Model o HMS Erebus yng nghanolfan dreftadaeth Doc Penfro
Mae gweddillion morwyr a fu farw ar ôl i long a adeiladwyd yng Nghymru gael ei cholli yn yr Arctig yn y 19eg ganrif wedi cael eu hadnabod gan ymchwilwyr o Ganada.
Ni ddychwelodd HMS Erebus o fordaith i geisio canfod llwybr rhwng Cefnfor yr Iwerydd a'r Môr Tawel, dan arweiniad y capten Syr John Franklin.
Bydd arddangosfa newydd yn agor fis nesaf yn Noc Penfro, yn adrodd hanes yr Erebus a adeiladwyd yn y dref yn 1826.
Mae trefnwyr yr arddangosfa yn gobeithio y bydd yr ymchwil yn cynyddu'r diddordeb yn eu digwyddiad nhw, gan fod disgynyddion rhai o forwyr Erebus wedi cyfrannu ato.
Dirgelwch yn parhau
Fe gollwyd Erebus a HMS Terror – oedd ar yr un daith i'r Arctig - ar ôl iddyn nhw gael eu dal mewn iâ mewn tywydd rhewllyd - bu farw cyfanswm o 129 o aelodau criw o'r ddwy long.
Bydd yr arddangosfa ddwyieithog yn cynnwys arteffactau a achubwyd o'r llongddrylliad sydd erioed wedi'u gweld o'r blaen.
Maen nhw'n cynnwys powlen a phlât, esgid a bwcl o wregys, sydd ar fenthyg gan Amgueddfa'r Llynges gyda chymorth grant o Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Dywedodd Tim Payne, trefnydd yr arddangosfa:
"Ry'n ni wedi gorfod prynu cas wedi'i selio'n hermetig i reoli lefel y lleithder, oherwydd bod yr eitemau yn fregus iawn.
Mae cael pethau fel esgid gafodd ei gwisgo gan swyddog ar fwrdd Erebus yn anhygoel."

Yn ol Tim Payne, trefnydd yr arddangosfa, mae hanes Erebus yn dal i ryfeddu pobl
Cyn y fordaith olaf, roedd Erebus wedi bod yn rhan o deithiau i'r Antarctig rhwng 1841 a 1843 dan arweiniad y Capten James Clark Ross.
Enwyd Mynydd Erebus, llosgfynydd yn Antarctica, ar ei hôl hi.
Ar ôl dechrau am yr Arctig 1845 gyda HMS Terror, cafodd y ddwy long eu dal mewn iâ ym mis Medi 1846 a'r tymheredd yn -20 selsiws.
Ar ôl bod yn sownd am ddwy flynedd, ceisiodd 105 o oroeswyr - roedd 24 aelod o'r criwiau wedi marw eisoes - achub eu hunain trwy gerdded ar draws yr iâ ar y môr i ddechrau ac yna ar dir ynys, gan dynnu slediau trwm o gyflenwadau.
Daeth elfen arswydus o'r hanes i'r amlwg mewn astudiaeth flaenorol o 400 o esgyrn - roedd ymchwilwyr wedi canfod tystiolaeth o ganibaliaeth ar rai o'r esgyrn.

Darlun o Erebus a Terror yn ystod y fordaith i Antartica
Nawr mae anthropolegwyr o Brifysgol Waterloo yng Nghanada wedi astudio'r gweddillion o'r newydd gan ddefnyddio technoleg DNA a gallu cysylltu gyda disgynyddion byw.
Maen nhw wedi enwi tri morwr oedd ar fwrdd Erebus, sef William Orren, David Young a stiward o'r enw John Bridgens. Mae gweddillion Harry Peglar, capten o HMS Terror, hefyd wedi'i adnabod. Doedd dim ôl canibaliaeth ar eu hesgyrn nhw.
Mae Dr Douglas Stenton yn Athro Cynorthwyol mewn anthropoleg ym Mhrifysgol Waterloo, a dywedodd fod yr amgylchiadau a wynebon nhw ar ôl gadael y llongau yn ofnadwy.
"Allwn ni ddim dychmygu bod pob un o'r 105 o ddynion hynny yn ddigon iach i dynnu'r slediau trwm iawn. Ro'n nhw bron i 30 cilomedr o'r lan, felly nid oedd modd hela i gael bwyd da a ffres.
Aeth rhywbeth mawr o'i le. Ai gwenwyn plwm oedd e? Ai sgyrfi? Neu [glefyd] Beriberi? Dy'n ni ddim yn gwybod yn union."

