Skip to main content
Advertisement

Gwion Roberts o Drawsfynydd yn helpu rhedwr ar y llawr yn Marathon Llundain

Yn Marathon Llundain, Gwion Roberts o Drawsfynydd helpodd ddyn ar y llawr a methu codi, gan ddangos caredigrwydd mewn digwyddiad sydyn.

·3 min read
Gwion Roberts

Cefndir y digwyddiad yn Marathon Llundain

Mae cwblhau marathon yn gamp arbennig. Cymaint yw'r gamp nes nad yw'n anghyffredin gweld coesau rhedwyr yn rhoi'r ffidil yn y to yn y milltiroedd olaf.

Ddydd Sul, wrth redeg tuag at y llinell derfyn ym Marathon Llundain, sylwodd Gwion Roberts o Drawsfynydd ar ddyn ar y llawr nad oedd yn gallu codi ar ei draed yn annibynnol – profiad y dywedodd

"fydd yn aros hefo fi am hir iawn"
.

Fe gafodd y digwyddiad ei ffilmio gan un o'r dorf a'i rannu ar TikTok.

Ymdrech Gwion i helpu'r dyn

"Doedd o ddim yn 'neis' gweld pobl yn dioddef at ddiwedd y ras ond roedd y rhan fwyaf yn dal i redeg neu o leia' yn cerdded. Pan nes i weld y gŵr yma ar y llawr - yn amlwg doedd ei goesa' fo ddim yn gweithio yn iawn dim mwy felly doedd gen i ddim dewis ond rhedeg yn ôl i'w helpu.

"Ar ôl cyrraedd y llinell derfyn 'naeth paramedics ei roi o yn syth ar stretcher a nes i ddim o'i weld o wedyn! Dwi wedi trio chwilio amdano ar Facebook ond heb gael ateb neu ddod o hyd iddo eto. Ond nai dal i drio chwilio."

Mae Gwion yn diolch i'r person a ffilmiodd y digwyddiad gan fod popeth wedi digwydd yn sydyn iawn.

Ad (425x293)

"Mae o'n deimlad rhyfadd gwylio'r fideo nôl. Mae'r ymateb dwi 'di cael yn anhygoel - ond ar ddiwedd y dydd byddai unrhyw un yn fy sefyllfa i wedi gwneud yr un peth, gobeithio."

Proffil Gwion Roberts

Mae Gwion, sy'n byw yn Nhrawsfynydd, yn dad i ferch fach o'r enw Manw, sy'n ddwy a hanner oed. Mae'n rhedwr ac yn feiciwr brwd. Dywedodd ei wraig, Llio, wrth Cymru Fyw:

"Nath o ddweud wrtha' i ddoe bod o wedi 'helpu' rhywun dros y llinell derfyn, ond pan welais i y clip yma bore 'ma, nes i ddim byd ond crio a phan dw i'n ail wylio dw i'n dal i gael dagrau."

Roedd Gwion yn rhedeg y marathon gyda'i chwaer-yng-nghyfraith, Elliw. Gan ei fod wedi'i anafu, doedd o ddim yn poeni am gyflawni amser penodol eleni, a'i fod yn gyfle i fwynhau'r achlysur.

Cyd-destunau eraill a dolenni defnyddiol

  • O redeg yn y cyfnod clo i ddod yn 7fed yn y She Ultra
  • Ramsey i redeg marathon Llundain er cof am fachgen chwech oed
  • 'Couch i 50k': Gwneud marathonau ar ôl cychwyn rhedeg yn y cyfnod clo

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News