Gŵyl Tawe 2026 yn Abertawe
Mae penwythnos arall o gerddoriaeth a chelfyddydau bywiog wedi dod i ben yn Abertawe, wrth i Ŵyl Tawe 2026 lenwi canol y ddinas â naws drydanol dros y dyddiau diwethaf.
Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn yn ei ffurf bresennol, tyfodd gŵyl gelfyddydol iaith Gymraeg y ddinas yn fwy nag erioed eleni, gan ddechrau gyda gig agoriadol cyffrous gan The Joy Formidable yn The Bunkhouse nos Wener, cyn cloi gyda Gwenno yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau nos Sadwrn.
O lwyfannau cymunedol lliwgar ac artistiaid lleol i berfformiadau pwerus gan fandiau megis Melin Melyn a Mellt, dyma gipolwg ar y dathlu, y canu a'r mwynhau dros benwythnos cofiadwy o dan faner Menter Iaith Abertawe.

Band ifanc o Sir Gâr o'r enw Coron Moron oedd yn agor Llwyfan Taliesin ar ddydd Sadwrn

Ify Iwobi a'r Côr Cymunedol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Y gynulleidfa'n cael eu swyno gan Cerys Hafana

Roedd briciau coch yr amgueddfa'n gefnlen trawiadol i'r perfformiadau

Grŵp 'Tawerin' yn dawnsio'r Hoffedd

Does dim byd yn curo twmpath ddawns!


Set egnïol gan Carwyn Ellis a Rio 18.

Grŵp gwerin cyfoes seicadelig gyda 7 aelod yw Mwsog

Gruffudd Glyn, prif leisydd y band Melin Melyn yn perfformio ar lwyfan yng ngardd yr amgueddfa...

...a'r gynulleidfa'n joio'n iawn!

Daeth llawer o bobl allan i fwynhau'r ŵyl

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon Perthnasol
- Tafwyl yn cyhoeddi perfformwyr 2026 wrth ddathlu 20 mlynedd
- Gŵyl y Gelli fel 'pont rhwng Cymru a gweddill y byd'
- Cyngherddau yng Nghaerdydd yn cael caniatâd er gwaethaf gwrthwynebiad






