Skip to main content
Advertisement

Cymru'n Ennill 4-0 dros Albania yn Ymgyrch Cwpan y Byd Merched

Tîm pêl-droed merched Cymru enillodd 4-0 dros Albania yn ymgyrch Cwpan y Byd 2027, gyda dwy gôl gan Hannah Cain a gôl gan Elise Hughes a Rhiannon Roberts.

·2 min read
Cymru'n dathlu

Ennill i Gymru yn ymgyrch Cwpan y Byd

Ennill a wnaeth tîm pêl-droed merched Cymru nos Fawrth, wrth iddyn nhw barhau eu hymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2027.

Albania oedd y gwrthwynebwyr ar y Cae Ras nos Fawrth ac roedd Cymru wedi sgorio dwy gôl erbyn yr egwyl.

4-0 oedd y sgôr terfynol, gyda Hannah Cain yn sgorio dwy ac Elise Hughes a Rhiannon Roberts hefyd yn canfod cefn y rhwyd i Gymru.

Bydd y ddwy wlad yn cwrdd unwaith eto ddydd Sadwrn, y tro hwn yn Elbasan, Albania.

Sgoriodd Elise Hughes yr ail gôl i Gymru

Ad (425x293)
Elise Hughes yn dathlu
Disgrifiad o’r llun, Sgoriodd Elise Hughes yr ail gôl i Gymru

Manylion y Grŵp a'r Ymgyrch

Mae Cymru yn yr ail haen y rowndiau rhagbrofol, sy'n golygu nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn awtomatig.

Yn hytrach, y gobaith yw perfformio'n gryf yn eu grŵp rhagbrofol ac yna sicrhau llwybr i'r bencampwriaeth trwy'r gemau ail gyfle.

Maen nhw yn yr un grŵp â Czechia, Montenegro ac Albania.

Dilynwch a Chysylltwch â Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig a Straeon Perthnasol

  • Cymru'n gobeithio creu mwy o hanes a chyrraedd Cwpan y Byd
  • Pedwar chwaraewr yng ngharfan Cymru sydd eto i ennill cap

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News