Skip to main content
Advertisement

Josh Farrell: From Blaenau Ffestiniog to Zamora FC and Welsh Football Dreams

Josh Farrell, a young footballer born in Spain with Welsh family ties, aims for promotion to Spain's Segunda División with Zamora CF and dreams of representing Wales internationally.

·6 min read
Josh

Josh Farrell: Blaenau Ffestiniog, Marbella a Chymru

Mae Josh Farrell yn bêl-droediwr ifanc sy'n anelu at ddyrchafiad i ail adran pêl-droed Sbaen.

Gyda chwe gêm o'r tymor ar ôl, mae Zamora CF yn y safleoedd ail gyfle, gyda'r Segunda División o fewn cyrraedd.

Cafodd Josh ei eni a'i fagu yn Sbaen, mae'n siarad Sbaeneg yn rhugl ac yn byw bywyd cwbl Iberiaidd. Fodd bynnag, mae wedi chwarae dros dimau Cymru dan 19 a dan 21, gan fod ei deulu ar ochr ei fam yn dod o Flaenau Ffestiniog.

'Nath Mam a Dad gwrdd yn Sbaen. Roedd Mam yn rhedeg gym yno, ac fe aeth Dad i mewn i hyfforddi un diwrnod ac ychydig yn ddiweddarach dyma nhw'n dechrau perthynas.'

Roedd ei rieni, Rebecca a Thomas, wedi ymgartrefu yn ardal Marbella ar y Costa del Sol, ac yno y cafodd Josh ei eni yn 2003.

Cysylltiadau â Blaenau

Mae gan Josh, sy'n chwarae fel ymosodwr i Zamora, gysylltiadau â Sir Feirionnydd, fel esboniai i Cymru Fyw yr wythnos hon.

'Roedd Nain, Anwen Evans, yn dod o Flaenau Ffestiniog, ac o'n i'n arfer mynd draw i'w gweld hi'n eitha' aml. 'Nath hi symud allan i Sbaen yn ddiweddarach, i Valencia, ond yn anffodus mae hi bellach wedi marw.
'Dwi'n hoff o ardal Blaenau a pa mor gryf yw'r iaith Gymraeg yno. Mae gan i deulu yn yr ardal dal i fod ond 'dan ni wedi colli cysylltiad dros y blynyddoedd i fod onest.'

josh dan ac anwen
Disgrifiad o’r llun, Josh yn y crys Everton, gyda'i frawd Dan, a'i Nain, Anwen

'O'n i'n chwarae i Gymru dan 21 efo Pat Jones, ac mae o'n dod o'r ardal 'na ac yn siarad Cymraeg fyd,' meddai Josh.

Roedd Pat Jones yn chwarae dros dimau iau Bala a Rhuthun, ac mae'n chwarae dros Scunthorpe United heddiw.

Teulu Josh Farrell
Disgrifiad o’r llun, Yn dathlu'r Nadolig gyda'i deulu yn Sbaen. Mae gan Josh chwaer hŷn o'r enw Rheanna a brawd iau o'r enw Dan

Yn dathlu'r Nadolig gyda'i deulu yn Sbaen. Mae gan Josh chwaer hŷn o'r enw Rheanna a brawd iau o'r enw Dan.

Diolch i Lee Trundle

Dywed Josh mai cyn-arwr Wrecsam ac Abertawe, Lee Trundle, yw'r person i ddiolch am ddechrau ei yrfa gyda'r tîm cenedlaethol.

'Y tro cynta' i mi ddod i mewn i'r set-up efo Cymru o'n i'n 16 oed, gyda'r tîm dan 17, ac o'n i gyda chlwb Granada ar y pryd ac yn cael tymor da, yn sgorio digon o goliau.
'Oedd Dad yn 'nabod Lee Trundle, ac roedd Lee'n 'nabod rhywun o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
'Nath Lee ofyn i CBDC roi cynnig i fi mewn rhyw fath o trial, ac fe es i, a dwi wedi bod gyda Chymru ers hynny. Mae Lee wedi bod yn wych efo fi erioed, alla i ddim diolch digon iddo fo am ei gefnogaeth.'

Josh Farrell
Disgrifiad o’r llun, Josh yn cynrychioli tîm dan 21 Cymru

Josh yn cynrychioli tîm dan 21 Cymru.

'Lefel uwch yn Sbaen'

Felly, sut mae'r safon trydedd adran pêl-droed Sbaen yn cymharu ag ail a thrydedd haen Lloegr?

