hoff gerddoriaeth lot i'w wneud gyda fy mrawd. Fi'n cofio fe yn gwrando ar fandiau yn ei stafell wely neu'r car ac o'dd y Stereophonics wastad mlaen gyda fe. Fi'n caru pobl sy'n dweud stori a fi'n credu mai Kelly Jones yw un o'r goreuon.

Hefyd mae fe di tyfu lan yng Nghwmaman sydd yn agos iawn i Lyn-nedd, felly mae 'na wastad 'di bod rhywbeth o'n i'n ei edmygu am y ffaith bod nhw wedi 'neud mor dda ac o'dden nhw just 10 muned i ffwrdd o fi.

'Swn i'n caru ishte lawr a siarad gyda fe a gwrando ar y straeon i gyd.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i bâr a sgidie dawnsio tap. Amser o 'mywyd lle o'n i ddim yn gwybod be' o n i ishe 'neud.

Mae'r esgidie tap dal yn gefn cwpwrdd tŷ Mam ac mae nhw byth yn dod nôl allan. 'Nath Jack Quick ffeindio nhw unwaith a methu stopio chwethin.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Bod gyda'r pobl fi'n caru mwyaf. 'Sdim ots lle. Cael drinc, bwyd neis a laff.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Y llun yma o fi a Nanna. 'Nes i ffeindio fe ar ôl iddi farw ac mae fe lan yn fy nhŷ i nawr.

Dal yn cofio treulio oriau lawr tŷ hi, cael unrhyw beth o'n i ishe - spoilt rotten! Fi a hi yn gwylio pob gêm rygbi Cymru a gemau Manchester United gyda'i ffefryn hi - Ronaldo. "There's my boy", bydde hi'n dweud.

O'dd hi'n gymaint o gymeriad a dwi'n methu hi.

Nanna a Jed
Disgrifiad o’r llun, Nanna a Jed - llun sy'n agos at ei galon

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fi'n hapus i fod yn fi, gweud y gwir. Os oedd rhaid i fi ddewis, swni'n lico bod yn Jedi o Star Wars. Fi bron yna, jyst angen adio'r "i"...

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News