Skip to main content
Advertisement

Honiadau o fwlio a diffyg gofal am les staff ym Mhrifysgol De Cymru yn codi pryderon

Mae honiadau o fwlio, diffyg gofal am les staff a phwysau gwaith uchel ym Mhrifysgol De Cymru wedi arwain at alwadau am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y caiff gweithwyr eu trin yn y sefydliad.

·6 min read
Prifysgol De Cymru

Honiadau o fwlio a diffyg gofal am les staff ym Mhrifysgol De Cymru

Mae cyn-weithwyr yn honni bod bwlio, diffyg gofal am les staff a phwysau gwaith uchel yn y brifysgol.

Mae galw am ymchwiliad annibynnol i'r ffordd mae gweithwyr yn cael eu trin yn un o brifysgolion mwyaf Cymru.

Daw hyn ar ôl i ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C godi honiadau o fwlio, diffyg gofal am les staff a phwysau gwaith uchel ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae rhai cyn-weithwyr yn honni iddyn nhw gael eu targedu neu eu gorfodi i adael ar ôl codi pryderon.

Dywedodd Prifysgol De Cymru nad ydyn nhw'n cytuno â'r honiadau, ond eu bod yn "llwyr yn erbyn pob ffurf o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu" ac yn cymryd cwynion o ddifrif.

Prifysgol De Cymru yw ail brifysgol fwyaf Cymru, gyda champysau yng Nghaerdydd, Pontypridd a Chasnewydd.

Prifysgol De Cymru - Casnewydd
Disgrifiad o’r llun, Prifysgol De Cymru yw ail brifysgol fwyaf Cymru, gyda champysau yng Nghaerdydd, Pontypridd a Chasnewydd

Prifysgol De Cymru yw ail brifysgol fwyaf Cymru. Cafodd ei ffurfio yn 2013 wrth uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.

Mae dros 20,000 o fyfyrwyr yn astudio yno ac mae'r brifysgol yn cyflogi mwy na 2,800 o staff.

Dros y misoedd diwethaf mae Newyddion S4C wedi siarad â, neu wedi gweld tystiolaeth gan, dros ddwsin o gyn-weithwyr sy'n codi pryderon am "ddiwylliant tocsig" a chyfradd uchel o salwch ymhlith staff.

Mae dau gyn-ddarlithydd sydd nawr wedi'u diswyddo yn dod ag achosion mewn tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn y brifysgol.

Fe gytunon nhw i rannu eu pryderon am y tro cyntaf mewn cyfweliadau.

Mae Zella Parry yn honni iddi gael ei diswyddo'n annheg ar ôl codi pryderon am fwlio a lles staff

Bu Zella Parry yn gweithio yn y brifysgol am dros ddegawd, ac roedd yn uwch-ddarlithydd mewn gwyddoniaeth fforensig o 2018, cyn cael ei diswyddo fis Gorffennaf 2024.

Yn ôl y brifysgol, cafodd ei diswyddo ar ôl i'r berthynas waith dorri rhyngddi hi a'r sefydliad.

Ond mae Ms Parry yn honni iddi gael ei diswyddo'n annheg ar ôl codi pryderon am fwlio a lles staff.

Dywedodd ei bod wedi bod yn gynrychiolydd lles staff ac yn gweld cwynion yn cael eu hanwybyddu gan uwch-reolwyr.

Zella Parry
Disgrifiad o’r llun, Mae Zella Parry yn honni iddi gael ei diswyddo'n annheg ar ôl codi pryderon am fwlio a lles staff

'Awdurdodau'r brifysgol wedi ei thargedu'

"Roedd e'n fater o godi pryderon yn aml bod y llwyth gwaith yn ogystal â'r diwylliant yn creu problemau i staff a myfyrwyr, ond doedd neb yn mynd i'r afael â hynny.
"Roedden ni'n dod o gyfarfodydd ac yn dechrau teimlo ein bod ni'n gwneud drwg i'n ein hunain, ac ar ôl ychydig, wedi i'n pryderon fynd yn fwy difrifol, fe gawson nhw wared ar y grŵp lles."

Mae Ms Parry yn honni bod awdurdodau'r brifysgol wedi ei thargedu a'i herlid yn y gweithle.

"Dwi wedi cyhuddo a dwi'n dal i gyhuddo'r brifysgol o dorri'r berthynas waith rhyngom ni.
"Nhw sydd ar fai am dorri'r berthynas honno yn fy achos i ac yn achos fy nghydweithwyr, ond rwy'n gwbl grediniol eu bod yn gwneud hynny'n fwriadol er mwyn gorfodi pobl i adael."

