Galw am dîm dan-23 i ferched Cymru i gau'r bwlch datblygu
Mae ymgyrch newydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu tîm dan-23 i ferched Cymru, gan ddisgrifio'r bwlch presennol rhwng y timau iau a'r prif dîm fel "annerbyniol".
Mae'r ymgyrch 'Cydraddoldeb i'n Menywod a'n Merched' yn galw am greu carfan newydd i'r chwaraewyr sydd wedi gorffen chwarae ar lefel dan-19, fel rhan o lwybr datblygu clir ar gyfer chwaraewyr benywaidd ifanc yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru dîm dan-23 i ferched, ac mae'r ymgyrch yn ceisio cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i sefydlu un.
Soraya Kelly, mam gôl-geidwad Aston Villa Soffia Kelly sydd o'r Bari, yw'r un sydd wedi lansio'r ymgyrch. Mae hyn yn dilyn deiseb a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn 2026.

Mae Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi cydnabod y gwaith a wneir gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i hyrwyddo pêl-droed merched a menywod, gan benderfynu pasio cais y ddeiseb ymlaen i'r Gymdeithas.
Mae'r BBC wedi gwneud cais am ymateb gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru:
"Mae sicrhau bod gan ferched a genethod y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon yn hanfodol i adeiladu Cymru hyderus ac uchelgeisiol lle mae talent yn cael ei feithrin ar bob lefel.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda chyrff llywodraethu i ehangu cyfleoedd a chael gwared ar rwystrau. Mae gan chwaraeon merched y pŵer i drawsnewid bywydau, cryfhau cymunedau a chodi Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn arwain ar lywodraethu a datblygu'r gêm, gan gynnwys trafodaethau parhaus ar gryfhau llwybrau fel tîm menywod Cymru dan 21 neu dan 23.
Drwy Chwaraeon Cymru, rydym yn buddsoddi yn nyfodol chwaraeon menywod, gan gefnogi cyrff cenedlaethol i gynyddu cyfranogiad, datblygu talent elitaidd ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf."
Galw am bont rhwng timau iau a'r prif dîm
Soraya Kelly disgrifiodd y bwlch rhwng y tîm dan-19 a'r prif garfan fel "bron fel pont" i allu cyrraedd y prif dîm.
"Felly os wyt ti'n rhan o'r tîm dan-19 ond ddim yn rhan o'r prif garfan, wel does fawr o gyfle gen ti wedyn i fynd i unman.
Dyw hwn ddim yn anodd i'w ddeall.
Rydym ni'n syml eisiau yr un cyfle i'n merched a beth sy'n cael ei gynnig i'n bechgyn yng Nghymru.
Y cyfan rydym ni'n galw amdano ydy tîm dan-23 a chyda phopeth sy'n digwydd o fewn pêl-droed merched ar hyn o bryd fe ddylse hyn fod yn digwydd yn barod, heb gwestiwn."
Yn 2024, rhoddodd UEFA sêl bendith i Gynghrair Ewropeaidd dan-23 ym mis Gorffennaf, gyda Lloegr yn ennill y gystadleuaeth fwyaf diweddar eleni. Roedd gan Yr Alban hefyd dîm yn y rowndiau grŵp, gan adael Cymru a Gogledd Iwerddon fel yr unig ddwy wlad o'r Deyrnas Unedig heb gynrychiolaeth.
Mae Kelly yn tynnu sylw at y diffyg llwybr datblygu chwaraewyr benywaidd yng Nghymru, gan ddweud:
"Does dim llwybr datblygu chwaraewyr benywaidd yng Nghymru, ond mae yna yn yr Alban, ac yn Lloegr.
Mae yna lwybr datblygu chwaraewyr i'r bechgyn yma.
Mae gan wledydd Ewropeaidd hefyd lwybrau datblygu chwaraewyr.
Pam nad oes 'na lwybr datblygu chwaraewyr benywaidd gyda ni?"
Er bod rhai chwaraewyr fel Soffia Kelly, Mared Griffiths a Phoebe Poole wedi symud yn syth i'r prif dîm o'r tîm dan-19, mae eraill yn cael eu rhoi ar anfantais ar ôl troi 20 oed, yn ôl Soraya Kelly.
"Mae Soffia'n lwcus, mae hi'n rhan o'r brif garfan, hefyd Mared. Ond does gan nifer o chwaraewyr talentog eraill ddim y cyfle i ddatblygu, does unman ganddyn nhw i fynd.
Phoebe Poole - mae hi'n wych yn sgorio'r holl goliau. Mae hi'n lwcus ei bod hi wedi ennill cap gyda'r prif dîm erbyn hyn. Ond ry' ni'n colli nifer o chwaraewyr talentog, neu hyd yn oed cyn i ni eu colli maen nhw'n gofyn y cwestiwn 'wel, dwi ond yn gallu chwarae nes fy mod yn 19, felly beth yw'r pwynt?"
Dim ond 4 neu 5 (o'r garfan bresennol) fydd yn gymwys i chwarae i'r tîm dan-19 a mae honna'n garfan o 20. Y chwaraewyr talentog yma – i ble y gallen nhw fynd? Dyw hyn ddim yn dderbyniol. Wirioneddol ddim.
Dwi'n deall mai arian sydd wrth wraidd hyn. Dim ond hyn a hyn o arian sydd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Felly mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy fel bod 'na gydraddoldeb i'n merched, yn ogystal ag i'n bechgyn yng Nghymru," ychwanegodd Kelly.
"Mae'r llwybr datblygu yno i'r bechgyn, ac wedi bod yno erioed. Mae yno arian i'r bechgyn, ond ddim i'r merched, ac mae'n rhaid i hynny newid.
Mae gêm y merched wedi datblygu gymaint ond sut allwn ni gystadlu yn erbyn rhai o'r timau gorau fel Lloegr wrth geisio symud ymlaen os nad oes 'na bont yno'n cysylltu'r carfannau iau â'r prif garfan.
Fe fyddai hi'n wirioneddol wych petai Llywodraeth Cymru nawr yn dweud: 'Iawn, ma' 'na Lywodraeth newydd mewn grym, rydym ni angen gwneud hyn, hyd yn oed ariannu peilot gan y Gymdeithas Bêl-droed, gan roi falle blwyddyn neu ddwy i'r peilot.'"
Profiadau chwaraewyr blaenorol
Roedd Shanelle Edwards yn chwaraewr addawol gyda thimau dan-17 a dan-19 Cymru ac fe gafodd ei galw i garfan hyfforddi'r prif dîm, ond ni lwyddodd i ennill cap llawn yn ystod ei gyrfa. Ar hyn o bryd, mae'n 32 oed ac yn gweithio ym maes cyllid eiddo.

