Diwedd Cyfnod i Eisteddfod Llandegfan gyda'r Goron Arian Olaf
Mae Eisteddfod Llandegfan yn dod i ben ar ôl cyflwyno'r goron olaf gan John Price, y gof arian o Fachynlleth. Enillydd y goron yn yr eisteddfod ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf oedd y bardd a newyddiadurwraig Karen Owen.
Mae'r fuddugoliaeth yn arbennig gan mai Karen oedd enillydd y goron gyntaf a grëwyd gan John ar gyfer yr eisteddfod honno yn 1996.
"Roeddwn i ofnadwy o falch pan gafodd wybod mai fi oedd enillydd y goron eleni," meddai Karen Owen.
"Doedd dim byd i'w wneud efo'r clod na'r seremoni na dal sylw na dim felly; roedd o i gyd i'w wneud efo cwblhau y cylch rhwng 1996 pan enillais i goron gynta' John i Eisteddfod Llandegfan, a'r goron ola' roedd o wedi ei pharatoi."
Edward Morus Jones, llywydd y dydd a chyn-bennaeth Ysgol Llandegfan, cyfarchodd y bardd buddugol.

Roedd y bardd coronog yn emosiynol yn ystod y seremoni, ond nododd,
"do'dd 'na ddim byd trist amdano fo – roedd o'n rhywbeth hapus ofnadwy".
Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae Karen wedi bod yn byw yn Vienna yn ddiweddar, lle mae'n darlithio ar lenyddiaeth Cymru. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, rhannu ei barddoniaeth yn rhyngwladol, ac wedi byw mewn cwfaint yn Awstria am gyfnod.
'Werth Dod Allan o Ymddeoliad'
Er nad oedd hi'n bwriadu cystadlu eto, dywedodd Karen fod y cyfle yn rhy dda i'w golli.
"O'n i'n meddwl mod i wedi ymddeol, ond dwi'n deud ei bod hi'n werth dod allan o ymddeoliad o dro i dro."
"Dwi wedi bod yn edmygydd mawr o grefft ac ysbrydoliaeth John ar hyd y blynyddoedd. Mae gen i un neu ddwy o goronau eraill mae o wedi eu gwneud ar gyfer Eisteddfodau eraill hefyd."
"O'n i jest yn meddwl gymaint mae Karen Owen wedi newid rhwng 1996 a 2026, a rhywsut neu'i gilydd yn y 30 mlynedd yna, mae 'na lot o eisteddfota, lot o sylwadau beirniaid, a lot o grefftwaith pobl r'un fath â John hefyd wedi bod yn rhan o'r hyn sydd wedi bwydo i mewn i pwy ydw i a sut ydw i'n dweud pethau. Rhywbeth tebyg i hynny oedd yn fy ngyrru i."
Gobaith Mawr y Ganrif
Ffugenw Karen oedd Gobaith Mawr y Ganrif, cliw i destun y gwaith, sef cywydd coffa i'r diweddar fardd a cherddor Geraint Jarman.
Y Prifardd Gerwyn Williams oedd beirniad y gystadleuaeth ac roedd yn falch iawn o'r gerdd.
"Mae'r gerdd yn llawn cyfeiriadau at ganeuon a cherddi Jarman. Dyma fardd hyderus a chlir ei fynegiant a'i idiom yn perthyn i'r oes sydd ohoni. Mae'n cloi yr un mor argyhoeddiadol drwy hiraethu am yr artist arbennig hwn a dathlu ei dalent."
"Dyma gystadleuydd sydd sbel ar y blaen i weddill y cystadleuwyr a hyfrydwch yw cael cyhoeddi ei fod yn llwyr deilyngu coron yr eisteddfod hon."
Karen Owen gyda'i choronau, a Gerwyn Williams, y beirniad. Mae'r goron fawr yn eiddo i'r Eisteddfod, ond mae Karen yn cael cadw'r goron fach, sef un olaf John Price.

Di-goron yn 2027?
John Price, y gof arian o Fachynlleth, sydd wedi bod yn creu coronau i nifer o eisteddfodau, gan gynnwys y Brifwyl, ers degawdau. Er ei fod yn byw ym Machynlleth bellach, mae'n wreiddiol o Aberffraw ar Ynys Môn.
Mae coron wedi cael ei chynnig yn Eisteddfod Llandegfan ers 1982; y bardd coronog yn 1995 oedd Gerallt Lloyd Owen.
Creodd John Price goronau bach gydag arian oedd ganddo ar ôl, er mwyn eu cyflwyno i'r beirdd buddugol yn yr eisteddfod; y gyntaf o'r rheiny oedd yn 1996, a'r olaf a gafodd ei gwobrwyo eleni.

John Price wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu coronau i eisteddfodau ers blynyddoedd - gan gynnwys coron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.
Nawr, mae'r eisteddfod, sy'n 102 oed eleni, yn chwilio am goron ar gyfer 2027.
Eglurai Rhian Medi, aelod o Bwyllgor yr Eisteddfod a oedd yn arwain y seremoni:
"Rydym yn ddi-goron ar gyfer y flwyddyn nesa' oni bai y daw noddwyr ymlaen, neu y cawn rodd o Goron fach."
"Mae pris arian wedi cynyddu cymaint fel mae'n amhosib cael coronau arian pur. Mae cael peth arian, neu plât arian (silver plated) yn llawer haws ei gyrraedd."
"Dyna reswm arall pam fod y seremoni hon wedi bod mor arbennig i ni fel Eisteddfod, a bod bardd, a cherdd mor glodwiw wedi cyrraedd y brig!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






