Ateb y Galw: Jac Larner
Gan fod eleni'n flwyddyn etholiadol bwysig yng Nghymru, mae'r cyhoedd wedi bod yn cadw llygad barcud ar y polau piniwn dros y misoedd diwethaf.
Felly, mae'n amserol bod un o'r prif arbenigwyr ar bolau piniwn yng Nghymru, Dr Jac Larner, yn ateb y galw.
Mae Jac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'n dysgu Ymddygiad Gwleidyddol a Dulliau Ymchwil.
Daw Jac o ardal Caerffili yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw gyda'i deulu ifanc yng Nghaerdydd.

Beth yw eich atgof cyntaf?
Fy mrawd yn cael ei eni ychydig cyn i mi droi'n dair. Cafodd ei eni adref felly dwi'n cofio nifer o fydwragedd yn dod i'r tŷ.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Porth Stinan yn Sir Benfro. Mae gen i lot o atgofion o fynd yno efo fy rhieni pan o'n i'n iau, a nawr rwy'n mynd yno fy hun efo fy nheulu bach i.

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
O'n i mewn parti mewn tŷ pan o'n i yn yr Unol Daleithiau a 'naeth y dancefloor golapsio, ac aeth rywun drwodd i'r seler. Roedd hynny'n dipyn o hwyl (a doedd y person ddim wedi ei anafu!)
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Trip ar gwch ar Môr y Canoldir ar stag night fy ffrind – llawn digwyddiadau.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
'Nes i wneud llanast llwyr o ganu ar lwyfan mewn Eisteddfod pan o'n i'n 10 oed a mae o dal yn gwneud i mi crinjio!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Drwy'r amser ers i mi gael plant. Dwi'n meddwl y mwyaf diweddar oedd pan oedden ni'n edrych ar bennod Sleepytime Blŵi.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi heb gael ewinedd call ar fy nwylo ers o'n i tua saith oed.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Fy hoff lyfr yw Lord of the Rings, a 'nes i dreulio oriau di-ddiwedd yn obsesiynu drosto pan o'n i'n iau, a dwi dal yn dychwelyd ato hyd heddiw. O ran ffilm rwy'n meddwl 20th Century Women. Rwy'n caru'r cyfuniad o'r gerddoriaeth, y montages, a'r ffordd mae'n dal y teimlad o foment yn pasia mewn amser. Mae'n hoff albwm yn newid dipyn, ond y fwya' sentimental fydde All Things Must Pass gan George Harrison. Mae'n albwm rhamantus iawn, a 'nes i gael e fel anrheg gan fy mhartner.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Mae'n debyg un o'r gwyddonwyr gwleidyddol sylfaenol o'r 1960 (nerdy iawn, dwi'n gwybod) fel Philip Converse yn Michigan. Roedd academyddion o'r cyfnod yna'n fwy rounded ac yn cael ysbrydoliaeth o bobman. Mae'r dealltwriaeth oedd ganddyn nhw o ran beth sy'n gyrru ymddygiadau ac agweddau yn hynod bwysig i mi yn fy mywyd bob dydd, ac mi fyswn i'n caru gwybod beth fydden nhw'n feddwl o sut mae pethau heddiw.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i datŵ, sy'n silwét o rhinoseros, ar fy nghoes.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Treulio'r dydd efo fy nheulu a bwyta mynydd o chips.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Mae gen i un o fy rhieni a fy mhartner, Rachel, tu fewn i Lyfrgell Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Michigan. Roedd fy nghyfnod yn Michigan yn allweddol i mi, ond roedd rhannu fe gyda nhw yn ei wneud e'n hyd yn oed fwy arbennig.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Basydd y Manic Street Preachers Nicky Wire o'r Coed-duon, un o arwyr Jac

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
Ateb y Galw: Megan Elenid Davies