Mae Edwards yn credu y byddai cael timau dan-21 a dan-23 wedi rhoi mwy o gyfle iddi wireddu ei breuddwyd.
"Dwi wedi siarad gyda chwaraewyr eraill o'r gorffennol sydd yn cytuno," meddai.
"'Da ni i gyd yn gytûn bod y llwybr yna ddim yn bodoli.
Mae'r bwlch rhwng bod yn chwaraewr 18 neu 19 oed a chystadlu gyda chwaraewyr ar y lefel uwch - all fod yn 25 oed neu'n hŷn - yn naid fawr yn gorfforol a meddyliol."
Datblygiad a heriau pêl-droed merched yng Nghymru
Mae Helen Ward, sydd wedi sgorio 44 o goliau mewn 105 o gemau dros Gymru ac sydd bellach yn Bennaeth Pêl-droed Merched gyda Watford, yn credu y bydd y twf mewn pêl-droed merched yng Nghymru yn arwain at gynnydd yn y dalent ar gael i dimau cenedlaethol.

"Dwi'n teimlo bod 'na fwy o gyfleoedd i ferched chwarae pêl-droed yng Nghymru bellach ac mae'r chwaraewyr yn datblygu yn gynharach ac yn gyflymach," meddai Ward.
"Nid pawb fydd yn gallu neidio o dan-17 a dan-19 i chwarae ar y lefel hyn.
Dwi'n teimlo yn awr – yn fwy nag erioed – mae 'na wir angen amdano a 'da ni ddim eisiau gweld chwaraewyr yn gadael y gêm."
Mae Ward yn nodi bod rhai chwaraewyr yn datblygu'n hwyrach nag eraill.
"Gwnes i ddim gwneud fy ymddangosiad cyntaf i'r prif dîm tan oeddwn yn 22 a dwi ddim yn gwybod os byddwn wedi bod yn barod i wneud hynny yn gynt.
Nid pawb sydd yn mynd i fod yn barod yn 19 oed ar gyfer pêl-droed hŷn."
Bwriadu lansio'r ymgyrch ym mis Awst
Mae Soraya Kelly yn bwriadu cyhoeddi'r ymgyrch yn swyddogol ym mis Awst eleni, gan obeithio denu cefnogaeth sylweddol.
"Dwi mor hapus bo' gymaint o bobl yn cyd-weld â ni," meddai.
Mae hi'n bwriadu cyfarfod â Laura McAllister, Is-lywydd Pwyllgor Gweithredol UEFA a chyn-gapten Cymru, yn y mis nesaf, ac mae cefnogaeth hefyd ganddynt gan Kanishka Narayan, AS Llafur Bro Morgannwg.
Mae nifer o sefydliadau a chymdeithasau, gan gynnwys Race Council Cymru, Cymdeithas Heddweision Du, Her Game Too, ac elusen Roper, yn cefnogi'r ymgyrch.
Bydd ymgyrch yn cael ei chyhoeddi'n ffurfiol ym mis Awst, gyda chynlluniau i ddechrau deiseb arall os bydd angen.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf, neu anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu drwy WhatsApp ar 07709850033.




