Skip to main content
Advertisement

Fy ffôn wedi achub fy mywyd ar ôl car blymio i lawr Bwlch yr Oernant

Dywedodd Natalia Sidorska fod rhybudd awtomatig gan ei ffôn wedi helpu achub ei bywyd ar ôl i'w char blymio i lawr Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych ym mis Mehefin 2025. Wedi dioddef anafiadau difrifol, mae hi'n ddiolchgar am y system crash detection a chefnogaeth ei theulu.

·5 min read
Natalia Sidorska yn yr ysbyty, yn codi bawd

Dywedodd Natalia Sidorska fod rhybudd ar ei ffôn wedi helpu achub ei bywyd

Mae dynes wnaeth oroesi gwrthdrawiad difrifol ar Fwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych wedi dweud bod ei ffôn symudol wedi helpu i achub ei bywyd.

Fe wnaeth Natalia Sidorska, 32, golli rheolaeth ar ei char wrth yrru ar hyd y ffordd fynyddig ym mis Mehefin 2025.

Aeth y cerbyd oddi ar y ffordd cyn rholio cannoedd o droedfeddi i lawr ochr y mynydd, a mynd ar dân ychydig eiliadau ar ôl iddi ddianc.

Yn ôl timau achub mynydd, mae'n bosib bod y car wedi disgyn mwy na 100 metr (330 troedfedd) i lawr y llethr.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Natalia ddarganfod bod ei ffôn clyfar wedi anfon rhybudd gwrthdrawiad yn awtomatig at y gwasanaethau brys a'i hanwyliaid, gan rannu ei lleoliad.

Bwlch yr Oernant
Disgrifiad o’r llun, Collodd Natalia reolaeth ar ei char wrth yrru ar hyd Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych

Collodd Natalia reolaeth ar ei char wrth yrru ar hyd Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych

Dywedodd Natalia ei bod hi'n gyrru ar hyd Bwlch yr Oernant am y tro cyntaf ar noson y gwrthdrawiad.

"Do'n i ddim yn sylweddoli bod tro tynn iawn o fy 'mlaen, ac erbyn i fi sylwi... roedd hi'n rhy hwyr i fi wneud unrhyw beth," meddai.

Cyfaddefodd Natalia ei bod hi o bosib wedi bod yn gyrru'n rhy gyflym ar y ffordd anghyfarwydd, sydd â therfyn cyflymder o 40mya.

Dywedodd ei bod hi'n cofio "gweld popeth" wrth i'r car ddisgyn, cyn iddo daro'r ddaear a pharhau i rowlio lawr y mynydd.

Pan ddaeth y car i stop, dywedodd Natalia ei bod hi wedi sylweddoli ei bod yn sownd y tu mewn.

"Nes i agor fy llygaid a sylweddoli 'mod i dal yn fyw, ac o dan y sedd gefn am ryw reswm.
"Nes i geisio prosesu beth oedd wedi digwydd. Yna, nes i ddechrau clywed sŵn tân yn clicio," meddai.
"Fe sylweddolais fod y car ar dân."
Bwlch yr Oernant
Disgrifiad o’r llun, Fe blymiodd y car gannoedd o droedfeddi i lawr ochr y mynydd cyn glanio mewn cae islaw

Fe blymiodd y car gannoedd o droedfeddi i lawr ochr y mynydd cyn glanio mewn cae islaw

A hithau methu symud yn iawn oherwydd anafiadau i'w choes, ceisiodd Natalia wthio'r drysau ar agor, yn aflwyddiannus.

Gan gredu ei bod hi'n mynd i farw, dywedodd ei bod hi wedi "penderfynu mynd i gysgu fel y gall y mwg fy ngwenwyno cyn y gallwn i deimlo'r boen o'r fflamau".

Ond eiliadau'n ddiweddarach cofiodd ei bod wedi cloi drysau'r car cyn cychwyn ar ei thaith.

Ad (425x293)

Llwyddodd wedyn i ddatgloi'r drysau, cropian allan o'r car a symud i ffwrdd o'r cerbyd.

"Dwi'n gwybod ei fod yn swnio fel ffilm, ac os na fyswn i yno, fyswn i ddim yn coelio'r peth, ond pan nes i edrych yn ôl ar y car, fe ffrwydrodd bron yn syth," meddai.

Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys tua 20 munud yn ddiweddarach, gan gynnwys diffoddwyr tân a thimau achub mynydd.

Dywedodd Natalia ei bod yn ddiolchgar bod ei ffôn iPhone 16 wedi anfon rhybudd yn awtomatig gan ei bod mewn lle anghysbell ar ochr y mynydd yn hwyr yn y nos.

"Dwi'n ddiolchgar i Apple am yr hyn wnaeth yr iPhone - dydw i ddim yn meddwl y byswn i wedi gallu cael cymorth mor gyflym â hynny fel arall."

Beth yw 'crash detection'?

Yn ôl Apple, mae'r system wedi'i chynllunio i ganfod gwrthdrawiadau car difrifol.

Mae'r ffôn yn defnyddio nifer o synwyryddion i ganfod gwrthdrawiadau, gan gynnwys sain, newidiadau mewn gwasgedd aer pan mae bagiau aer yn agor, synwyryddion symud a GPS.

Ar ôl i wrthdrawiad gael ei ganfod, mae defnyddwyr yn cael dewis i alw'r gwasanaethau brys neu ddiystyru'r rhybudd.

Ond os nad yw'r defnyddiwr yn ymateb o fewn 20 eiliad, bydd y ffôn yn cysylltu'n awtomatig â'r gwasanaethau brys gan rannu lleoliad y digwyddiad.

Bydd hefyd yn anfon neges at anwyliaid y defnyddiwr os ydyn nhw wedi'u gosod fel 'emergency contact' ar y ffôn.

Treuliodd Natalia bedwar mis yn yr ysbyty wedi'r gwrthdrawiad

Treuliodd Natalia bedwar mis yn yr ysbyty wedi'r gwrthdrawiad, ac fe gafodd dair llawdriniaeth ar ôl dioddef anafiadau difrifol - gan gynnwys anafiadau i'w ffêr a'i hasgwrn cefn fydd yn cael effaith arni am weddill ei hoes.

Natalia Sidorska
Disgrifiad o’r llun, Treuliodd Natalia bedwar mis yn yr ysbyty wedi'r gwrthdrawiad

Yn ddiweddarach symudodd i Lerpwl gyda'i mab 10 oed a dywedodd ei bod yn parhau i fod yn obeithiol, gan ganmol cefnogaeth ei theulu am fod yn "graig" iddi ers y gwrthdrawiad.

"Oni bai am fy nheulu, dydw i ddim yn gwybod beth fyddai'n digwydd i ni," meddai.
"Mae fy mab yn fy ngharu gymaint, mae wedi bod yn gofalu amdana i gymaint".
Natalia Sidorska
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Natalia fod cefnogaeth ei mab a'i theulu wedi bod yn "graig" iddi ers y gwrthdrawiad

Dywedodd Natalia fod cefnogaeth ei mab a'i theulu wedi bod yn "graig" iddi ers y gwrthdrawiad

Er gwaetha'r profiad, mae Natalia wedi dechrau gyrru eto gan ddefnyddio car sydd wedi'i addasu.

"Dim y car oedd wedi methu, ond fi," meddai.
"Os ydych chi'n gyrru, waeth pa mor dda ydych chi, byddwch yn ofalus bob amser."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News