Skip to main content
Advertisement

Gyrwyr Cerbydau Trwm yn Cael eu Cyfeirio at yr Heddlu ar Bont y Borth

Mae gyrwyr cerbydau trwm sy'n torri cyfyngiadau Pont y Borth yn cael eu cyfeirio at yr heddlu. Bu cau'r bont sawl gwaith yn ddiweddar, gan achosi traffig trwm a mesurau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch a chydymffurfiaeth.

·4 min read
Pont y Borth gyda chonau traffig yn ei chau, heb olwg o unrhyw gerbyd

Gyrwyr sy'n torri rheolau Pont y Borth i gael eu cyfeirio at yr heddlu

Bu'n rhaid cau Pont y Borth am gyfnod ddwy waith ddydd Mercher wedi i gerbydau trwm groesi'r bont, gan arwain at fesurau diogelwch brys.

Yn ôl aelod o gabinet Llywodraeth Cymru, gallai gyrwyr sy'n torri'r cyfyngiadau ar gerbydau trwm ar y bont gael eu cyfeirio at yr heddlu.

Mae'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, wedi mynegi siom ddwys bod cerbydau dros 7.5 tunnell wedi croesi'r bont, gan orfodi cau'r bont er mwyn cynnal archwiliadau brys.

Digwyddodd y cau unwaith ddydd Mawrth a dwywaith ddydd Mercher, gan achosi traffig trwm ar ddwy ochr y Fenai. Roedd achos tebyg wedi digwydd wythnos flaenorol hefyd.

Yn ystod prynhawn Mercher, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cyflwyno "mesurau ychwanegol" i sicrhau bod y bont ar agor ar gyfer deuddydd olaf Eisteddfod yr Urdd, sy'n cael ei chynnal ar safle Sioe Môn.

Mae goleuadau traffig wedi bod ar waith ers nos Fercher, gyda swyddogion heddlu a swyddogion traffig Llywodraeth Cymru ar ddyletswydd i gefnogi cydymffurfiaeth o'r cyfyngiad pwysau.

Arwydd Pont Wan un pen o'r bont
Disgrifiad o’r llun, Mae cyfyngiadau mewn grym er mwyn hwyluso gwaith atgyweirio i'r bont, sy'n mynd rhagddo ers diwedd 2022

Cyfarwyddiadau 'clir iawn'

Mae cyfyngiadau mewn grym er mwyn hwyluso atgyweiriadau ers i bryderon godi yn 2022 ynghylch diogelwch y bont.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Heledd Fychan fod trafferthion traffig wedi bod yn "fater o rwystredigaeth mawr i bobl yr wythnos yma".

"Mi oeddan ni wedi bod yn gweithio i sicrhau bod 'na ddim gwaith yn mynd i fod ar y bont oherwydd pwysigrwydd yr Eisteddfod."
"'Ma' swyddogion traffig Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn helpu rŵan er mwyn trio sicrhau bod ni ddim yn gweld pobl [sydd] ddim yn dilyn y cyfarwyddiada'."

Mae'r cyfyngiadau yn parhau i hwyluso gwaith atgyweirio i'r bont, sy'n mynd rhagddo ers diwedd 2022.

Ad (425x293)

Mae'r cyfarwyddiadau, meddai, "wedi bod yn glir iawn... dim ond cerbyda' o dan 7.5 tunnell sy'n gallu defnyddio'r bont ar hyn o bryd a mae'n siomedig dros ben bod 'na rai wedi torri'r rheola' hynny".

"Os na ydi pobl yn cydymffurfio, mi fyddan nhw'n gallu cael eu cyfeirio at yr heddlu..."
"'Dan ni'n gofyn i bobl barchu'r gweithwyr ar y bont a dilyn eu cyfarwyddiada'."

Adborth gan drigolion lleol

Un sy'n croesawu'r mesurau ychwanegol yw Dafydd Hughes, sy'n byw ger Pont y Borth.

Dywedodd wrth Dros Frecwast fod "bws gyda 50 o bobl arno" wedi croesi'r bont yn un o'r achosion a arweiniodd at orfod cau'r bont ddydd Mercher.

"Ateb un o'r bobl o'r cwmni oedd: 'Well, how else do we get onto Anglesey?'"
"Dyma 'di'r broblem... does 'na ddim byd i stopio'r fath gerbyda' [rhag] dod dros y bont, yn enwedig o'r tir mawr."

Mae'r angen i gau'r bont, boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ers 2022 wedi bod yn gur pen i yrwyr, trigolion a busnesau lleol.

Arwydd Ffordd ar Gau ar Bont y Borth ddydd Mercher
Disgrifiad o’r llun, Mae'r angen i gau'r bont, boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ers 2022 wedi bod yn gur pen i yrwyr, trigolion a busnesau lleol

Mae'r sefyllfa wedi arwain at alwadau newydd am godi trydydd croesfan dros y Fenai.

Mewn cyfweliad â rhaglen Walescast y BBC, doedd dim ymwymiad gan y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, i wneud hynny, ond dywedodd bod "rhaid gwneud rhywbeth i wella gwydnwch croesfan Britannia," gan gyfeirio at y bont sy'n cludo'r A55.

"Un ateb yw cael strwythur arall wrth ei hymyl," dywedodd. "Un arall a wnes i ei wthio ers blynyddoedd yw cael rhyw fath o fodel tair lôn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News