Datblygwyr yn amlinellu cynlluniau ar gyfer parc gwyliau Penrhos gyda chreu swyddi
Mae datblygwyr wedi cyflwyno rhagor o fanylion am gynllun i droi Parc Penrhos ar Ynys Môn yn bentref gwyliau, gan ddweud y byddai’n gyfle i danio economi Môn a chreu 280 o swyddi parhaol. Fodd bynnag, mae ymgyrchwyr yn galw unwaith eto am atal y cynllun, gan ddweud y byddai’n cael effaith “ddinistriol” ar yr ardal.
Mae dogfennau newydd yn dangos cynlluniau i godi safle gyda 500 o gabanau pren a pharc hamdden. Mae’r cwmni CG Recovery, sy’n gyfrifol am y cynllun, yn mynnu y byddai buddsoddiad gwerth £250m yn cael ei wneud a bod mynediad cyhoeddus i’r parc yn cael ei gadw.
Blynyddoedd o ddadlau ynghylch dyfodol Parc Penrhos
Mae dyfodol Parc Penrhos ger Caergybi wedi bod yn destun dadlau ers blynyddoedd. Yn 2016, cymeradwyodd Cyngor Môn ganiatâd cynllunio cychwynnol ar gyfer creu parc gwyliau. Ers hynny, mae dadlau wedi parhau dros ddilysrwydd y caniatâd hwnnw, ond yn 2024 dyfarnodd yr Uchel Lys yn erbyn ceisiadau i gynnal adolygiad barnwrol.
Yn 2025, aeth y cwmni The 79th Group a oedd yn gyfrifol am y cynllun i’r wal, ac erbyn hyn mae CG Recovery wedi cyflwyno “cais materion a gedwir yn ôl” gyda mwy o fanylion ar y cynllun gwreiddiol ac ambell newid.
Mae ymgyrchwyr yn parhau i ddweud y byddai codi pentref gwyliau yn “ddinistriol” i’r ardal.
Safbwyntiau ymgyrchwyr a phobl leol
“Mae'n anodd rhoi mewn i eiriau sut fath o werth sydd yma, mae'n priceless,”meddai Mary Roberts, un o’r ymgyrchwyr sydd wedi ymweld â’r safle ers blynyddoedd.
“Da ni mewn coedwig ac mae o'n cefnogi gymaint o fyd natur. Maen nhw wedi gweithio mor galed i gael y wiwer goch yma.”
Mae hi’n pwysleisio bod y parc yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd lleol fwynhau’r awyr agored a chymdeithasu, yn enwedig mewn oes lle mae lleihau oriau sgrîn yn bwysig. Mae hefyd yn amau y byddai’r nifer o swyddi a honnir yn cael eu creu yn cael eu goramcangyfrif.
“Mae'r cwmni yn honni y byddai'n creu 280 o swyddi, ond os 'da chi'n edrych ar feysydd carafán yn yr ardal, dwi'n meddwl fod hwnna yn overestimate. Dwi'm yn gweld sut allai o greu gymaint.”

Y cysylltiad hanesyddol a diwylliannol gyda’r safle
Mae Vanessa Owen, sy’n byw gerllaw, yn rhannu teimladau tebyg am y safle.
“Mae Penrhos yn rhan o'n hanes ni, yn rhan o'n etifeddiaeth ni ac ein bywyd ni. Mae bob dim yma - lan môr, coedwig, bywyd gwyllt a 'da ni 'di bod yn cerdded yma drwy bywyd fi - dros 50 mlynedd, mae'n lle i ymlacio ac y gwir ydi 'da ni eisiau i'n plant ni ac i blant nhw gael yr un profiad i fod yma.”
Mae hi’n nodi bod y gymuned eisiau gweld y safle yn cael ei berchen gan bobl leol, er nad yw hynny’n bosib ar hyn o bryd.
Mae’r ymgyrchwyr wedi dweud y byddan nhw’n parhau i frwydro yn erbyn y cynlluniau.

Manylion y cynllun diweddaraf a safbwynt Cyngor Môn
Yn ôl y cynlluniau diweddaraf, byddai 500 o gabanau pren yn cael eu codi, ynghyd â pharc hamdden, canolfan chwaraeon, siopau a bwytai. Mae’r datblygwyr yn mynnu y byddai’r cyhoedd yn dal i gael mynediad i nifer o rannau o’r parc.
Yn ôl Cyngor Môn, nid yw’r cais diweddaraf yn gais cynllunio llawn, ond yn hytrach yn “gais materion a gedwir yn ôl” o dan ganiatâd cynllunio amlinellol a roddwyd yn flaenorol. Mae’n cynnig mwy o fanylder ac ambell newid i’r cynllun gwreiddiol, a bydd angen sêl bendith yr awdurdod lleol yn y pendraw.
“Er ein bod yn ymwybodol o'r diddordeb cyhoeddus sylweddol yn y cais hwn ac ar ddeall bod y safle yn cael ei farchnata ar gyfer ei werthu, mae'r rhain yn faterion sydd ar wahân i'r broses gynllunio statudol,”meddai llefarydd o’r cyngor.
“Fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, mae dyletswydd ar y Cyngor i asesu a phenderfynu ar y cais yn unol â deddfwriaeth a pholisïau cynllunio cyn y gwneir unrhyw benderfyniad. Fel rhan o'r broses honno, mae cyfle i'r cyhoedd gyflwyno eu safbwyntiau drwy'r ymgynghoriad cynllunio statudol sydd ar y gweill ar hyn o bryd a bydd yr holl sylwadau'n cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith o asesu'r cais.”

Datblygwyr yn pwysleisio buddsoddiad a chreu swyddi
Mae CG Recovery yn disgrifio’r cais diweddaraf fel “cam pwysig” i’r datblygiad. Maent yn nodi bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod yn rhan allweddol o’r cynllun, gyda sicrwydd o fynediad hirdymor i safle Cae Glas a’r llwybr arfordirol.
“Mae'r cynllun yn cynnig cyfle gwerth £250m i danio economi Môn a chreu 280 o swyddi,”meddai llefarydd y cwmni, gan ychwanegu y byddai cyflogaeth ar gael drwy’r flwyddyn.
Er hyn, mae nifer fawr o ymgyrchwyr yn galw am roi’r gorau i’r cais ac yn bwriadu parhau i frwydro hyd y diwedd.
Straeon Perthnasol
- Gwerthu safle pentref gwyliau dadleuol ar Ynys Môn
- Caniatâd pentref gwyliau Parc Penrhos 'yn ddilys'
- Caniatâd parc gwyliau 'ddim yn ddilys' medd ymgyrchwyr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




