Skip to main content
Advertisement

Tân Gwyllt Mawr yn Sir Conwy yn Parhau gyda Rhybudd i Bobl Fregus am Fwg

Tân gwyllt mawr yn Sir Conwy wedi achosi mwg sy'n parhau am ddyddiau, gyda rhybudd i bobl fregus am effeithiau iechyd. Mae trigolion wedi gorfod gadael eu cartrefi, ac mae gwasanaethau tân yn monitro'r sefyllfa'n barhaus.

·4 min read
Tan Conwy

Tân Gwyllt Mawr yn Sir Conwy yn Parhau gyda Rhybudd i Bobl Fregus am Fwg

Mae disgwyl i fwg barhau am ddyddiau yn y gogledd yn dilyn tân mawr yn Sir Conwy gyda rhybudd am effeithiau mwg ar bobl sy'n agored i niwed.

Cafodd "digwyddiad difrifol" ei ddatgan brynhawn Sul yn dilyn tân gwyllt ar Fynydd y Dref a Bwlch Sychnant a bu rhaid i nifer adael eu cartrefi.

Bellach mae'r tân dan reolaeth ond mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dal i reoli'r sefyllfa ac yn annog pobl i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd y mwg.

Gall mwg o dân gwyllt beri risg i bobl sydd ag asthma, clefyd y galon a chyflyrau hirdymor eraill.

Dywedodd RCP Cymru bod "ansawdd gwael yr aer" yn dilyn y tân wedi "cynyddu risgiau iechyd pobl sy'n agored i niwed ac wedi creu amodau heriol i staff gofal iechyd a chleifion".

Mae Llinos Evans yn annog pobl leol i "gau ffenestri a drysau os mae'r mwg yn effeithio arnynt"

Llinos Evans
Disgrifiad o’r llun, Mae Llinos Evans yn annog pobl leol i "gau ffenestri a drysau os mae'r mwg yn effeithio arnynt"

Mae criwiau'r gwasanaeth tân wedi bod yn yr ardal dros nos a bore Mawrth "i fonitro ac asesu'r sefyllfa" meddai Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol Gwasanaeth Tân y Gogledd, Llinos Evans.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast pwysleisiodd eu bod yn disgwyl mwg yn ardal am rai dyddiau ac y dylai pobl ond "cysylltu os maen nhw'n gweld fflamau gweladwy neu mae'r mwg yn ormodol".

Ychwanegodd y dylai pobl "gau ffenestri a drysau os mae'r mwg yn effeithio arnynt".

Mae dal criwiau'n bresennol yn ardal Braichmelyn ym Methesda ac ar fynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech gan fod tanau gwyllt yn yr ardaloedd hynny meddai.

Advertisement

Erbyn hyn mae'r gwasanaeth tân wedi gallu anfon mwy o adnoddau i'r ardaloedd hynny wrth i'r tân ar Fynydd y Dref dawelu.

Roedd yr ardal ben bore "yn wirioneddol fyglyd," meddai un person lleol

Tan Conwy
Disgrifiad o’r llun, Roedd yr ardal ben bore "yn wirioneddol fyglyd," meddai un person lleol

Cafodd y tân effaith ar oddeutu 200 erw o dir

Tan Conwy
Disgrifiad o’r llun, Cafodd y tân effaith ar oddeutu 200 erw o dir

Bu'n rhaid i drigolion 36 o gartrefi ym mhentref Capel Ulo ger Penmaenmawr adael oherwydd y mwg

Tan Conwy
Disgrifiad o’r llun, Bu'n rhaid i drigolion 36 o gartrefi ym mhentref Capel Ulo ger Penmaenmawr adael oherwydd y mwg

Mae RCP Cymru yn annog pobl yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio i ddilyn cyngor gan gynnwys cyfyngu cysylltiad â'r mwg lle bo'n bosibl.

Ychwanegon nhw fod adroddiadau fod rhai swyddfeydd mewn ysbytai wedi cyrraedd tymheredd o 30 gradd a bod yn rhaid i'r staff wneud penderfyniad rhwng agor y ffenestri a gadael y mwg i mewn neu ddioddef y gwres.

Mae Dr Ben Thomas o RCP Cymru yn rhybuddio y gall "mwg o danau gwyllt waethygu cyflyrau anadlol a chardiofasgwlaidd presennol, tra bod cyfnodau hir o dymheredd uchel yn cynyddu'r risg o ddadhydradiad ac anaf acíwt i'r arennau, yn enwedig ymhlith pobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.

"Dwi'n pryderu am yr effaith y gall yr amodau hyn ei chael ar gleifion agored i niwed ac am y pwysau ychwanegol mae'n ei roi ar wasanaethau iechyd sydd eisoes dan straen mawr.
"Pan fydd ysbytai yn mynd yn rhy boeth, mae'r canlyniadau'n cael eu teimlo gan gleifion a staff."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol

  • Tân mawr yn y gogledd yn gorfodi trigolion i adael eu cartrefi
  • Pobl yn cael dychwelyd adref wedi 'oglau llosgi mawr'

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News