Canslo sioe 125 mlwyddiant Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig
Mae sioe i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig (WPCS) yn 125 oed wedi cael ei chanslo ar ôl i lai na chant o gystadleuwyr gofrestru.
Roedd y digwyddiad i fod i gael ei gynnal ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ym mis Awst, ond yn ôl y trefnwyr, mae'r nifer isel o gofrestriadau'n golygu nad yw hi'n bosibl yn ariannol i barhau â'r cynlluniau.
Mewn datganiad, dywedodd y gymdeithas eu bod wedi gwneud y
"penderfyniad anodd ond cyfrifol"yn dilyn adolygiad o'r cofrestriadau cyn y dyddiad cau.
Ychwanegodd y gymdeithas - sef cymdeithas bridiau brodorol fwyaf y DU gyda mwy na 5,000 o aelodau ar draws y byd - fod y gefnogaeth ar gyfer y digwyddiad wedi bod yn
"siomedig".
Effaith ffliw ceffylau a chostau cynyddol ar y digwyddiad
Mae'r sefydliad yn cydnabod effaith yr achosion diweddar o ffliw ceffylau a chostau tanwydd cynyddol ar gystadleuwyr, ond doedden nhw ddim yn disgwyl cyn lleied o gofrestriadau.
Pe bai nifer y cofrestriadau'n dyblu cyn y dyddiad cau, byddai'r digwyddiad dal yn anghynaliadwy'n ariannol, meddai ymddiriedolwyr, oherwydd costau cynnal y digwyddiad.
Ychwanegodd y gymdeithas y byddai oedi cyn gwneud penderfyniad wedi arwain at gostau canslo ychwanegol.
Siom Ifor Lloyd a sylwadau ar y penderfyniad
Mae Ifor Lloyd yn siomedig iawn ond yn dweud nad oedd dewis arall os oedd y gymdeithas yn credu
"bod e ddim yn mynd i fod yn broffidiol".
Dywedodd Ifor Lloyd, sydd wedi bod yn aelod o'r gymdeithas ers tua 60 o flynyddoedd, fod y newyddion yn
"siom i ni gyd".
Roedd y bridiwr enwog o Bennant yng Ngheredigion yn edrych ymlaen at y digwyddiad.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd:
"Mae unrhyw ddathliad yn achlysur i'w gefnogi - mae'n rhaid bod y trefnwyr wedi cael cymaint o siom."
Er nad yw ar y cyngor bellach, ychwanegodd Mr Lloyd:
"Os o'n nhw'n teimlo bod cyn lleied wedi rhoi eu henw gerbron a bod e ddim yn mynd i fod yn broffidiol doedd dim llawer o ddewis gyda nhw."

Cynlluniau i nodi'r garreg filltir mewn ffyrdd eraill
Er fod y gymdeithas wedi canslo'r digwyddiad, dywedon nhw eu bod dal yn awyddus i ystyried ffyrdd eraill o nodi'r garreg filltir.
Felly maen nhw'n bwriadu bwrw ymlaen â chynlluniau i gynnal cystadleuaeth y beirniaid ifanc a oedd i fod i gael ei chynnal yn ystod y sioe.
Bydd y gymdeithas hefyd yn cysylltu â'r rhai hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad neu wedi'i noddi ynghylch trefniadau ad-dalu.
Prisiau cynyddol yn effeithio ar y gymdeithas
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, ychwanegodd Mr Lloyd ei fod yn meddwl
"mai yn 'neud ag arian oedd e', oherwydd o nhw ddim wedi cael digon o enwau gerbron i gystadlu ac felly oedd yr ochr ariannol yn dod yn bwysig".
"Ac wrth gwrs mae'r bobl sydd ar y cyngor bellach ma' 'da nhw gyfrifoldeb i ofalu ar ôl cyllid y gymdeithas yn ogystal."
"Mae'n anodd cymharu'r sioe hon a sioeau'r gorffennol.
"Ond i gymharu â'r nifer sy'n mynd i'r Sioe Frenhinol, wrth gwrs, wel, dim ond llond dwrn sy'n mynd.
"Ond ma' gymaint o ffactorau chi'n gweld - ma pris tanwydd wedi mynd fyny, ma' pris bwyd ceffylau wedi mynd fyny - ma' pob peth wedi mynd fyny a dim byd wedi mynd lawr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






