Prif Weinidog Cymru yn pwysleisio angen diogelu plant ar-lein
Mae Prif Weinidog Cymru wedi mynegi bod "rhaid i ni wneud rhywbeth" i warchod plant a phobl ifanc rhag niwed cyfryngau cymdeithasol, ond nid yw ei lywodraeth yn bwriadu gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion.
Daw ei sylwadau ar ôl i ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar effaith cyfryngau cymdeithasol ar bobl dan 16 ddod i ben.
Wrth siarad ar faes yr Eisteddfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod angen "dilyn y dystiolaeth yn yr ymgynghoriad yma er mwyn sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd er mwyn gwarchod plant a phobl ifanc".
Mae wedi amlinellu bod y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yn fater ar wahân, gan ddweud bod ei lywodraeth eisiau "hwyluso ysgolion i gymryd y penderfyniadau hynny y maen nhw'n teimlo sy'n iawn i warchod plant a phobl ifanc o ran defnydd ffonau symudol a'r amhariad hwnnw ar eu haddysg".
A ddylai cyfryngau cymdeithasol gael eu gwahardd o'r dosbarth i blant dan 16?
Pan ofynnwyd a yw'n syniad da gwahardd cyfryngau cymdeithasol i blant, dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oes cynllun i orfodi ysgolion i wahardd ffonau symudol.
"Dwi ddim yn meddwl amdano yn nhermau gwaharddiad, dwi yn meddwl amdano yn nhermau camau sy'n gallu cael eu cymryd mewn nifer o feysydd gwahanol," meddai.
"Un peth 'da ni isio ei wneud ydy grymuso ysgolion i wneud y penderfyniad yna, fel mae llawer wedi'i wneud yn barod, i gymryd ffonau oddi ar ddisgyblion."
Ar hyn o bryd, nid oes gwaharddiad cenedlaethol ar ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru. Mae'r penderfyniad i wahardd neu gyfyngu ar ddyfeisiau yn parhau i fod yn fater i ysgolion unigol a'u cyrff llywodraethu.
Yn Lloegr, mae cynllun i basio cyfraith sy'n gwneud yn ofynnol i ysgolion ddilyn cyngor presennol i fod yn rhydd o ffonau clyfar drwy'r dydd.
Dywedodd y Prif Weinidog fod yr hyn sy'n bwysig yw "y sylweddoliad o'r niwed sy'n gallu dod i blant a phobl ifanc, unai drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol neu ffonau mewn ysgolion, sydd yn rhywbeth ar wahân".
'Tystiolaeth yn gryfach ac yn gryfach'
Mae Llywodraeth y DU yn ystyried nifer o opsiynau i warchod plant a phobl ifanc rhag niwed cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys gwaharddiad tebyg i'r hyn sydd wedi digwydd yn Awstralia.
Mae'r Ysgrifennydd Technoleg, Liz Kendall, wedi dweud y bydd mesurau newydd ar gyfer plant dan 16 oed yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd 2026.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth,
"mae'r dystiolaeth yn mynd yn gryfach ac yn gryfach.
Pan fydd gennych chi dystiolaeth sy'n awgrymu y gall defnyddio cyfryngau cymdeithasol gan blant a phobl ifanc fod yr un mor niweidiol ag ysmygu tybaco, rydych chi'n cymryd hynny o ddifrif iawn.
Rwyf wedi gwneud yn glir gobeithio fy mod i'n credu bod angen gwneud rhywbeth."
"Beth sydd gennym ni rŵan yw sefyllfa lle mae tystiolaeth yn cael ei chasglu, lle mae ymgynghoriad ar hyn.
Ond gadewch i ni rŵan ddilyn y dystiolaeth a sicrhau bod y camau sy'n cael eu seilio ar dystiolaeth yn gallu cael eu cymryd i warchod plant a phobl ifanc."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






