Undebau'n beirniadu cynnig codiad cyflog i athrawon Cymru
Mae undebau addysg wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gynnig codiad cyflog is na'r hyn a argymhellwyd gan gorff annibynnol.
Bydd athrawon yn derbyn codiad cyflog o 3.5% o fis Medi, meddai'r llywodraeth.
Fodd bynnag, mae hyn yn llai na'r 4.25% a argymhellwyd gan y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC).
Dywedodd y Gweinidog Addysg Anna Brychan y byddai'r dyfarniad - sy'n cyfateb i'r cynnig yn Lloegr - yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

'Argymhelliad ddim yn fforddiadwy'
Dywedodd Ms Brychan:
"Pan fydd ysgolion yn dychwelyd ym mis Medi, byddaf yn ymgynghori ar ddyfarniad cyflog o 3.5% i athrawon ac arweinwyr ysgolion.
"Yng ngoleuni'r pryderon a godwyd gan bartneriaid y tu hwnt i'r broses adolygu cyflogau, byddaf hefyd yn ymgynghori ar gynnydd o 5% ar gyfer athrawon sydd heb gymhwyso."
"Nid yw argymhelliad CACAC yn fforddiadwy o fewn y cyllidebau presennol," meddai Anna Brychan.
Ychwanegodd ei bod "wedi ystyried yn ofalus argymhelliad y corff y dylid cynyddu cyflogau a lwfansau 4.25% o fis Medi 2026".
"Rwy'n ymwybodol o'r amgylchiadau ariannol anodd sy'n effeithio ar ysgolion a cholegau, a goblygiadau dyfarniadau cyflog heb eu hariannu i gyllidebau a niferoedd staff.
"Nid yw argymhelliad CACAC yn fforddiadwy o fewn y cyllidebau presennol.
"Wrth ddod i'm penderfyniad, rwyf wedi gorfod cydbwyso'r gyllideb sydd ar gael â'r angen i gydnabod a gwobrwyo ein gweithlu."
'Dyfarniad llawer rhy isel'
Mae undebau addysg wedi beirniadu'r penderfyniad i beidio cyd-fynd ag awgrym y corff annibynnol.
Dywedodd undeb penaethiaid NAHT Cymru:
"Sefydlwyd y corff adolygu i ddarparu cyngor annibynnol, arbenigol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd iddo ynghylch recriwtio, cadw, llwyth gwaith a'r heriau ehangach sy'n wynebu'r gweithlu addysg.
"Os yw gweinidogion yn barod i anwybyddu'r cyngor hwnnw pan fydd yn anghyfleus, yna mae'n gwbl resymol gofyn beth yw pwrpas y broses."
Ychwanegodd undeb NEU Cymru eu bod yn "croesawu codiad cyflog i athrawon", ond nid un is na'r hyn a argymhellwyd.
"Ar yr olwg gyntaf, gallai'r dyfarniad eleni ymddangos yn gadarnhaol o'i gymharu â Lloegr, gan nad oes gofyn i ysgolion yng Nghymru ddod o hyd i 1%.
"Yn ymarferol, fodd bynnag, mae'r cyhoeddiad hwn yn llawer rhy isel.
"Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis anwybyddu argymhelliad CACAC drwy gyhoeddi dyfarniad sy'n is na'r ffigwr o 4.25% a nodwyd yn eu hadroddiad."
Mae Cyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru hefyd wedi beirniadu'r llywodraeth am "gamu i ffwrdd o broses sy'n canolbwyntio ar Gymru, a dewis dilyn Lloegr".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Gobaith y bydd athrawon yn cael cynnydd cyflog tebyg i Loegr
- Rhybudd am gyfnod 'tyngedfennol' i'r Gymraeg wrth addo cynllun yn yr hydref
- 'Diffyg hyder' gan athrawon ar bynciau 'cymhleth a sensitif' addysg rhyw






