Cyhoeddiad Ymddeoliad Aaron Ramsey
Fe ddaeth y cyhoeddiad bore Dydd Mawrth, 7 Ebrill, bod Aaron Ramsey wedi ymddeol o bêl-droed proffesiynol.
Statistigau a Chydnabyddiaeth
Enillodd Ramsey 86 cap dros Gymru, gan sgorio 21 gôl. Mae'n cael ei gydnabod fel un o chwaraewyr gorau Cymru erioed, ac roedd yn rhan o glwb Arsenal am dros ddegawd.
Dechrau Gyrfa a Chynnydd Cynnar
Daeth doniau Aaron Ramsey i'r amlwg yn gynnar wrth chwarae pêl-droed gyda'r Urdd, ac yna derbyniodd gynnig i ymuno â Chaerdydd.
Chwaraeodd Ramsey ei gêm gyntaf dros yr Adar Gleision ar 28 Ebrill, 2007, yn erbyn Hull City. Ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros y clwb ar y pryd, yn 16 mlwydd ac 124 diwrnod oed.

Ar 17 Mai, 2008, fe chwaraeodd Ramsey yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr. Fodd bynnag, colli fu hanes yr Adar Gleision, 1-0 yn erbyn Portsmouth.

Symud i Arsenal a Chynnydd Rhyngwladol
Arwyddodd Aaron Ramsey dros gewri gogledd Llundain, Arsenal, ar 13 Mehefin, 2008.

Daeth ei gôl gyntaf dros y clwb yn erbyn Fenerbahçe yng Nghynghrair y Pencampwyr yn Istanbul ar 21 Hydref, 2008.

Daeth y cap rhyngwladol cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Denmarc yn Stadiwm Brøndby, Copenhagen. Enillodd Cymru'r gêm, diolch i gôl gan reolwr presennol Cymru, Craig Bellamy.

Cyfnodau Benthyciad a Heriau Anafiadau
Yn nhymor 2010-11, chwaraeodd bum gêm ar fenthyg gyda Nottingham Forrest, cyn mynd nôl i Gaerdydd ar fenthyg, lle chwaraeodd chwe gêm.

Yn dilyn anaf difrifol wedi tacl gan Ryan Shawcross mewn gêm yn erbyn Stoke City yn 2010, roedd llawer yn ofni na fyddai Ramsey'n dychwelyd i'w safon flaenorol.
Ond ar ôl cyfnod hir o wella o lawdriniaeth, daeth ei safon i'r amlwg unwaith eto, er mawr ryddhad i gefnogwyr Arsenal a Chymru.

Arwain y Tîm Cenedlaethol a Chwarae gyda Chwaraewyr Mawr
Yn 20 oed, cafodd ei benodi'n gapten ar y tîm cenedlaethol gan Gary Speed, gan arwain y garfan yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ar 26 Mawrth, 2011.

Yn ystod ei yrfa, chwaraeodd Ramsey gyda rhai o fawrion y gêm, gan gynnwys Thierry Henry - yma ym Maes Awyr Luton ar y ffordd i chwarae AC Milan yn 2012.

Llinell Amser o Lwyddiannau a Chofnodion Allweddol
Yn dathlu sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Hull City yn ffeinal Cwpan FA Lloegr, 17 Mai, 2014.

Yn codi tlws yr FA o flaen y cefnogwyr gyda golwr Arsenal, Wojciech Szczesny, 18 Mai, 2014.

Yn dathlu sgorio gôl arbennig yn erbyn Galatasaray yn Istanbul, 9 Rhagfyr, 2014.

Yn dilyn rhediad bythgofiadwy Cymru yn Euro 2016, cafodd Ramsey ei enwi yn 'nhîm y bencampwriaeth' gan UEFA, ynghyd â Chymro arall, Joe Allen.

Yn dathlu ennill ei drydedd Gwpan FA yn 2017. Fe sgoriodd y gôl fuddugol mewn dwy ffeinal - yn erbyn Hull City yn 2014 ac yn erbyn Chelsea yn 2017.

Carreg filltir arall oedd ei hatric gyntaf, yn erbyn Everton ar 3 Chwefror, 2018.

Symud i Juventus a Chwarae Rhyngwladol Parhaus
Yn haf 2019, fe arwyddodd dros y cewri Eidalaidd, Juventus.

Ar y ffordd i gyrraedd Euro 2020, Ramsey oedd seren y gêm yn y fuddugoliaeth yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd, gan sgorio'r ddwy gôl yn y fuddugoliaeth 2-0.

Roedd Ramsey gyda Juventus am dri thymor, gan fynd ar fenthyg i Rangers am y mwyafrif o'i drydedd flwyddyn gyda'r clwb. Ond gyda'i amser gyda Juve, fe enillodd bencampwriaeth Serie A, Coppa Italia a'r Supercoppa Italiana.

Cyfnod gyda Glasgow Rangers a Chynnydd gyda Chenedl Cymru
Roedd ei gyfnod gyda Glasgow Rangers yn eitha' siomedig, ac roedd yn gyfnod rhwystredig iddo gydag anafiadau.

Roedd Ramsey'n rhan o ganol-cae Cymru wrth i'r wlad fynd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd yn 2022.

Bale a Ramsey, y bartneriaeth arbennig i Gymru am dros ddegawd.

Cyfnodau Diwedd Gyrfa a Symudiadau Diweddar
Yn cael ei ddilyn gan Lionel Messi tra'n chwarae dros OGC Nice yn 2022-23.

Dychwelyd i ble gychwynnodd y cyfan, rhwng 2023 ac 2025 roedd Ramsey yn ôl gyda'r Adar Gleision, ble chwaraeodd 23 gêm yn unig oherwydd anafiadau.

Y cap olaf oedd buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Montenegro yn Niksic ar 9 Medi, 2024.

Yn 2025, fe gymrodd Ramsey yr awenau gyda Chaerdydd am gyfnod yn dilyn ymddiswyddiad Omer Riza.

Ar 1 Gorffennaf, 2025, arwyddodd dros glwb Pumas UNAM yn Coyoacán, Dinas Mecsico. Eto, fe wnaeth anafiadau amharu ar ei berfformiadau, a dim ond chwe gwaith y gwnaeth chwarae i'r clwb.

Cysylltu â Chymru Fyw
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




