Skip to main content
Ad (425x293)

Gêm gyfartal rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd

Gêm gyfartal rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd nos Fawrth, wedi i'r ddau dîm golli yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd.

·2 min read
chwaraewyr pel-droed

Gêm gyfartal rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon

Gêm gyfartal gafwyd rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Roedd yn rhaid i'r gêm gael ei chwarae oherwydd i'r ddau dîm golli yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd nos Iau, yn erbyn Bosnia-Herzegovina a'r Eidal.

Er bod yr holl docynnau wedi eu gwerthu, roedd nifer o seddi'n wag o gwmpas y stadiwm.

Wedi 20 munud agoriadol digon digyffro, yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyda Donely yn gwthio'r bêl i gefn y rhwyd wedi i'w beniad cychwynnol daro'r postyn.

Er i'r Cymry gael digon o feddiant yn ystod yr hanner cyntaf, digon di-fflach oedd eu chwarae ar y cyfan yn dilyn siom y gem nos Iau.

Ad (425x293)

Cafwyd dechrau llawer mwy pwrpasol gan Gymru i'r ail hanner ac wedi munud yn unig o chwarae, sgoriodd Sorba Thomas i unioni'r sgôr yn dilyn gwaith da gan David Brooks.

Cafodd y naill dîm a'r llall gyfleon i fynd ar y blaen gydag ymgais Harry Wilson gyda 10 munud yn weddill gyda'r agosaf.

Gyda'r ddau dîm yn eilyddio nifer o'u chwaraewyr yn ystod yr ail hanner, collodd y gêm rywfaint o'i siâp.

Gêm gyfartal felly, er gwaethaf un cyfle da i Ogledd Iwerddon y funud olaf.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Cymru v Gogledd Iwerddon: Y gêm 'gwbl ddibwynt' does neb ei heisiau

Ymgyrch Cymru at Gwpan y Byd ar ben ar ôl colli ar giciau o'r smotyn

This article was sourced from bbc

Ad (425x293)

Related News