Atgofion Fiona Rees-Davies o'i Daeargi Tarw Sir Stafford, Duchess
Mae gan Fiona Rees-Davies atgofion melys o'i daeargi tarw Sir Stafford, Duchess, ond roedd perchnogion cŵn eraill yn amheus ohoni oherwydd ei maint.
Effaith Gwaharddiad Cŵn XL Bully ar Fridiau Tebyg
Mae gwahardd cŵn XL Bully wedi arwain at fwy o stigma a chreulondeb at fridiau tebyg, yn ôl elusennau lles anifeiliaid.
Dywed yr RSPCA bod adroddiadau o greulondeb bwriadol at gŵn wedi codi 19% yn 2024-2025, a 55% dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae'r ffigyrau'n awgrymu bod bron i chwarter (23%) o'r achosion hynny'n ymwneud â daeargwn tarw a chŵn tarw.
Mae rhai arbenigwyr yn credu bod y gwaharddiad ar gŵn XL Bully yn ysgogi camdrin yn erbyn bridiau cysylltiedig.
Daeth y gwaharddiad i rym ddiwedd 2023 yn sgil pryder ynghylch nifer yr achosion o ymosodiadau angheuol gan y brîd ers 2021.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi'r Ddeddf Cŵn Peryglus, bod creulondeb at anifeiliaid yn annerbyniol a bod angen i berchnogion hyfforddi eu cŵn a'u rheoli i ddiogelu'r cyhoedd.
Perchnogion Cŵn yn Beirniadu Proses Wirio Bridiau'r Heddlu
XL Bully: Perchnogion yn Prydderu am Ffawd eu Cŵn
Roedd Duchess, daeargi tarw Sir Stafford, mewn cyflwr gwael wedi i'w pherchennog gefnu arni - roedd yn chweinllyd, wedi colli cryn dipyn o'i blew ac yn denau.
Fe oroesodd wedi i gymydog ei bwydo drwy flwch post ei chartref, ac fe gafodd ei hachub maes o law a'i rhoi yng ngofal Fiona Rees-Davies o Lanelli.
Gan gyfeirio at gartref blaenorol Duchess, dywedodd Fiona:
"Doedd dim cariad, dim cysylltiad, dim ond ei bwrw o'r neilltu."
Yn ei chartref newydd, roedd yn "serchus" ac yn "llawn hwyl - roedd hi'n caru pawb".
Ond mae Fiona yn credu bod yna stigma ynghylch cŵn "cyhyrog" fel daeargwn tarw Sir Stafford.
"Yn aml pan roedden ni'n cerdded, roedd yn siglo'i chynffon, yn hapus i weld cŵn eraill, ond roedd pobl yn tueddu i groesi'r ffordd," meddai.
"Roedd pobl, fel petawn nhw'n meddwl 'o, mae hi'n gi cas', ac wrth gwrs doedd hi ddim - dydy'r brîd yna ddim."
Roedd Duchess mewn cyflwr truenus cyn cael ei hachub a'i hailgartrefu

Yn fuan ar ôl symud at Fiona, daeth yn amlwg bod Duchess â thiwmor, a chwe mis yn ddiweddarach bu'n rhaid difa'r ci wyth mlwydd oed.
"Rwy'n meddwl amdani bob diwrnod," meddai Fiona. "Rwy'n ei cholli gymaint. Roedd hi'n haeddu bywyd hapus."
Mae Fiona'n cyfaddef bod edrychiad Duchess yn poeni perchnogion cŵn eraill ar brydiau, ond mae'n poeni bod ffordd y mae'r cyfryngau'n portreadu'r brîd yn creu darlun anghywir.
"Mae gyda ni'r Ddeddf Cŵn Peryglus - dylid fod yn ddeddf bodau dynol peryglus," awgrymodd.
"Jest achos mae ci yn fawr a chyhyrog, dyw e ddim yn golygu ei fod yn gas."
Roedd Duchess yn "llawn hwyl - roedd hi'n caru pawb", medd Fiona

