Oedi hyd at wyth mis i ffwrnais trydan newydd ym Mhort Talbot
Gallai cynlluniau ar gyfer ffwrnais trydan gwerth £1.25bn ym Mhort Talbot gael eu hoedi am hyd at wyth mis oherwydd problemau cysylltedd trydanol, yn ôl Tata Steel.
Roedd y bwriad i'r ffwrnais drydan newydd fod yn weithredol erbyn diwedd 2027, gan ddisodli'r ffwrneisi chwyth a gafodd eu cau ddwy flynedd yn ôl, a arweiniodd at golli 2,000 o swyddi.
Mae Tata Steel yn cydweithio gyda'r Grid Cenedlaethol i uwchraddio'r seilwaith trydanol a chefnogi'r ffwrnais drydan newydd.
Fodd bynnag, mae'r BBC yn deall bod y prif weithredwr, Koushik Chatterjee, wedi rhybuddio buddsoddwyr yn ystod galwad gynhadledd y mis diwethaf y gallai problemau cysylltedd trydanol oedi'r prosiect.
Gwaith i ddechrau ar ffwrnais drydan newydd ym Mhort Talbot
Mae Tata Steel wedi datgan bod y prosiect yn symud ymlaen gyda gwaith dymchwel sylweddol wedi'i gwblhau, gan bwysleisio bod
"sicrhau mynediad at drydan pŵer uchel yn hanfodol"ar gyfer eu cynlluniau.
"Er ein bod yn gweithio gyda gweithredwr y system drydan a'r Grid Cenedlaethol ar gyfer seilwaith trydanol newydd, mae'r Grid Cenedlaethol wedi ein rhybuddio'n swyddogol bod eu prosiect cysylltedd wedi'i ohirio.
Mae hyn yn hanfodol i Tata Steel UK ar gyfer comisiynu'r prosiect, rydym mewn sgwrs â'r Grid Cenedlaethol a llywodraeth y DU ar ddatrys y problemau."
Pan ofynnwyd am hyd yr oedi posibl, dywedodd Chatterjee y gallai fod
"rhywle rhwng chwech ac wyth mis", gan ychwanegu y gallai fynd yn hirach
"ar ôl i ni adeiladu'r safle".
Mae'r cwmni'n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys llywodraeth y DU, y Grid Cenedlaethol a'i gyflenwr trydan i
"weld a allwn liniaru'r gwaith".
'Trafod addasaidau posibl i'r amserlen'
Mewn datganiad, dywedodd Tata Steel fod, fel gyda llawer o brosiectau mawr,
"amserlenni'n parhau i esblygu wrth i waith peirianneg, adeiladu a seilwaith manwl fynd rhagddo".
Maent yn
"trafod addasiadau posibl i'r amserlen gomisiynu"gyda'i bartneriaid
"i gyflawni'r prosiect yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl".
Dywedodd y Grid Cenedlaethol fod y gwaith yn cynnwys adeiladu dwy is-orsaf newydd, gosod trawsnewidyddion, a gosod 2km o geblau tanddaearol.
Fodd bynnag, mae problemau gyda chyflwr y ddaear, ynghyd ag ystyriaethau amgylcheddol a chynllunio, wedi cyfrannu at yr oedi, er bod
"cynnydd da yn cael ei wneud".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






