Dedfryd i Amy Rees am werthu tocynnau ffug i gyngherddau Taylor Swift
Mae menyw wedi cael ei dedfrydu ar ôl twyllo ei ffrindiau a'i chydweithwyr o dros £3000 drwy werthu tocynnau ffug iddynt i gyngherddau Taylor Swift.
Cafodd Amy Rees, 38 oed o Nant-y-moel ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ddedfryd o 35 wythnos o garchar wedi'i gohirio ar ôl cyfaddef 12 cyhuddiad o dwyll, sef cyfanswm o £3042.90.

Manylion y digwyddiadau a'r dioddefwyr
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod nifer o'r dioddefwyr yn byw yn yr un gymuned â hi gan gynnwys cydweithwyr, rhieni ysgol ei merch a ffrindiau - a bod llawer yn gobeithio prynu tocynnau i fynd â'u merched ifanc i'r cyngerdd.
Perfformiodd Taylor Swift yn Stadiwm Principality Caerdydd ym mis Mehefin 2024 fel rhan o'i thaith Eras a ymwelodd â 50 o ddinasoedd.
Clywodd y llys fod rhai banciau wedi gwrthod talu iawndal i rai dioddefwyr oherwydd eu "cysylltiad personol" ag Amy Rees, a'i bod wedi defnyddio grŵp WhatsApp y feddygfa leol lle'r oedd yn gweithio a chyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r tocynnau ffug.
Ymdrechion i guddio'r twyll a sylwadau'r llys
Clywodd y llys hefyd, wrth i'r twyll ddod i'r amlwg, iddi geisio beio cydweithiwr a ffugio negeseuon e-bost gan Ticketmaster, gan awgrymu ei bod hi ei hun hefyd wedi cael ei thwyllo.
Dywedodd un fam ei bod wedi talu "pris afresymol" am docynnau go iawn y diwrnod cyn y cyngerdd, wrth iddi ddod yn amlwg ei bod wedi cael ei thwyllo gan Ms Rees.
Amgylchiadau personol a dedfryd y llys
Clywodd y llys fod Ms Rees yn feichiog a bod ganddi dri o blant ac mai hi oedd yr unig ofalwr.
Dywedodd y Dirprwy Farnwr Rhanbarth, Paul Conlon, fod Ms Rees wedi creu "gwe o dwyll" yn erbyn pobl oedd yn "ymddiried" ynddi.
"Roedd y drosedd mor ddifrifol fel bod angen dedfryd o garchar, ond teimlaf na ddylai hynny fod yn syth oherwydd yr amgylchiadau," meddai'r Dirprwy Farnwr.
Cafodd Ms Rees ei dedfrydu i 35 wythnos am bob un o'r 12 trosedd, gyda'r ddedfryd wedi'i gohirio am 12 mis a'r cyfnodau i'w rhedeg ar yr un pryd.
Gorchmynnwyd iddi dalu £1076 mewn iawndal i chwe dioddefwr nad oedd wedi derbyn iawndal gan eu banciau, gyda'r taliad i'w dynnu o'i thaliadau Credyd Cynhwysol.







