Skip to main content
Ad (425x293)

Gyrrwr beic trydan yn osgoi carchar ar ôl taro dyn yn anymwybodol yng Nghasnewydd

Jordan Willetts, 35, wedi cael dedfryd o 12 mis o garchar wedi ei ohirio ar ôl taro Sam Bevan yn anymwybodol gyda beic trydan yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd 2025.

·2 min read
Sam Bevan gydag anafiadau i'w wyneb yn dilyn gwrthdrawiad gyda beic trydan

Gyrrwr beic trydan yn osgoi carchar ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol

Cafodd Sam Bevan ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau i'w wyneb yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae dyn a blediodd yn euog i yrru'n beryglus ar ôl taro cerddwr gyda beic trydan yng Nghasnewydd wedi cael dedfryd o 12 mis o garchar wedi ei ohirio.

Roedd Jordan Willetts, 35, wedi cyfaddef gyrru'n beryglus, gyrru heb drwydded a pheidio ag aros yn dilyn y gwrthdrawiad fis Tachwedd y llynedd.

Cafodd Sam Bevan ei daro'n anymwybodol ar Rodfa Fairoak cyn i'r gyrrwr adael y safle.

Cafodd Willetts ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher.

Cafodd deunydd CCTV ei ganfod o Sam Bevan [dillad gwyn] yn cael ei daro gan y beic trydan.

Ad (425x293)

Roedd y llys wedi clywed yn flaenorol fod Willetts yn gyrru i'r cyfeiriad anghywir ar hyd stryd unffordd pan darodd Mr Bevan.

Cafodd Mr Bevan ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau i'w wyneb wedi'r gwrthdrawiad wrth iddo groesi Rodfa Fairoak ar 11 Tachwedd 2025.

Aeth Mr Willetts at yr heddlu o'i wirfodd ddeuddydd ar ôl y digwyddiad.

Dilynwch y newyddion

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Gyrrwr beic trydan yn pledio'n euog ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol

This article was sourced from bbc

Ad (425x293)

Related News