Mae Dr Rehana Karim yn honni iddi gael ei thargedu ar ôl gwneud cwynion a chwythu'r chwiban ar bryderon

Mae Dr Rehana Karim hefyd yn dod ag achos mewn tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn Prifysgol De Cymru ar ôl cael ei diswyddo ym mis Ebrill eleni.

Ad (425x293)

Mae hi'n honni iddi gael ei thargedu a'i thrin yn annheg ar ôl gwneud cwynion a chwythu'r chwiban ar bryderon, a chytuno i fod yn dyst yn achos Zella Parry.

"Cefais fy aflonyddu yn y bôn - fel yna byddwn i'n dehongli'r peth... cefais fy nghosbi, fy rhoi dan anfantais," meddai.

Ni chafodd unrhyw un o'r cwynion na'r pryderon a gododd Dr Karim eu cefnogi gan y brifysgol, ond mae'n mynnu nad hi sydd ar fai.

"Beth rydw i wedi'i weld yw, pryd bynnag mae rhywun yn codi pryder, cwyn neu unrhyw ofid - materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch neu brofiad myfyrwyr - maen nhw'n mynd.
"Mae'r rhain yn ofidion go iawn - maen nhw'n rhwystro staff rhag codi pryderon er mwyn cuddio pethau fel bod popeth yn edrych yn iawn ond dyw e ddim yn wir."
Dr Rehana Karim
Disgrifiad o’r llun, Mae Dr Rehana Karim yn honni iddi gael ei thargedu ar ôl gwneud cwynion a chwythu'r chwiban ar bryderon

'Ymchwilio'n drylwyr' i unrhyw honiadau

Dywedodd y brifysgol eu bod yn "flin bod unigolion yn teimlo iddyn nhw gael eu trin yn annheg", ond "na allwn wneud sylw am honiadau penodol oherwydd gweithredu cyfreithiol sy'n parhau".

Dywedon nhw eu bod wedi cyflwyno system adrodd a chefnogi yn 2023 sy'n galluogi myfyrwyr a gweithwyr i godi unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw ynghylch bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Maen nhw'n dweud eu bod yn trin unrhyw honiadau o ymddygiad o'r fath o ddifrif, gan ymchwilio'n drylwyr, gan gynnwys yn allanol pan fo'n briodol.

Yn ôl y brifysgol, mae eu data salwch yn dangos cyfraddau "isel a sefydlog" o tua 3% yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Dywedodd hefyd bod y tîm arwain wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf "gan adlewyrchu cyfeiriad newydd ac ymroddiad o'r newydd" at eu gwerthoedd.

Mae'r Athro Dylan Jones-Evans yn galw ar Lywodraeth Cymru neu Medr i ymchwilio i'r sefyllfa

Rhwng 2017 a 2022 roedd yr Athro Dylan Jones-Evans yn ddirprwy is-ganghellor ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae'n dweud bod sawl un wedi cysylltu ag ef i fynegi eu pryderon ers iddo adael y sefydliad.

Dywedodd:

"Mae'n amlwg fod bwlch mawr rhwng y rheolwyr sy'n gosod cyfeiriad strategol y brifysgol a'r staff sy'n gwneud y sefydliad y lle arbennig y dylai fod."

Ychwanegodd fod "dyletswydd ar Lywodraeth Cymru neu Medr - y corff sy'n edrych ar ôl prifysgolion - i edrych yn fanwl ar y cwynion ac i gynnal rhyw fath o astudiaeth neu arolwg annibynnol" i weld a ydyn nhw yn rhan o broblem ehangach.

"Dydyn ni ddim yn disgwyl i'r sector addysg uwch ymddwyn yn y ffordd yma," meddai.

Dywedodd Medr: "Mae prifysgolion yn elusennau annibynnol ac, felly, mae materion sy'n ymwneud ag anghydfodau staff yn gyffredinol yn faterion i'r sefydliadau eu hunain eu hymchwilio'n fewnol yn y lle cyntaf."

Ychwanegodd llefarydd y byddai Medr yn "ystyried pob cwyn yn ofalus ac yn asesu'r angen am ymyrraeth reoleiddiol lle nodir problemau systemig".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cyfyngiadau ar wneud sylwadau newydd oherwydd yr etholiad.

Dylan Jones-Evans
Disgrifiad o’r llun, Mae'r Athro Dylan Jones-Evans yn galw ar Lywodraeth Cymru neu Medr i ymchwilio i'r sefyllfa

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Torri 200 o swyddi ym Mhrifysgol De Cymru
  • 'Diwylliant gwenwynig' yn sgil cynllun i dorri swyddi Prifysgol Caerdydd
  • Pryder am enw da addysg uwch yn sgil toriadau prifysgolion

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News