Llwyddiant Dwy Chwaer o'r Bala ar y Cae Rygbi
Mae dwy chwaer o'r Bala wedi dathlu llwyddiant ar faes rygbi cenedlaethol, bedair blynedd ar ôl siom eu hymweliad cyntaf i Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.
Dywedodd Mair Jones ei bod hi'n gyd-ddigwyddiad rhyfedd iddi fynd a'i dwy ferch i'r stadiwm am y tro cyntaf erioed yn 2022 – dim ond i weld tîm cenedlaethol y dynion yn colli i Georgia.
Fodd bynnag, dathlu oedd hanes y chwiorydd Efa ac Alys ar eu hymweliad i'r brifddinas ddydd Sadwrn, wrth i'r Bala guro Machynlleth 29-17 yn ffeinal Powlen y Menywod Undeb Rygbi Cymru.
Ar ben hynny i gyd, meddai Mair, fe wnaeth Efa (sy'n flaenasgellwr ac yn 19 oed) sgorio cais a chael y clod o gael ei dewis yn seren y gêm.

"Roedd hi'n braf bod yn y ffeinal, a braf chwarae yn erbyn Machynlleth," meddai Mair, sy'n wreiddiol o Dywyn, Meirionnydd.
"Ro'n i'n 'nabod lot yna – o bosib ddim y chwaraewyr ond y mamau a rhai o'r neiniau. Ond roedd o'n dda gweld dau dîm o'r gogledd yn y ffeinal.
"Be oedd yn ddoniol – cyn y gêm o'n i wedi bod yn tynnu coes Efa fel teulu. Ychydig o banter ei bod wedi bod yn y ffeinal o'r blaen a heb sgorio cais, a dyna ni wedyn i goroni'r cyfan dyma hi'n sgorio a chael seren y gêm."
Mae hefyd wedi bod yn flwyddyn brysur ar y meysydd chwarae i'r chwaer iau, Alys sy'n 18 oed ac yn mynychu Ysgol Godre'r Berwyn yn Y Bala.
Roedd hi'n aelod o dîm yr ysgol oedd yn fuddugol 28-5 yn erbyn Ysgol Bro Teifi yn ôl ym mis Mawrth yn ffeinal merched dan 18 Undeb Rygbi Cymru.
Alys a Mair yn dathlu ar ôl buddugoliaeth y Gwylliaid yn erbyn Quins Caerdydd

Mae Alys hefyd yn asgellwr gyda thîm Gwylliaid Meirionnydd – sy'n rhan o rwydwaith hwb Undeb Rygbi Cymru i ddatblygu gêm y merched yng Nghymru.
Erbyn hyn mae yna 44 o dimau hwb wedi eu sefydlu yng Nghymru.
Daeth trydydd llwyddiant Alys mewn tymor prysur o rygbi nôl ym mis Rhagfyr wrth i'r Gwylliaid guro Quins Caerdydd yn ffeinal cwpan ieuenctid y merched.
Y gobaith nawr o ran y teulu a merched Bala yw y bydd y Gwylliaid yn dathlu tlws arall ym Mae Colwyn ddydd Sul, gyda thîm dan 18 y clwb yn wynebu MônStars o Langefni yn ffeinal cwpan RGC.
Merched Bala'n dathlu eu llwyddiant

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Pwy yw'r Gymraes sy'n serennu i Loegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd?
- 'Penwythnos hanesyddol' i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd yn Stadiwm Principality






