Skip to main content
Advertisement

Ffermwyr Ifanc yn 90: Chwilio am Gadeiryddion Coll y Blynyddoedd

Wrth i Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ddathlu 90 mlynedd, mae'r mudiad yn chwilio am luniau a manylion cadeiryddion cynnar i lenwi bylchau yn y cofnodion hanesyddol.

·6 min read
Cadeiryddion coll

Mae 'na fylchau yng nghofnodion y mudiad o flynyddoedd cynnar

Wrth i mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ddathlu ei 90fed pen-blwydd eleni, mae ymgais yn mynd rhagddo i ddod o hyd i luniau ac enwau pob un o'r cadeiryddion ers sefydlu'r mudiad.

Er nad yw llawer o wybodaeth wedi mynd ar goll, mae manylion am gadeiryddion y blynyddoedd cynnar yn brin iawn.

"Ry'n ni'n chwilio'n benodol am luniau y rhai sydd mewn blychau porffor ac os yw'r lluniau yn bodoli bydden ni wrth ein bodd petai pobl yn medru eu hanfon aton ni," medd Rhianwen Jones, un o swyddogion y swyddfa ganolog.
"Mae eleni yn flwyddyn fawr i ni - a bydden ni wrth ein boddau yn cael darlun llawnach o'r 90 mlynedd.
"Rydyn ni, er enghraifft, yn chwilio am lun o Tom Lewis a J A George o Geredigion a fu'n gadeirydd am sawl blwyddyn - ry'n ni wedi cael llun ryw dri o'r 1960au ond mae 'na fylchau o hyd."

Mae cofnodion y blynyddoedd diweddar yn fwy cyflawn

Cofnod cadeiryddion
Disgrifiad o’r llun, Mae cofnodion y blynyddoedd diweddar yn fwy cyflawn

Ymhlith y cadeiryddion ar hyd y blynyddoedd mae tad a merch - sef Gwynne Davies a'i ferch Caryl Haf o Landdewi Brefi yng Ngheredigion.

"Ro'dd e'n brofiad o'n ni wastad wedi breuddwydio amdano ers pan o'n i'n fach - o bosib am fy mod am ddilyn ôl troed Dad," meddai Caryl wrth siarad â Cymru Fyw.
"Cadeirydd clwb o'n i i ddechrau, cadeirydd sir wedyn yn cynrychioli Ceredigion ar bwyllgorau Cymru ac yna cadeirydd Cymru rhwng 2021 a 2022.
"Cyn hynny ro'n i wedi cael y fraint i fod yn frenhines Ceredigion a dyna pryd enillodd Llanddewi Brefi rali'r sir - blwyddyn arbennig iawn."

Mae Caryl Haf bellach yn un o arweinyddion CFFI Llanddewi Brefi

Caryl
Disgrifiad o’r llun, Mae Caryl Haf bellach yn un o arweinyddion CFFI Llanddewi Brefi

Roedd Caryl yn gadeirydd yn ystod diwedd cyfnod Covid, a ddisgrifiodd fel "cyfnod hynod o anodd" wrth i'r mudiad fethu cynnal y digwyddiadau arferol, a chyfnod a welodd nifer yr aelodau yn gostwng.

Fe ddangosodd adroddiad diweddar bod y niferoedd bellach wedi codi i'r hyn oedden nhw cyn cyfnod Covid.

"Roedd hi'n amlwg yn gyfnod heriol dod â'r mudiad allan o Covid ond roedd cael bod yn gadeirydd yn fraint arbennig", ychwanegodd.
"Rwy'n parhau i fod yn un o arweinyddion clwb CFFI Llanddewi er mwyn rhoi yn ôl be' ges i - ac ymhen rhai blynyddoedd bydd y mab gobeithio yn mynd i'r un clwb a chael y profiadau bendigedig a ges i."

Cyn ei chyfnod yn gadeirydd CFFI Cymru bu Caryl yn frenhines CFFI Ceredigion

Cyn ei chyfnod yn gadeirydd CFFI Cymru bu Caryl yn frenhines CFFI Ceredigion
Disgrifiad o’r llun, Cyn ei chyfnod yn gadeirydd CFFI Cymru bu Caryl yn frenhines CFFI Ceredigion

Roedd tad Caryl, Gwynne Davies, yn gadeirydd yn 1985-86.

"Rwy'n falch iawn bod Caryl wedi cael ei phenodi yn gadeirydd hefyd - ond nid ni yw'r unig berthnasau. Cyn fi roedd Edna Davies o Sir Benfro yn gadeirydd ac yn go ddiweddar fe wnaeth ei merch Katie ddilyn ei throed hithau.
"Ar ôl bod yn gadeirydd Cymru es i'n gadeirydd Cymru a Lloegr - ond roedd yna dipyn o wahaniaeth. Roedd y Cymry yn gwybod yn iawn pwy o'ch chi - roedd yna ryw agosatrwydd wastad."

