Skip to main content
Advertisement

Lois Medi yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd am yr eildro

Lois Medi o Wynedd yw'r ferch gyntaf i ennill dwy gadair yn hanes Eisteddfod yr Urdd, gan ennill y Gadair yn Ynys Môn eleni ar thema Pontio.

·2 min read
Enillydd y gadair

Lois Medi yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn

Lois Medi o Wynedd sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Lois - sy'n wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor - yw'r ferch gyntaf i ennill dwy gadair yn hanes Eisteddfod yr Urdd, wedi iddi ennill cadair Eisteddfod Maldwyn yn 2004.

Manylion y Gystadleuaeth

Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd llunio cerdd neu gerddi - caeth neu rydd - heb fod dros 100 llinell, ar y thema Pontio.

Roedd 12 ymgais eleni, a'r beirniaid oedd Manon Wynn Davies a Rocet Arwel Jones.

Y Gadair a'i Ddyluniad

Rhoddir y gadair gan Gymdeithas Amaethyddol Môn.

Cafodd y gadair ei dylunio gan Rhiannon Williams, cyn cael ei chreu gan Siôn Edwards

Ad (425x293)
Cadair Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun, Cafodd y gadair ei dylunio gan Rhiannon Williams, cyn cael ei chreu gan Siôn Edwards

Daeth dau ben ynghyd i greu'r gadair eleni, gan ddechrau gyda dyluniad y pensaer o Gaerwen, Rhiannon Williams.

Roedd ei dyluniad yn seiliedig ar y thema 'afonydd i'r môr', ac yn rhoi sylw i felinau gwynt yr ynys hefyd.

Wedi hynny, y saer coed Siôn Edwards o Lanfaelog aeth ati i greu'r gadair.

Mae mwy o wybodaeth am y gadair ei hun ar gael yma.

Dilynwch a Chysylltwch

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig

  • Holl enillwyr y prif seremonïau eleni
  • Glain Llwyd yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd
  • Heledd Wynn Newton yw prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd
  • Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd
  • Cyhoeddi enillwyr prif wobrau'r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News