Skip to main content
Advertisement

Mam a lofruddodd ei mab 5 oed yn ceisio adolygiad o'i hachos

Mae mam a lofruddodd ei mab 5 oed yn ceisio adolygiad o'i hachos, gan wynebu o leiaf 28 mlynedd yn y carchar. Bydd cwest yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2027, gyda thystiolaeth a dadleuon yn parhau ynghylch y digwyddiadau a'r gwasanaethau cymdeithasol a fu'n ymwneud â Logan Mwangi.

·5 min read
Llun Angharad Williamson o ddalfa'r heddlu

Angharad Williamson yn wynebu o leiaf 28 mlynedd yn y carchar

Bydd Angharad Williamson, mam a lofruddodd ei mab pum mlwydd oed, yn gorfod treulio o leiaf 28 mlynedd yn y carchar am ei rhan yn llofruddiaeth Logan Mwangi.

Mae Williamson yn gobeithio cael adolygiad gan y corff sy'n ymchwilio i achosion posib o gamweinyddu cyfiawnder yn ei hachos.

Dedfryd a chwest yn erbyn Williamson a dau arall

Cafodd Williamson ddedfryd o garchar am oes ym Mehefin 2022 am ei rhan yn llofruddiaeth Logan Mwangi, ynghyd â llys-tad y bachgen, John Cole, a Craig Mulligan, bachgen yn ei arddegau oedd yn 14 oed ar y pryd.

Adolygiad cyn-cwest a chwest yn 2027

Datgelwyd gwybodaeth am apêl bosib Williamson yn ystod adolygiad cyn-cwest yn Llys Crwner Pontypridd, lle nodwyd y bydd cwest yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2027, dros chwe blynedd ar ôl marwolaeth Logan ym mis Gorffennaf 2021.

Disgwylir i'r cwest bara am bedair wythnos, gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau rhwng Awst 2020, pan gafodd Logan ei gludo i'r ysbyty gyda nifer o anafiadau, 11 mis cyn ei farwolaeth.

Presenoldeb Williamson yn y gwrandawiad

Cafodd Williamson ei gweld am gyfnod byr ar sgrin wrth wrando ar y gwrandawiad o garchar Downview yn Surrey, gyda gweithiwr iechyd meddwl wrth ei hochr.

Manylion y llofruddiaeth a'r ymchwiliad

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr, ger ei gartref ym mhentref Sarn. Roedd ganddo 56 o anafiadau allanol, ac fe ddaeth i'r amlwg ei fod hefyd wedi dioddef niwed mewnol difrifol i'w abdomen.

Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun, Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr, ger ei gartref ym mhentref Sarn, - roedd ganddo 56 o anafiadau allanol, ac fe ddaeth i'r amlwg ei fod hefyd wedi cael niwed mewnol difrifol i'w abdomen

Ymgyrch Tony Thompson i adolygu'r euogfarn

Yn y llys, siaradodd Tony Thompson, cyn-uwcharolygydd gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain, a ofynnodd am gael ei ystyried yn gynrychiolydd lleyg Williamson, wedi iddi gysylltu ag ef ddiwedd y llynedd.

Advertisement
"Rwy'n cynnal adolygiad i'w heuogfarn, yn ddi-dâl," meddai Thompson. "Does dim cymorth cyfreithiol 'da hi."
"Y bwriad, yw gweld a oes sail i fynd i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol," ychwanegodd, "ond fe fyddai hynny 'gryn amser i ffwrdd'."
"Awgrymwyd bod 'cysylltiad agos' rhwng y cwest a'i ymchwiliad, ac y dylai gael ei ystyried yn 'berson â diddordeb' yn y cwest, sef rhywun all gymryd rhan weithredol yn y broses."

Ymddygiad Williamson yn y gwrandawiad

Ni siaradodd Williamson yn y gwrandawiad; dywedodd y Crwner David Regan ei fod ar ddeall ei bod "yn dymuno arsylwi" yn unig.

Dedfrydion John Cole a Craig Mulligan

Cafodd John Cole ei garcharu am o leiaf 29 mlynedd, tra bod Craig Mulligan, a gafodd ei fagu gan Cole ers yn fabi er nad oedd yn fab biolegol iddo, wedi cael o leiaf 15 mlynedd dan glo.

Lluniau o John Cole a Craig Mulligan yn y ddalfa
Disgrifiad o’r llun, Cafodd John Cole ei garcharu am o leiaf 29 mlynedd, tra bod Craig Mulligan, a gafodd ei fagu gan Cole ers yn fabi, er nad oedd yn fab biolegol iddo, wedi cael o leiaf 15 mlynedd dan glo

Ymchwiliadau a chwynion am wasanaethau

Ymunodd cynrychiolwyr cyfreithiol Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr â'r gwrandawiad hefyd trwy gysylltiad fideo.

Daeth adolygiad ym mis Tachwedd 2022 i'r casgliad bod meddygon ysbyty heb rannu rhestr o anafiadau "sylweddol" i Logan 11 mis cyn ei farwolaeth gyda gwasanaethau diogelu plant.

Yn 2023, datgelodd adolygiad o wasanaethau cymdeithasol y cyngor sir bryderon dros wasanaethau plant yr awdurdod, wedi i arolygon dilynol awgrymu bod angen gwelliannau pellach.

Ymgyrch Williamson am adolygiad cyfiawnder

Yn dilyn y gwrandawiad ddydd Mercher, dywedodd Tony Thompson wrth BBC Cymru fod Williamson wedi cysylltu ag ef yn sgil cyhoeddusrwydd o sicrhau adolygiad gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn achos Clive Freeman, dyn yn ei 80au sydd dan glo ers 1989 am lofruddio dyn arall ac yn mynnu ei fod yn ddieuog.

"Mae Angharad yn falch bod rhywun yn cymryd diddordeb ynddi," meddai Thompson. "Does dim arian 'da hi ar gyfer cyfreithwyr. Does dim cymorth cyfreithiol 'da hi, a dyna pan ddywedes i 'mi edrycha'i iddo'."

Plediodd Angharad yn ddieuog yn y llys, ac fe ddywedodd barnwr yr achos wrth ddedfrydu na welodd dystiolaeth ei bod wedi ymosod ar Logan ond ei bod yn anorfod ei bod yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen ac yn rhan o'r cynllun i gael gwared ar gorff Logan druan.

"Rwy'n edrych i'r holl amgylchiadau ond mae'n rhy gynnar i benderfynu a oes sail digonol i mi barhau," meddai Thompson.
"Mae hawl gan bobl sy'n teimlo eu bod wedi eu collfarnu ar gam i gael rhywun sy'n fodlon edrych i'w hachos ond rwy'n deall sensitifrwydd yr achos yma, ac roeddwn yn gwybod hynny wrth gytuno i edrych iddo."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News