Marwolaeth Aaron Jones ar ôl cael ei daro gan gar yn Llanpumsaint
Bu farw Aaron Jones ar ôl cael ei daro gan gar wrth fynd â'i gi am dro yn Llanpumsaint ym mis Rhagfyr 2024.
Pryder y weddw am ryddhau carcharor yn gynnar
Mae gweddw dyn a gafodd ei ladd ar ôl cael ei daro gan yrrwr wedi mynegi pryder y gallai'r dyn a achosodd ei farwolaeth gael ei ryddhau'n gynt na'r disgwyl.
Bu farw Aaron Jones, 38 oed ac yn dad i ddau o blant, ar 23 Rhagfyr 2024 ar ôl cael ei daro gan gerbyd mewn digwyddiad taro a ffoi.
Mae ei weddw Lisa Jones o Lanpumsaint wedi derbyn llythyr yn nodi y gallai dedfryd Daniel Wyke gael ei hadolygu o dan ddarpariaethau Deddf Dedfrydu 2026.
Mae'r teulu wedi dweud na fydden nhw'n gwybod tan ddiwedd mis Awst a fydd ei gyfnod yn y carchar yn cael ei leihau.
Galwadau gan Aelodau Seneddol i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, a Nerys Evans, Aelod Senedd Cymru dros Sir Gaerfyrddin, wedi galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod hawliau a lles teuluoedd dioddefwyr wrth galon unrhyw benderfyniadau.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai nod y newidiadau yw mynd i'r afael â'r argyfwng capasiti mewn carchardai, gan bwysleisio mai diogelwch y cyhoedd a chefnogi dioddefwyr yw eu blaenoriaeth.
Dedfryd Daniel Wyke a manylion y digwyddiad
Cafodd Daniel Wyke ddedfryd o bedair blynedd a hanner o garchar ym mis Mawrth 2026
Roedd Mr Jones yn mynd â'i gi am dro pan gafodd ei daro ddeuddydd cyn y Nadolig yn 2024, ac fe wnaeth y gyrrwr, Daniel Wyke adael safle'r digwyddiad.
Cafodd Wyke ei garcharu am bedair blynedd a hanner ym mis Mawrth eleni ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Ymateb Aelodau Seneddol i'r ansicrwydd
Dywedodd Ann Davies a Nerys Evans fod wynebu'r ansicrwydd ynghylch hyd y ddedfryd yn ychwanegu at alar y teulu.
"Mae'n hanfodol bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwrando ar ddioddefwyr a'u teuluoedd," medden nhw mewn datganiad ar y cyd.
"Rhaid mynd ati gyda'r gofal a'r sensitifrwydd mwyaf mewn unrhyw benderfyniad i fyrhau dedfrydau mewn achosion o'r difrifoldeb hwn."
Bywyd Aaron Jones a'i ddiddordebau
Roedd Aaron Jones wrth ei fodd gyda cheir a ralio, yn ôl ei deulu a'i ffrindiau.

Effaith Deddf Dedfrydu 2026 ar rhyddhau carcharorion
Mae Deddf Dedfrydu 2026 yn golygu y gall rhai carcharorion gymhwyso i gael eu rhyddhau'n gynharach fel rhan o newidiadau i'r system ddedfrydu.
Dywedodd Nerys Evans ei bod hi ac Ann Davies wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder i "geisio sicrwydd y gellir clywed llais a barn teulu Aaron fel rhan o unrhyw broses i adolygu'r ddedfryd".
Ymgyrch yn Nhŷ'r Cyffredin a ymateb y Llywodraeth
Fe wnaeth Ann Davies godi'r achos yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau, gan ddweud bod yr ansicrwydd yn dod â mwy o ofid i deuluoedd dioddefwyr.
Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Tŷ, Alan Campbell, ei fod yn deall sensitifrwydd yr achos a'r gofid a achoswyd i'r teulu.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried y pryderon.
Dywedodd bod angen i ystyried hawliau teuluoedd dioddefwyr fod yn "rhan o bob proses, nid dim ond achosion unigol", ac y dylai hynny arwain at "newid diwylliannol" yn y ffordd mae'r system gyfiawnder yn delio â'r materion hynny.
Cymuned Llanpumsaint yn dod ynghyd
Pentref Llanpumsaint yn dod ynghyd i 'gadw atgof Aaron i fynd'.
Gwybodaeth ychwanegol am y digwyddiad a'r achos
Carcharu dyn am achosi marwolaeth cerddwr yn Llanpumsaint.
Dyn wedi cael ei daro gan gar tra'n mynd â'i gi am dro - cwest.
Safbwynt y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y newidiadau
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y llywodraeth yn gweithredu'r newidiadau er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng capasiti mewn carchardai.
Dywedodd llefarydd fod "diogelwch y cyhoedd a chefnogi dioddefwyr" yn flaenoriaeth, gan ychwanegu "na fydd y troseddwyr mwyaf peryglus yn gymwys i gael eu rhyddhau'n gynharach".
Ychwanegodd y bydd "carcharorion sy'n cael eu rhyddhau'n gynnar yn wynebu amodau llym", gan gynnwys cyfyngiadau ar eu symudiadau, tagio electronig a goruchwyliaeth gan y gwasanaeth prawf.
Ffyrdd o ddilyn y newyddion a chysylltu
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




