Skip to main content
Advertisement

Mam yn Herio Rhyddhau Lladdwr Ei Merch Ar Ôl Dim Ond Chwe Mis yn Y Carchar

Mam merch 15 oed a gafodd ei lladd gan yrrwr diofal yn herio'r llysoedd ar ôl i'r troseddwr gael ei ryddhau o'r carchar wedi chwe mis yn unig, gan alw am ddedfrydau llymach a newid cyfiawnder yn y system gyfreithiol.

·4 min read
Keely Morgan yn dal tystysgrif presenoldeb ysgol ar stryd gyda'r ysgol yn y cefndir

Ymgyrch Mam i Ddioddefwyr Troseddau Traffig

Mae mam merch 15 oed a gafodd ei lladd gan yrrwr diofal yn mynd â'i hymgyrch am ddedfrydau llymach i San Steffan ar ôl dod i wybod bod y troseddwr wedi ei ryddhau o'r carchar wedi chwe mis yn unig.

Roedd Keely Morgan yn sefyll ar groesfan yng Nghaerdydd pan gafodd ei tharo gan gar Christopher West ym mis Mai 2023.

Fe gafodd West ei ddedfrydu i 16 mis o garchar ym mis Gorffennaf y llynedd.

Fe fydd Sian Morgan yn cyfarfod un o weinidogion Llywodraeth y DU ddydd Llun ar ôl casglu dros 10,000 o enwau ar ddeiseb, gan ddadlau bod "dim cyfiawnder" i'w merch.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn ymroddi i sicrhau pwerau dedfrydu i'r llysoedd fel bod "cosbau'n gweddu i ddifrifoldeb y drosedd".

Dywed Sian Morgan ei bod eisiau "rhoi llais" i'w merch Keely, ac i deuluoedd eraill yn yr un sefyllfa, wedi i'r dyn a'i lladdodd dreulio cyfnod mor fyr dan glo.

Keely Morgan, yn blentyn, yn eistedd wrth ei mam, Sian
Disgrifiad o’r llun, Dywed Sian Morgan ei bod eisiau "rhoi llais" i'w merch Keely, ac i deuluoedd eraill yn yr un sefyllfa, wedi i'r dyn a'i lladdodd dreulio cyfnod mor fyr dan glo

Dywed Sian Morgan ei bod yn dal "yn grac" ac "yn methu credu" proses gyfreithiol achos ei merch - "fy angel fach".

Roedd Keely, meddai, yn ferch "ddoniol" a "hynod" - yn "enaid ffyddlon" oedd wedi goresgyn problemau iechyd difrifol yn ei phlentyndod cyn i drawsblaniad aren yn 2021 roi gobaith newydd iddi.

Fe fyddai Keely wedi dathlu ei phen-blwydd yn 18 oed ddiwedd y llynedd.

"Doedd hi jest methu aros i fyw," meddai Sian.

Manylion y Trosedd a'r Ddedfryd

Cafodd Christopher West ei ryddhau'n gynnar ar drwydded ym mis Ionawr.

Llun heddlu o Christopher West
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Christopher West ei ryddhau'n gynnar ar drwydded ym mis Ionawr

Roedd Christopher West wedi bod yn gyrru ar gyflymder rhwng 32 a 43 mya ar Heol Trelái yng Nghaerau pan darodd Keely, oedd yn sefyll ar groesfan cerddwyr yn aros i groesi'r lôn.

Yn ôl tyst ifanc oedd yn y car, roedd y gyrrwr yn "dangos ei hun" wrth lywio'r car o ochr i ochr.

Roedd yna olygfeydd emosiynol yn Llys y Goron Caerdydd pan gafodd West ei ddedfrydu.

Advertisement

Cafodd gosb o 16 mis o garchar am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a'i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd ac wyth mis.

Dywedodd nain Keely, Maria Wilson iddi "rewi" o glywed y ddedfryd.

"Ro'n i'n methu credu y gallai dod â bywyd i ben ac ond cael hynna. Roedd e'n wirioneddol anodd."
Nain a mam Keely, Maria Wilson a Sian Morgan
Disgrifiad o’r llun, Dywed nain Keely, Maria Wilson (chwith) - yma gyda Sian Morgan - bod achos ei hwyres "wedi cyffwrdd pawb"

Dywed nain Keely, Maria Wilson (chwith) - yma gyda Sian Morgan - bod achos ei hwyres "wedi cyffwrdd pawb".

Ymateb y Teulu a'r Ymgyrch Ddedfrydau Hirach

Oherwydd y dicter roedd yn ei deimlo, fe drefnodd Sian ddeiseb yn galw am ddedfrydau hirach i bobl sy'n achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ynghyd ag ailasesiad statudol cyn iddyn nhw gael dechrau gyrru eto.

Mae'r gefnogaeth, medd Maria, wedi bod yn "rhyfeddol".

"Mae wedi cyffwrdd cymaint o bobol," meddai. "Mae penderfyniad y llys wedi ffieiddio pawb."

Ond daeth ergyd arall ym mis Ionawr, pan ddaeth y teulu i wybod bod West wedi cael ei ryddhau o'r carchar wedi chwe mis a hanner yn unig.

"Roedd e jest yn gic yn ein dannedd... roedd yn sarhad enfawr," meddai Sian.
"Roedd fel petai marwolaeth fy merch yn golygu dim...
"Plentyn oedd hi. Roedd hi'n croesi mewn man ble y dylai wedi hi fod yn ddiogel."
Y man ar Heol Trelái lle cafodd Keely Morgan ei lladd
Disgrifiad o’r llun, Y man ar Heol Trelái lle cafodd Keely Morgan ei lladd

Datganiad Llywodraeth a Gweithredu'r Dyfodol

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Roedd hon yn drosedd ofnadwy ac mae ein meddyliau yn dal gyda theulu a ffrindiau Keely Morgan.

"Mae troseddwyr sy'n cael eu rhyddhau ar drwydded yn destun amodau llym ac fe allant orfod dychwelyd i'r carchar yn syth os yn torri'r amodau.

"Er taw barnwyr annibynnol sy'n penderfynu ar ddedfrydau, rydym yn ymroddi i sicrhau bod pwerau dedfrydu gan y llysoedd fel bod cosbau'n gweddu i ddifrifoldeb y drosedd."

Mae Sian Morgan yn cyfarfod yr Is-Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Lilian Greenwood ddydd Llun i drafod ei hymgyrch - rhywbeth, meddai, sy'n "fy nghadw i fynd".

"Rwy' ond eisiau ceisio sicrhau rywfaint o newid," meddai.
"I roi llais i Keely, llais i'r person nesaf, i'r teulu nesaf sydd, yn anffodus, yn y sefyllfa yma.
"Mae angen cyfiawnder arnyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News