Prisiau Tocynnau Trenau Trafnidiaeth Cymru Yn Cael Eu Rhewi Am Flwyddyn
Bydd prisiau tocynnau trenau yng Nghymru yn cael eu rhewi am flwyddyn o 1 Mawrth, yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan y byddai cadw prisiau tocynnau trên ar eu lefel bresennol ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TfW) yn rhoi
"rhoi sicrwydd i deithwyr ar adeg pan mae llawer yn cael trafferth gyda chostau byw."
Mae'r cam hwn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd prisiau tocynnau trenau yn Lloegr yn cael eu rhewi am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd.
Dywedodd Plaid Cymru fod angen
"dadwneud degawdau o dan-ariannu'r rheilffyrdd", tra bod Reform UK wedi dweud bod Llafur wedi cael
"cenhedlaeth i sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol"yng Nghymru, ond eu bod
"wedi methu".
Croesawodd rhai teithwyr yng ngorsaf Bangor y penderfyniad fore Sadwrn.
Dywedodd Gareth Williams:
"Dwi'm yn dreifio. Dod i fama 'dwi, a neidio ar y trên a mynd i ble bynnag dwi isio. Dwi reit hapus efo'r prisiau."

Ond doedd Joshua Cooper o Gaerdydd ddim yn teimlo'n sicr a fyddai'r penderfyniad yn gwneud gwahaniaeth, gan ddweud fod tocynnau
"dal yn ddrud, felly dwi ddim yn credu bod hyn yn mynd i gael llawer o effaith.
Mae'n rhaid dod a'r pris lawr ac wedyn efallai bydd pobl yn mynd ar y trên."

'Yn fwy deniadol ac yn rhatach'
Bydd y rhewi prisiau yn berthnasol i docynnau sengl ymlaen llaw, tocynnau dychwelyd a gwasanaeth newydd "tapio i mewn a thapio allan", yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae'r gwasanaeth "tapio i mewn a thapio allan" yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn rhannau o dde Cymru a dywedodd y llywodraeth ei bod yn bwriadu ei chyflwyno mewn ardaloedd eraill.
Dywedodd Eluned Morgan,
"Mae mwy o bobl yn dewis teithio ar y trên yng Nghymru, mae gwasanaethau'n datblygu'n gyflymach ac maen nhw'n fwy dibynadwy."
Ychwanegodd y byddai'r rhewi prisiau yn gwneud teithio ar y trên yn
"fwy deniadol ac yn rhatach".
Saith gorsaf newydd yn rhan o addewid £14bn i reilffyrdd Cymru
Nid datganoli rheilffyrdd yw'r ffordd ymlaen, medd Gweinidog
Prisiau tocynnau trên yng Nghymru 'ddim yn gwneud synnwyr'
Dywedodd Plaid Cymru bod angen
"dechrau'r broses o ddadwneud degawdau o dan-ariannu cyllid rheilffyrdd gan Lywodraeth San Steffan"i wneud newid
"pendant"a
"datganoli isadeiledd rheilffyrdd - rhywbeth y mae Llafur wedi methu â gwneud."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y byddai'r blaid yn
"brwydro dros yr hyn sy'n ddyledus i Gymru, fel y gallwn fuddsoddi'n iawn yn ein seilwaith a chysylltu cymunedau Cymru".
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Wales:
"Mae Llafur wedi cael cenhedlaeth i sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol yng Nghymru.
Maen nhw wedi methu â gwneud hynny, a nawr maen nhw'n cael eu cosbi'n briodol am hynny."
Mae'r Blaid Geidwadol, Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.