Yn ei waith bob dydd mae Gwynne Davies yn cyhoeddi mewn sioeau ar yr uchelseinydd ar draws Cymru.

"Heb fy mhrofiad gyda'r ffermwyr ifainc fydden i ddim yn gallu gweud yr un gair yn gyhoeddus, na stiwardio na beirniadu yn y Sioe Fawr - mae'r holl brofiadau wedi bod mor werthfawr."

Gŵr a gwraig yn gadeiryddion

Mae Gwenan Prysor a Clwyd Spencer ymhlith cadeiryddion CFFI Cymru.

Advertisement

Clwyd Spencer a Gwenan Prysor yw'r unig ŵr a gwraig sydd wedi bod yn gadeiryddion CFFI Cymru.

Roedd Clwyd, sydd o Dreffynnon yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Henllan ger Dinbych, yn gadeirydd cenedlaethol yn 1994-95.

"I glwb bach Chwitffordd ro'n i'n mynd, fanno fu Mam, Ceinwen Spencer yn mynd, a bues i'n ffodus bod arweinydd yno yn ein gwthio ni hogia i fod ar bwyllgorau - rhai lleol i ddechrau, yna rhai sir a Chymru.
"Roedd cael bod yn gadeirydd yn brofiad arbennig iawn - cael trafaelio ar draws Cymru i lefydd na f'aswn i wedi mynd iddyn nhw.
"Dwi rŵan yn helpu gyda'r clwb lleol yma - Clwb Henllan - ac wrth fy modd."

Mae ei feibion ef a Gwenan yn byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Yn ddiweddar fe awgrymodd Prif Weithredwr CFfI Cymru, Mared Rand Jones, efallai y byddai modd sefydlu clwb yng Nghaerdydd i'r rhai sydd wedi bod â chysylltiad â chlybiau gael cwrdd â'i gilydd.

Dywedodd Clwyd: "Dwi'n falch bod y meibion yn hapus yng Nghaerdydd.
"Dwi'n gobeithio ddon nhw nôl rhywdro yn eu hamser eu hunain - a felly byddai cael clwb yng Nghaerdydd ddim yn ddrwg o beth."

Clwyd a Gwenan ar ddiwrnod eu priodas

Mae Gwenan Prysor a Clwyd Spencer ymhlith cadeiryddion CFFI Cymru
Disgrifiad o’r llun, Mae Gwenan Prysor a Clwyd Spencer ymhlith cadeiryddion CFFI Cymru
Clwyd a Gwenan
Disgrifiad o’r llun, Clwyd a Gwenan ar ddiwrnod eu priodas

Fe gyfarfu Gwenan a Clwyd drwy weithgareddau y clybiau Ffermwyr Ifanc.

Bedair blynedd ar ôl Clwyd tro Gwenan, a arferai berthyn i Glwb Dyffryn Ogwen, oedd hi i fod yn gadeirydd CFFI Cymru.

"Roedd o'n andros o fraint ond yn gyfrifoldeb hefyd i wneud cyfiawnder â'r swydd," meddai.
"Yn digwydd bod roedd gen i fabi pan o'n i'n gadeirydd ac roedd o'n reit anodd ar adegau bod allan sawl noson yr wythnos.
"Yn sicr doeddwn i ddim yn g'neud y gwaith er mwyn cael clod i fi fy hun ond er mwyn y mudiad.
"Mae'n mudiad gwbl unigryw - yn hybu dinasyddiaeth ymhlith yr ifanc ac yn eu dysgu i wneud pethau drostynt eu hunain.
"Mae'r mudiad angen pob cymorth ariannol er mwyn cario 'mlaen â'r gwaith gwych sy'n digwydd."
"Mae dathlu'r 90 yn mynd i fod yn flwyddyn llawn cyffro," ychwanegodd.

Fe ddangosodd adroddiad diweddar sy'n asesu'r hyn mae'r clybiau wedi ei gyflawni, bod 74% o aelodau y 138 o glybiau sydd yng Nghymru yn siarad Cymraeg.

Wrth nodi y weledigaeth ar gyfer y blynyddoedd nesaf mae'r adroddiad yn nodi y bydd cryn bwyslais ar Gymreictod a chefnogi cymunedau gwledig.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Gêm 'bwysig' i addysgu pobl ifanc am ddiogelwch ar ffermydd
  • Y to ifanc yn 'fwy parod' i gymryd hyfforddiant diogelwch ffermydd

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News