Skip to main content
Advertisement

Ai Bysiau Am Ddim Yn Ateb i Broblemau Parcio Eryri?

Mae awdurdodau Eryri yn ystyried cynnig bysiau am ddim i fynd i'r afael â phroblemau parcio difrifol, gan ddysgu o drefniadau tebyg yn yr Alpau a defnyddio treth ymwelwyr i ariannu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

·7 min read
Arwyddion parcio a theithio yn ardal Pen y Pass

Ai trefn debyg i'r Alpau yw'r ateb i broblemau parcio Eryri?

Mae'r awdurdodau wedi bod yn annog ymwelwyr i osgoi defnyddio'u cerbydau yn ardal Eryri a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Ai cynnig bysiau am ddim, yn debyg i'r hyn sydd ar gael mewn lleoliadau fel yr Alpau, ydy'r ateb i broblemau parcio yn Eryri?

Yn ôl un economegydd, sydd wedi bod yn ymchwilio i'r maes, mae hynny wedi helpu cymunedau ar y cyfandir i daclo problemau tebyg, gyda threth ymwelwyr yn cyfrannu at dalu am y gwasanaethau.

Er nad nhw fyddai'n darparu gwasanaeth o'r fath yma, dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn annog ymwelwyr i adael eu cerbydau mewn trefi a phentrefi cyfagos a theithio ymlaen ar drafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd.

Mae problemau parcio a thraffig trwm yn dod yn fwyfwy amlwg bob blwyddyn wrth i nifer yr ymwelwyr gynyddu.

Pryder am 'sgil effeithiau' gwahardd parcio dros nos yn Eryri

£20 am wyth awr - rheolau parcio yn dod i rym yn Eryri cyn y Pasg

Yn ôl gwaith ymchwil, mae tua 98% o ymwelwyr yn teithio i Eryri mewn car - a nifer yn mynd i'r ardaloedd mwyaf poblogaidd, gan achosi anhrefn ar yr adegau prysuraf.

I geisio lleddfu'r problemau, mae'r awdurdodau wedi cyflwyno cyfyngiadau llymach a systemau parcio digidol.

Mae gwasanaethau Sherpa'r Wyddfa a'r T10 hefyd yn gwasanaethu rhai o fannau mwyaf poblogaidd Eryri.

Ond mae rhai'n galw erbyn hyn am wasanaeth bysiau am ddim i ymwelwyr, fel y rhai sy'n cael eu cynnig yn ardaloedd yr Alpau ar gyfandir Ewrop.

Mae ymwelwyr i wledydd fel Awstria a'r Eidal, er enghraifft, yn cael cynnig cerdyn arbennig sy'n caniatáu teithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus yn lleol.

Mae camau ar waith i atal trafferthion parcio o fewn Parc Cenedlaethol ers i'r broblem waethygu yn ystod y pandemig yn 2020

Swyddog heddlu yn rhoi rhybuddion dirwy ar gerbydau wedi eu parcio'n anghyfreithion ym Mhen y Pass yn 2020
Disgrifiad o’r llun, Mae camau ar waith i atal trafferthion parcio o fewn Parc Cenedlaethol ers i'r broblem waethygu yn ystod y pandemig yn 2020

Mae'r economegydd Rhys ap Gwilym, o Lanberis, wedi cynnal gwaith ymchwil yn y maes, gan edrych ar sut mae treth ymwelwyr yn helpu i ariannu cynlluniau o'r fath.

"Mae'r problemau parcio yn ddifrifol wael - yn amlwg o gwmpas Pen y Pass, ond ledled y parc cenedlaethol.
"Ni'n gweld yr un fath o broblemau mewn cyrchfannau o gwmpas y byd - llefydd fel y Dolomites [lle] mae 'na broblemau enbyd efo parcio.
"Un o'r atebion i hynny ydy darparu gwasanaethau bysiau. Maen nhw'n medru helpu i o leia' lleddfu'r broblem i ryw raddau.
"Dan ni'n gweld mewn cyrchfannau eraill bod treth twristiaeth yn cael ei ddefnyddio at y diben hynny."

Mae'r economegydd o Lanberis, Dr Rhys ap Gwilym, wedi cynnal gwaith ymchwil i'r maes

Rhys ap Gwilym, mewn fest coch ar ôl rhedeg Ras Moel y Gest
Disgrifiad o’r llun, Mae'r economegydd o Lanberis, Dr Rhys ap Gwilym, wedi cynnal gwaith ymchwil i'r maes

Yn ôl rhai fel Dwynwen Pennant, sydd wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim wrth wneud teithiau cerdded dramor, fe allai Eryri elwa'n fawr o'r syniad.

"'Dan ni efo dipyn o brofiad mewn mynydda yn yr Alpau ac yn y Dolomites, wedi gwneud dipyn go lew o deithiau cwt i gwt - lle 'dan ni'n dibynnu wedyn ar fws i fynd yn ôl i'r dechra'.
"'Dan ni 'di defnyddio bysys am ddim, a'r rheiny 'dan ni'n talu amdanyn nhw, a 'di cael defnydd da ohonyn nhw.
"Dwi'n meddwl 'sa fo'n syniad gwych yn Eryri, yn enwedig efo'r niferoedd o bobl sy'n dod yma bob haf, i gael gwasanaeth bws lle ma' pobl yn gallu dibynnu ar y bws, gallu tracio'r bws ar ap - a gwell fyth os ydy o am ddim."

