Enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd
Dafydd Llŷr Hughes o Lanbedrog, Pen Llŷn, yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026, tra bod Lleucu-Haf Thomas o Sir Benfro wedi ennill y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.
Mae'r ysgoloriaeth, sydd werth £2,000 ac yn cael ei noddi gan deulu'r diweddar Dr Dewi Davies, yn cael ei rhoi am y casgliad o waith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng Blwyddyn 10 a 25 oed.
Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg, ar y llaw arall, yn cael ei rhoi i'r cystadleuydd sydd wedi cyflwyno'r gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch adran oedran Blwyddyn 10 i 19 oed.
Beirniaid yr ysgoloriaeth eleni oedd Diana Williams a Nicola Gibson, a chafodd y tlws ei roi er cof am Owen a Manon Griffith.
Beirniaid y Fedal oedd Carys Jones, Christine Mills, Siwan Thomas, Owain Sparnon, Ellen Thorpe, Arwyn Roberts a Diana Williams. Mae'r Fedal yn cael ei roi er cof am Andrew Southall.
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc
Dafydd Llŷr Hughes, 19 oed, yw o bentref Llanbedrog ym Mhen Llŷn. Yn gyn-ddisgybl Ysgol Llanbedrog ac Ysgol Botwnnog, mae newydd gwblhau cwrs Ecoleg a Chadwraeth yng Ngholeg Reasheath, Nantwich, ar ôl treulio blwyddyn yn astudio coedwigaeth a chadwraeth yn Ngholeg Glynllifon.
Bydd Dafydd yn dechrau astudio ffotograffiaeth ym mis Medi ym Mhrifysgol Falmouth yng Nghernyw.
"Dechreuais dynnu lluniau yn ystod y cyfnod clo gan gychwyn gyda chamera ffôn cyn symud ymlaen i ddefnyddio camera.
"I ddechrau roeddwn i'n tynnu lluniau o'r golygfeydd anhygoel sydd gennym yn Llŷn - traethau Llanbedrog, Porth Neigwl a'r anifeiliaid gwyllt sy'n byw yno.
"Rwyf wrth fy modd allan yn yr awyr agored ac mae fy niddordebau eraill fel pysgota a syrffio yn adlewyrchu hynny.
"Rwyf yn edrych ymlaen at gychwyn ar fy astudiaethau ym mis Medi.
"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Urdd am y cyfle drwy'r ysgoloriaeth i allu gwireddu fy nod o ysbrydoli pobl drwy fy ffotograffiaeth i fwynhau a pharchu byd natur."

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Diana Williams, cyn-ddarlithydd o'r adran gelf ym Mhrifysgol Bangor, a Nicola Gibson, rheolwr profiad ymwelwyr yn Oriel Môn yn Llangefni.
"I'r brig daeth ymgeisydd wnaeth ein swyno, nid yn unig efo'i bortffolio ond ei angerdd heintus a'i gariad pur tuag at ei waith.
"Mae'n talu teyrnged i'w fro ac yn cyflwyno delweddau hudolus. Dyma gadwraethwr brwd gydag angerdd am bioamrywiaeth a gwarchod ei gynefin.
"Roedd stori tu ôl i bob darn ac roedd sensitifrwydd y gwaith a'r oriau maith i gipio un ddelwedd yn syfrdanol.
"Mae gan Dafydd lwybr pwrpasol ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Mae'n feistr parod ar ei grefft sydd am fynd o nerth i nerth ac esblygu. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei yrfa a'i ddatblygiad artistig."
Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Dyfed Childs o Ysgol Bro Hyddgen, a Moli Prendergast o Holeg Menai, Bangor oedd yn drydydd.
Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg
Lleucu-Haf Thomas, 17 oed, yw disgybl yn Ysgol Bro Preseli, Crymych, lle mae hi yn ei blwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth yn astudio Cerdd, Drama a Chymraeg. Mae'n aelod brwd o'r Urdd ac yn Gadeirydd Aelwyd Crymych.
"Yn ferch o gefn gwlad mae'n meddwl y byd i mi gael rhannu'r grefft o drin a phlethu llafur a dangos y broses o gasglu'r cynnyrch o'r cae, i'w dorri a'i sychu, ac yna mynd ati i greu.
"Mae'r broses o greu a phlethu efo llafur yn rhywbeth personol iawn i fi. Rwyf yn meddwl am syniad ac yn mynd ati i gynllunio, ei ddatblygu a'i greu dros oriau di-ri.
"Teimlaf ei bod hi'n hanfodol bwysig i gadw'r traddodiadau hen yn fyw a hoffem ddiolch i Aeres James o Sir Benfro am gyflwyno'r sgil anghyffredin i mi nôl yn 2020 ac am yr holl anogaeth ac ysbrydoliaeth."

Dywedodd y beirniaid:
"Roedd y gwaith yn drawiadol, medrus a chaboledig. Dyma waith crefftus, gwreiddiol a chyfoes.
"Mae'r enillydd yn feistr ar ei chrefft a braf yw gweld hen grefftau traddodiadol fel hyn yn dod i'r brig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddi enillwyr prif wobrau'r dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd
- Eisteddfod yr Urdd: 'Braf gweld mwy o sylw i ddysgwyr eleni'
- Sut mae ymdopi yn y tywydd cynnes ar faes yr Eisteddfod?






