Skip to main content
Advertisement

Teulu'n rhoi teyrnged i feiciwr modur a fu farw ym Mynytho, Pen Llŷn

Teulu Roger Hawcroft, beiciwr modur a fu farw ym Mynytho, Pen Llŷn, yn rhoi teyrnged iddo. Roedd yn 67 oed ac aeth yn farw ar ôl gwrthdrawiad car ddydd Sadwrn 25 Ebrill. Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth i'w hymholiadau.

·2 min read
Roger Hawcroft

Teyrnged i feiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mynytho

Mae teulu beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mynytho, Pen Llŷn, wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Roger Hawcroft, oedd yn 67 oed ac yn byw gyda'i deulu ym Motwnnog, yn y fan a'r lle yn dilyn gwrthdrawiad â char ddydd Sadwrn 25 Ebrill.

Dywedodd ei deulu ei fod wedi marw "yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu, yn y lle yr oedd yn ei garu, gyda'r haul ar ei wyneb a'r môr wrth ei ymyl".
"Er mor drist yr ydym, ni fyddai wedi dymuno dim byd gwahanol ac felly y bu."

Ychwanegodd y teulu eu bod yn gwybod faint oedd yno i helpu ar y diwrnod, "yr arbenigwyr a'r bobl gyffredin, ac rydyn ni eisiau i chi nid yn unig wybod pa mor ddiolchgar ydyn ni, ond ein bod ni'n dawel ein meddyliau, ac yn dymuno'r un peth i bob person arall a wnaeth gymryd rhan".

Ad (425x293)
"Mae ein mam annwyl yn gweddïo drosoch am byth."

Mae Heddlu'r Gogledd yn dal i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu eu hymholiadau i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News