O'i phrofiad personol o ddefnyddio'r fath wasanaethau ar y cyfandir, mae Dwynwen Pennant o blaid cynnig bysiau am ddim yn Eryri

Advertisement
Dwynwen Pennant
Disgrifiad o’r llun, O'i phrofiad personol o ddefnyddio'r fath wasanaethau ar y cyfandir, mae Dwynwen Pennant o blaid cynnig bysiau am ddim yn Eryri

Ond nid pawb sydd o blaid y syniad o gynnig gwasanaethau bws am ddim - mae rhai, fel y Cynghorydd John Pughe Roberts o Gyngor Gwynedd, yn ffafrio ateb arall.

Mae o'n galw am lacio rheolau fel bod perchnogion tir yn gallu agor meysydd parcio preifat.

"Be' faswn i'n licio gweld ydy bod ffermwyr yn gallu gwneud llefydd parcio temporary.
"Pum mlynedd o planning falle, i weld os ydy o'n gweithio, yn y llefydd lle mae'r hotspots.
"Does 'na ddim rhaid iddo fod yn beth mawr, dim ond rhyw rubber matting a 'chydig o ffens rownd ac ella toiled yn y gornel.
"Mi fydda' pobl wedyn yn gwario'n fwy lleol yn y tafarndai, caffis a siopau."

Mae'r Cynghorydd John Pughe Roberts yn ffafrio llacio rheolau fel bod perchnogion tir yn gallu agor meysydd parcio preifat

Y Cynghorydd John Pughe Roberts
Disgrifiad o’r llun, Mae'r Cynghorydd John Pughe Roberts yn ffafrio llacio rheolau fel bod perchnogion tir yn gallu agor meysydd parcio preifat

Tra'n pwysleisio nad nhw fyddai'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth bws am ddim yn yr ardal, dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

"Mae gwella mynediad i'r Parc Cenedlaethol heb gynyddu problemau traffig yn bwysig i ni fel Awdurdod.
"Rydym yn ac wedi gweithio'n agos gyda sefydliadau, partneriaid a rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth er mwyn cefnogi datblygu a hyrwyddo opsiynau trafndiaeth cynaladwy ar gyfer ymwelwyr a thrigolion lleol, a rydym yn bwriadau parhau â hynny i'r dyfodol.
"Rydym yn cydnabod y pwysau mae rhannau o Eryri wedi profi yn ystod y cyfnodau brig yn barod eleni, yn enwedig mewn mannau poblogaidd megis Ogwen, Y Bala a Nant Gwynant ble mae'r niferoedd ymwelwyr uchel yn rhoi pwysau ar lonydd, opsiynau parcio a'n cymunedau lleol.
"Mae gwasanaethau megis Sherpa'r Wyddfa a'r T10 yn cynnig darpariaeth bwysig i deithio o gwmpas Eryri a rydym yn parhau i annog ymwelwyr adael eu cerbydau mewn trefi a phentrefi cyfagos a theithio ymlaen ar drafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd."

Cerbydau wedi eu parcio yn groes i'r rheolau yn ardal Pen y Pass yn cael eu tywys i ffwrdd (llun o 2023)

Cerbydau wedi eu parcio yn groes i'r rheolau yn ardal Pen y Pass yn cael eu tywys i ffwrdd (llun o 2023)
Disgrifiad o’r llun, Cerbydau wedi eu parcio yn groes i'r rheolau yn ardal Pen y Pass yn cael eu tywys i ffwrdd (llun o 2023)

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod hwythau'n cydweithio gyda phartneriaid i "ddatblygu rhwydwaith cludiant cyhoeddus cyfleus, dibynadwy a rhesymol ei gost".

Ychwanegon nhw: "Rydym wedi gweld cynnydd hynod gadarnhaol yn niferoedd o deithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau bysiau'r Sherpa ers ail-lansio yn y blynyddoedd diweddar, gyda dros 563,000 o siwrneiau yn ystod 2025/6.

"Fel rhan o waith ehangach i wella a chynyddu cyfleoedd teithio ar gludiant cyhoeddus, mae prisiau tocynnau safonol wedi eu cyflwyno ar y mwyafrif o'r rhwydwaith yng Ngwynedd sydd yn seiliedig ar y pellter a deithiwyd.

"Mae yna amryw o gynigion a thocynnau arbennig ar gael gan gynnwys tocyn 1 Bws sydd am £7.50 yn galluogi teithio drwy'r dydd ar rhwydwaith bysiau cyhoeddus lleol gogledd Cymru.

"Rydym yn annog pawb i wneud y defnydd mwyaf o'r cyfleoedd presennol i deithio ar gludiant cyhoeddus gan fydd hyn yn cefnogi'r achos i gynnal a gwella'r ddarpariaeth.

"Rydym hefyd yn annog pobl i fod yn barchus a chynllunio'u hymweliadau o flaen llaw, i ddefnyddio'r meysydd parcio priodol a phan yn bosib i ddefnyddio gwasanaethau bws i grwydro'r ardal.

"Mae'n bwysig fod ein ffyrdd yn glir er mwyn sicrhau llif traffig, ac wrth gwrs i ganiatáu'r gwasanaethau brys i fedru gwneud eu gwaith.

"Gofynnwn felly i fodurwyr barchu'r cyfyngiadau parcio a chadw'r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News