Safbwyntiau Arbenigwyr ar y Brîd
Mae David Brice, sy'n rhedeg cwmni hyfforddi daeargwn tarw Sir Stafford, yn cytuno bod "camsyniad enfawr gyda'r brîd yma".
Er eu bod yn gallu bod "yn wydn, cyhyrog a mawr", maen nhw hefyd "y brîd mwyaf serchus, o bosib" ac yn awyddus i blesio pobl.
Oherwydd eu natur gynhyrfus mae angen hyfforddiant addas i'w rheoli, meddai, ond does dim angen grym gorfodol na dulliau niweidiol i wneud hynny.
"Oherwydd maint y ci, maen nhw'n aml yn cael eu trin yn fwy llym a'u disgyblu'n arw... i gael y natur ymosodol mas," meddai.
"Dyna pryd bydd grym corfforol yn cael ei ddefnyddio."
Mae'n ofni bod brathiad cryf y brîd yn denu'r "math anghywir o berchennog".
"Mi wn o 'mhrofiad gyda chwsmeriaid blaenorol bod llawer o gŵn wedi cael eu defnyddio ar gyfer ymladd oherwydd eu gwerth ariannol posib."
David Brice gyda'i ddau ddaeargi tarw Sir Stafford, Helga a Boris

Cynnydd mewn Cŵn Daeargwn Tarw a Bridiau Cysylltiedig yn y Canolfan Gwaredu
Dywed Vanessa Waddon o elusen achub cŵn Hope Rescue yn ne Cymru bod 30% yn fwy o fridiau fel daeargwn tarw Sir Stafford yn cyrraedd eu canolfan yng Nghaerdydd.
Mae cynnydd hefyd o 4,500% yn achos cŵn mwy sy'n gysylltiedig â'r XL Bully, fel y bridiau Cane Corso a Presa Canario.
"Pan mae'r llywodraeth yn dweud wrthych chi bod cŵn peryglus yn fath arbennig o frîd, mae'n achosi pryder i'r cyhoedd," meddai.
"Yr hyn y dylen ni wneud yw addysgu pobl ynghylch perchnogi pob math o gi, pob brîd, yn gyfrifol."
Mwy o Greulondeb Bwriadol
Ers 2021, mae'r RSPCA wedi cofnodi 4,746 o achosion o niwed bwriadol at anifeiliaid yng Nghymru, gyda 3,560 o'r rheiny'n ymwneud â chŵn.
"Rydym yn bendant yn gweld cynnydd o ran creulondeb bwriadol yn gyffredinol, ond mae wnelo'r cynnydd mwyaf ar hyn o bryd â chŵn," meddai swyddog achub gyda'r elusen, Ethan Griffin.
Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos bron i 13,000 o ymweliadau ysbyty wedi brathiad gan gi yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn 2023-24.
Yn 2021, fe gafodd bachgen 10 oed o Sir Caerffili, Jack Lis ei ladd wedi i gi XL Bully o'r enw Beast achosi anafiadau difrifol i'w ben a'i wddf.
Roedd y brîd yn gyfreithiol ar y pryd ac roedd ei fam ymhlith y rhai a alwodd am newid i'r ddeddf cŵn peryglus.
Cadarnhau Achosion a Safbwynt Llywodraeth Cymru
Cadarnhawyd mai ci XL Bully wnaeth ladd babi naw mis oed.
Carcharu dyn am ymosodiad ci XL Bully ar fachgen yng Nghaernarfon.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi Deddf Cŵn Peryglus 1991 a'i phwysigrwydd o ran diogelu'r cyhoedd.
"Gall unrhyw gi, beth bynnag ei frid, math neu faint, fod yn ymosodol ac achosi niwed," ychwanegodd llefarydd.
"Rydym yn annog pob perchennog i sicrhau bod eu cŵn wedi eu hyfforddi'n briodol, eu rheoli ac yn ddiogel o amgylch pobl eraill.
"Mae creulondeb at anifeiliaid yn annerbyniol a dylid ei hysbysu i'r awdurdod gorfodi perthnasol neu'r heddlu."
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod "yn cydweithio gyda'r heddlu, awdurdodau lleol a grwpiau lles anifeiliaid i annog perchnogaeth gyfrifol yn achos pob brid a sicrhau bod y rheolau presennol ar gŵn yn ddigonol i warchod cymunedau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




