Skip to main content
Advertisement

Tad Rhun ap Iorwerth Anodd Credu Llwyddiant Plaid Cymru

Edward Morus Jones, tad Rhun ap Iorwerth, mynegodd ei anhawster i gredu llwyddiant Plaid Cymru wrth i'w fab debygu i fod yn Brif Weinidog Cymru, gan adrodd hanes ymgyrchu a datblygiad y blaid dros y degawdau.

·4 min read
Edward Morus Jones a Rhun ap Iorwerth

Edward Morus Jones a Rhun ap Iorwerth yn cofleidio yn ystod y cyfrif ddydd Gwener

Mae tad Rhun ap Iorwerth wedi mynegi ei anhawster i gredu llwyddiant Plaid Cymru, gan fod ei fab yn debygol o gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru yn y dyddiau nesaf.

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Edward Morus Jones ei fod yn teimlo "mor emosiynol" am y sefyllfa y mae ei fab ynddi.

Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, mae Mr Jones yn gyn-athro a chanwr adnabyddus, ac mae wedi bod yn ymgyrchu dros y Gymraeg a Phlaid Cymru ers degawdau.

Bellach yn byw ar Ynys Môn ers peth amser, bu'n trafod gyda Nia Thomas brynhawn Llun am lwyddiant Plaid Cymru yn yr etholiad, a'i fab fel arweinydd.

'Dal ati yn ddiwyro a chadw gobaith'

Yn ôl Mr Jones mae'n "deimlad swreal iawn, iawn - dwi methu credu fod o'n wir".

"Dwi wrth fy modd, a methu [credu] bod rhywun o 'nheulu bach i hefo cymaint o ran i'w chwarae yn y cyfan sy'n digwydd!"

Dywedodd nad oedd yn syndod iddo weld ei fab yn troi at fyd gwleidyddiaeth, gan nodi ei fod - "pan oedd Rhun yn fach iawn - rhyw dair neu bedair oed", yn "chwarae swyddfa'r Blaid".

Esboniodd Mr Jones, pan holwyd ef am ei ymgyrchu dros Blaid Cymru am fwy na 50 mlynedd, fod datblygiad y blaid wedi digwydd yn "ara' deg bach" dros amser.

Ad (425x293)

Yn ôl Edward Morus Jones, mae'r ffaith bod ei fab yn y fath sefyllfa yn "deimlad swreal iawn, iawn"

Edward Morus Jones a Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun, Yn ôl Edward Morus Jones, mae'r ffaith bod ei fab yn y fath sefyllfa yn "deimlad swreal iawn, iawn"
"Pan o'n i'n 15 oed ac yn ymgyrchu dros ŵr nid anenwog, Gwynfor Evans, ym Meirionnydd, oedd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi - yn meddwl rhyw blaid fach oedd hi," meddai.
"Yn ara' deg bach, dod 'nôl rhyw 15 i 20 mlynedd wedyn, gweld ffrind i mi - rhywun o'r enw Dafydd Elis-Thomas - yn mynd i mewn ac ro'n i'n ymgyrchu efo fo.
"Roedd tristwch yma ac acw ar y ffordd, ond wedyn yn cyrraedd i Fôn fues i'n ymgyrchu dros ffrind arall - Ieuan Wyn Jones - a ddaeth yn ŵr amlwg iawn i ni am flynyddoedd.
"Mae rhywun wedi bod wrthi ers blynyddoedd lawer ac wedi gweld yn anawsterau mawr yn mynd yn llai, ond dal ati ydi'r gair mawr wedi bod - dal ati yn ddiwyro a chadw gobaith, cadw ffydd.
'Da ni 'di gweld hynny'n digwydd, a dwi'n credu bod 'na gymaint o ddiolch i'r rhai sydd wedi bod o'n blaenau ni dros y blynyddoedd.
"Mae hi 'di bod yn 100 mlynedd, ond mae'r 100 mlynedd yma wedi deillio ar rywbeth go arbennig eleni."

'Teimlad swreal iawn, iawn - dwi methu credu fod o'n wir'

Gwrandewch ar gyfweliad Edward Morus Jones gyda Nia Thomas

Dywedodd ei fod hefyd yn syndod gyda pha mor sydyn mae cefnogaeth i Blaid Cymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

"A bod yn hollol onest, o'n i'n meddwl falle' y byddai o'n cymryd mwy o amser," meddai.
"Ond pan gaethon ni'r Cynulliad, a drodd yn Senedd, a gweld pethau'n dal i fynd - doedd 'na ddim stopio'r garafan rhywsut - a gweld pobl dda yn datblygu, a Rhun ei hun yn dod [i'r amlwg]."

Ychwanegodd Mr Jones ei fod wedi cadw ei ffydd yn ei fab, wrth iddo newid gyrfa yn 2013 "o ohebu am wleidyddiaeth i fynd mewn i wleidyddiaeth".

"Gwneud gwahaniaeth gobeithio" oedd nod ei fab ar y pryd, meddai.
"Ar ôl hynny 'nes i ei weld o'n cryfhau ac yn cryfhau ac yn wir yn dod yn rhywun yr o'n i'n gallu ei ddeall o'n siarad.
"Ac roedd pobl eraill wedyn wrth eu boddau yn ei gefnogi o."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Disgwyl ethol Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru yn fuan
  • Lluniau: Canlyniadau Etholiad 2026
  • Rhun ap Iorwerth yn barod i 'fynd â'r frwydr' at Lywodraeth y DU

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News