Dr Stenton yn dadorchuddio gweddillion un o'r morwyr a fu farw yn rhanbarth Nunavut, gogledd Canada
Pan adawon nhw eu llongau, dywedodd Dr Stenton fod y morwyr wedi "camu ar lwybr a fyddai'n arwain at eu marwolaeth ac i ebargofiant".
Does gan deuluoedd y disgynyddion ddim llawer o wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw.
"Dwi'n credu ei bod hi'n briodol iawn bod disgynyddion y morwyr yn helpu i ysgrifennu'r bennod newydd hon am yr hyn ddigwyddodd."
Mae'r ymchwilwyr hefyd wedi helpu i greu delwedd o wyneb David Young, gwas caban ar Erebus, a'r morwr iengaf.
"Pan y'ch chi'n cyfuno'r ddelwedd fforensig o'r wyneb... gyda'r gwaith DNA, dwi'n credu ei fod yn dod â phobl yn nes at y stori, mewn ffordd y gallan nhw uniaethu â hi. Y cyhoedd yn sicr, ond hefyd aelodau'r teulu."

Fe fydd fideo tanddwr o'r Erebus yn rhan o'r arddangosfa
Bydd yr arddangosfa yn Noc Penfro yn cynnwys ail-gread o gaban llong, a delwedd holograffig o gloch Erebus a grëwyd o sganiau 3D.
Hefyd fe fydd fideo tanddwr o'r llongddrylliad gafodd ei ddarganfod yn 2014 ac arddangosfa ryngweithiol sy'n egluro sut y cafodd Erebus ei haddasu ar gyfer teithiau i'r pegynnau.
Bydd pedwar o ddisgynyddion aelodau o griw'r Erebus, gan gynnwys perthynas i'r Capten Franklin, yn lansiad yr arddangosfa, gan gynnwys perthynas i David Young.
Dywedodd Tim Payne:
"Hen, hen, hen ewythr un o'n cefnogwyr lleol oedd y gwas caban ar fwrdd HMS Erebus. Cynigiodd fenthyg Medal Arctig ei deulu, sydd gennym yn yr arddangosfa."
'Dod â hi adref'
Adeiladwyd HMS Erebus yn wreiddiol gan y Llynges Frenhinol fel llong bomio - llong arbenigol gyda ffrâm wedi'i hatgyfnerthu a gynlluniwyd i wrthsefyll sioc tanio gynnau mawr.
Er ei bod yn gymharol fach, roedd Erebus yn bwerus iawn – roedd hyn yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer archwilio yn eithafion y de a'r gogledd lle byddai'n cael ei tharo gan rew môr.
Cyfrannodd hi a'i chriwiau at ddarganfyddiadau gwyddonol pwysig ar sawl taith lwyddiannus i'r Antarctig rhwng 1841 a 1843.
Dywedodd Tim Payne fod y stori'n dal i ryfeddu pobl hyd heddiw.
"I ni mae'n gylch cyfan," meddai. "Lansiwyd Erebus o Ddoc Penfro ar 7 Mehefin 1826 ac yn 2014 cafodd ei hailddarganfod.
Rwy'n credu bod hyn yn dod â hi adref, ac yn adrodd yr hanes rhyfeddol hwnnw sydd gennym."
Mae'r arddangosfa i'w gweld yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro o 8 Mehefin hyd at ddiwedd mis Hydref.