'Yn dechnegol dwi'n teimlo bod y lefel yn uwch yma yn Sbaen, ac mae chwaraewyr Sbaenaidd yn cael eu parchu yn rhyngwladol.
'Mae 'na lawer o chwaraewyr sy'n chwarae yn y Primera Federación (trydedd haen Sbaen) sy'n mynd dramor a chwarae ar y lefel uchaf mewn gwledydd eraill, ac yn ennill lot o arian.
'Mae 'na lot o chwaraewyr yn y gynghrair yma sydd wedi chwarae yn Segunda, a hyd yn oed La Liga (lefel uchaf Sbaen). Os edrychwch chi ar yr ail haen yn Sbaen, timau fel Racing, Deportivo de La Coruña, Málaga a Ceuta – roedden nhw yn y drydedd adran yn ddiweddar a bellach yn anelu i fynd i La Liga.'

Arwyddodd Josh dros Zamora FC o Gimnástica Segoviana CF ym mis Gorffennaf 2025.

Ad (425x293)

Josh Farrell
Disgrifiad o’r llun, Arwyddodd Josh dros Zamora FC o Gimnástica Segoviana CF ym mis Gorffennaf 2025

Mae trydedd adran Sbaen wedi ei rannu'n ddwy, ar ffiniau daearyddol, gyda Grŵp un yn y gogledd a Grŵp dau yn y de.

'Y gogledd-orllewin a'r de-ddwyrain ydi'r rhaniad go iawn, a 'dan ni'n chwarae yn y grŵp gogledd-orllewin gyda thimau fel Tenerife ac ail dîm Real Madrid.
'Dan ni'n chwarae lot o'n gemau yn erbyn timau Galicia a Gwlad y Basg, sydd efallai'n chwarae pêl-droed â steil Brydeinig – anodd i'w curo oddi cartref, chwaraewyr corfforol efo rhif 9 mawr corfforol ac amddiffynwyr canol mawr cryf, a gemau caled mewn tywydd sy'n gallu bod yn heriol ar gaeau mwdlyd.
'Yn ne Sbaen dwi'n meddwl bod y gêm yn dueddol o fod yn gyflymach efo'r steil tiki taka mae Sbaen yn enwog amdano.'

Josh Farrell
Disgrifiad o’r llun, Mae Zamora CF

Mae clwb Josh, Zamora CF, wedi bod yn nhrydedd a phedwaredd haen pêl-droed Sbaen yn barhaol ers iddo gael ei sefydlu yn 1968.

'Mae 'na berchnogion newydd bellach, ac maen nhw'n uchelgeisiol iawn ac wedi buddsoddi yn y clwb - mae'r stadiwm yn neis hefyd, yn dal 8,000-9,000', meddai Josh.
'Dwi'n meddwl bod o'n glwb sydd ar ei fyny ac yn tyfu, ac mi fydda cyrraedd y Segunda eleni'n foment hanesyddol i ni.'

Mae carfan Zamora'n cynnwys un chwaraewr o Kenya, dau sy'n cynrychioli Moroco, a Josh sydd â Chymru - mae pob un aelod arall o'r garfan yn Sbaenwyr.

Mae ambell chwaraewr fel Kike Márquez a Carlos Ramos wedi chwarae yn nwy adran uchaf Sbaen.

'Dwi 'di chwarae yn erbyn timau fel Sevilla a Real Betis. Odd Ivan Rakitić yn chwarae dros Sevilla yn erbyn ni - y chwaraewr gorau imi wynebu erioed, oddo'n anhygoel a jest yn gwneud i bopeth edrych mor ddi-ymdrech.'

Zamora
Disgrifiad o’r llun, Estadio Ruta de la Plata, cartref Zamora CF

Estadio Ruta de la Plata, cartref Zamora CF.

Josh Farrell

Gan ei fod bellach yn 22 oed mae cyfnod Josh gyda thîm dan 21 Cymru wedi dod i ben. Beth am ei obeithion o gynrychioli Cymru ar y lefel uchaf felly?

'Bydda hynny'n anhygoel i fod onest. Ar hyn o bryd mae fy meddwl i ar ennill dyrchafiad i'r Segunda gyda Zamora.
'Ond fy ngwir freuddwyd ydy cael fy ngalw hefyd i garfan genedlaethol Cymru - mi fyswn i wrth fy modd chwarae dros Gymru.'

Os daw dyrchafiad i Zamora CF a bod gyrfa Josh yn parhau i ddatblygu, pwy a ŵyr efallai y gwelwn ef yn cael ei alw i dîm cyntaf Cymru yn y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

  • Siôn Parry, y Cymro yng nghrys coch Canada
  • Pam ddylai'r Cymry gefnogi Athletic Club Bilbao?
  • Rocky Marciano, a ddechreuodd ei yrfa focsio yng Nghymru

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News