Gweiddi a Rhegi yn y Llys wrth i Bum Person Gaerdydd gael Eu Carcharu am Derfysg Trelái
Roedd gweiddi a rhegi yn y llys wrth i bum person o Gaerdydd gael eu carcharu ddydd Mercher am gymryd rhan mewn terfysg yn ardal Trelái dair blynedd yn ôl.
Cafodd heddlu terfysg a gwasanaethau brys eu galw i'r ardal ar ôl i rhwng 100 a 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol ym mis Mai 2023.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn y gwrthdrawiad.
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys cerrig, ffrâm gwely, drysau a thân gwyllt eu taflu at yr heddlu.
Wedi i'r diffynnydd cyntaf gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd, fe waeddodd unigolion yn yr oriel gyhoeddus a dweud
"shut up, you slut"wrth y barnwr Tracey Lloyd-Clarke.
Bu'n rhaid i'r barnwr orfodi'r cyhoedd i adael y llys, ac fe ofynnodd i staff y llys ddod â dau ddyn yn ôl a'u cadw dan amheuaeth o ddirmyg llys.
31 Heddwas wedi'u Hanafu
Fe gafodd 31 o heddweision ac un aelod o'r cyhoedd eu hanafu yn ystod y terfysg.
Dywedodd y barnwr fod
"galar ofnadwy"teuluoedd Kyrees a Harvey yn cael ei deimlo gan y gymuned hefyd.
Ychwanegodd fod sibrydion ynglŷn â'r hyn oedd wedi digwydd a beth oedd wedi achosi'r gwrthdrawiad wedi lledaenu'n gyflym ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe dyfodd y dorf dros gyfnod o oriau, gyda drwgdeimlad ac wedyn trais tuag at yr heddlu yn cynyddu.
Diffynwyr a'u Dedfrydau
Y rhai gafodd eu dedfrydu yn y llys ddydd Mercher am derfysg (riot) oedd:
Ashdon O'Dare, 28 o Drelái - chwe blynedd a chwe mis.
Clywodd y llys mai O'Dare oedd yn gyfrifol am sbarduno'r terfysg a'i fod wedi annog y dorf i droi'n dreisgar tuag at yr heddlu.
Lee Robinson, 39 o Gaerau – chwe blynedd a chwe mis.
Roedd Robinson un o'r rhai cyntaf yno'n ffilmio'r digwyddiad ar ei ffôn, yn annog pobl eraill i daflu bom petrol tuag at un o swyddogion Heddlu'r De.
Clywodd y llys fod
"ei weithredoedd wedi cynyddu'r troseddu".
Michaela Gonzales, 37 o Drelái – pum mlynedd a dau fis.
Fe geisiodd Gonzales dawelu'r dorf fach wedi'r gwrthdrawiad, ond wrth i'r heddlu geisio symud pobl i ffwrdd o ble bu farw'r bechgyn, fe drodd hi'n dreisgar hefyd.
Fe waeddodd droeon mai
"ein strydoedd ni yw'r rhain"ac fe daflodd botel tuag at yr heddlu cyn annog eraill i wneud hefyd.
Roedd hi yn ei dagrau wrth i'r barnwr gyhoeddi'r ddedfryd.

Jordan Bratcher, 27 o Lanisien – pum mlynedd a chwe mis.
Roedd Bratcher yn un o'r grŵp amlwg fu'n taflu amryw o eitemau tuag at yr heddlu dros gyfnod o oriau.
Clywodd y llys fod plant yn bresennol pan fu'n troseddu.
Tyler Stapleton, 26 o Drelái – pedair blynedd a phedwar mis.
Roedd Stapleton un o'r rhai cyntaf i gyrraedd Heol Wilson, cyn iddo ymuno a'r grŵp fu'n herio'r heddlu yno.
Fe ymunodd â grŵp fu'n casglu eitemau o erddi yn yr ardal er mwyn eu taflu at yr heddlu.
Pan gafodd ei arestio, dywedodd wrth swyddogion ei fod wedi gwneud
"rhywbeth twp iawn".

Dedfrydau Pellach a Gorchmynion Atgyfeirio
Bydd pum diffynnydd arall yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach brynhawn Mercher am eu rhan nhw yn y terfysg.
Mae disgwyl i 10 o bobl eraill gael eu dedfrydu ddydd Iau, a 10 arall ddydd Gwener.
Mae 10 o bobl ifanc eisoes wedi'u dedfrydu am eu rhan yn yr aflonyddwch, ac mae pob un wedi cael gorchymyn atgyfeirio - math o ddedfryd gymunedol.
Cysylltiadau a Chyfryngau Cymdeithasol
Mae'r digwyddiadau wedi cael sylw helaeth ar gyfryngau cymdeithasol, gyda gwybodaeth a sylwadau'n lledaenu'n gyflym, gan ychwanegu at y tensiwn a'r gwrthdaro yn ystod y terfysg.
Ffrydiau Cyfryngau a Chysylltiadau
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







