Skip to main content
Advertisement

Efeilliaid Garan ac Ioan Croft yn dychwelyd i'r sgwâr focsio i dargedu teitlau Prydeinig

Efeilliaid Garan ac Ioan Croft, heb golli un gornest proffesiynol, yn dychwelyd i'r sgwâr focsio i dargedu teitlau Prydeinig gyda chytundeb hir dymor gyda Matchroom.

·4 min read
Garan (chwith) ac Ioan Croft

Dyfodol bocsio proffesiynol i efeilliaid Croft

Nid yw Garan (chwith) nac Ioan Croft wedi colli un gornest yn ystod eu gyrfaoedd proffesiynol hyd yma.

Bydd yr efeilliaid Garan ac Ioan Croft yn dychwelyd i'r sgwâr focsio yn ddiweddarach yn yr haf wrth i'r ddau gamu yn nes at geisio sicrhau teitlau Prydeinig.

Wedi llwyddiant yn ymladd yn amatur – yn enwedig yng Ngemau'r Gymanwlad pedair blynedd yn ôl pan enillodd Ioan aur a Garan efydd – mae'r ddau bellach wedi sefydlu eu hunain yn broffesiynol.

Ers gadael pentref Crymych ddwy flynedd yn ôl i symud i Fanceinion, maen nhw wedi bod yn ymarfer yn Oldham o dan hyfforddiant cyn-bencampwr pwysau ysgafn y byd, Anthony Crolla.

Gyda'r ddau'n edrych ymlaen at y dyfodol maen nhw hefyd yn cymryd diddordeb yn y byd bocsio ar lawr gwlad yng Nghymru.

Garan Croft yn dathlu ar ôl curo Marco Simmonds i ennill ei chweched gornest broffesiynol

Garan Croft yn dathlu
Disgrifiad o’r llun, Garan Croft yn dathlu ar ôl curo Marco Simmonds i ennill ei chweched gornest broffesiynol
"Mae'n wych bod lan yn Manceinion yn ymarfer," meddai Garan, sy'n cystadlu yn yr adran pwysau welter uwch.
"'Dan ni wedi cael dwy flynedd lan yma nawr ac wedi setlo yn dda a dechrau perfformio'n dda hefyd."

Ym mis Chwefror fe arwyddodd y brodyr, 24 oed, gytundeb "hir dymor" gyda chwmni hyrwyddo enwog Matchroom.

Roedd y ddau'n fuddugol yn eu gornestau cyntaf ers ymuno â Matchroom ym mis Ebrill ac yn gobeithio am ragor o lwyddiant wrth edrych ymlaen.

Ioan Croft yn curo Novak Radulovic o Serbia ym mis Ebrill

Advertisement
Ioan Croft yn ystod gornest yn erbyn Novak Radulovic
Disgrifiad o’r llun, Ioan Croft yn curo Novak Radulovic o Serbia ym mis Ebrill
"Mae'n helpu ni mas lot gyda'r teip o backing - maen nhw yn rhoi ni ar fel DAZN a'r platfforms mawr," meddai Ioan, sydd yn yr adran pwysau canol.
"Maen nhw'n rhoi rhywfath o lwybr i ni dros y ddwy flynedd nesaf - siarad am teitls a pethau ac mae'n rhoi ni mewn lle da."

Uchelgais y ddau yw cystadlu am deitlau Prydeinig yn y dyfodol agos gyda Garan yn dweud:

"Dyna gobeithion y ddau ohona ni a'r tîm o amgylch ni hefyd.
Mae'n gyffrous. 'Dan ni'n pwshio ein gilydd ymlaen lot."
Ychwanegodd Ioan: "Tydio ddim yn teimlo fel swydd i ni.
Hwn ydi beth 'dan ni wedi tyfu lan yn gwneud felly ni'n enjoio fe."

Er eu bod bellach yn byw ac yn ymarfer yng ngogledd orllewin Lloegr, mae'r ddau frawd yn cymryd diddordeb yn y gamp ar lawr gwlad yng Nghymru.

"Mae'r talent yn rili dda," meddai Ioan.
"'Dan ni wedi bod yn lwcus i fynd mewn i cwpwl o camps tîm Cymru ac mae 'na lot o dalent yn dod trwodd.
Pryd oedda ni'n tyfu lan roedd lot just o de Cymru ond nawr mae bois o'r gogledd yn dod lan.
Mae 'na lot fwy o blant yn bocsio ac mae gym Aberteifi yn llawn.
Felly mae'n neis i weld y diddordeb 'na yng Nghymru."

Roedd rhwng dau a thri chant wedi teithio o ogledd Sir Benfro i Altrincham ger Manceinion ym mis Ebrill i wylio'r efeilliaid yn ymladd yn eu gornestau cyntaf dan adain Matchroom.

Roedd Ioan yn fuddugol yn erbyn Novak Radulovic o Serbia cyn i Garan drechu Marco Simmonds o Loegr.

"Ma' fe'n wych," meddai Garan wrth sôn am y gefnogaeth derbyniodd y ddau y noson honno.

"'Dan ni'n ddiolchgar i gael y cefnogaeth ni'n cael.
Mae'n meddwl lot i ni ar y noson ac mae'n helpu pan 'dach chi'n cerdded i'r ring.
Chi'n gweld cwpwl o wybebau 'dach chi'n nabod."

Ioan Croft (chwith) a Garan Croft

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News