Cyhuddo cyngor o 'wahaniaethu crefyddol' wrth ddiddymu statws ysgol
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bygwth cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Sir Penfro yn sgil cynlluniau i ddiddymu statws eglwysig Ysgol Gynradd Cilgerran.
Dywedodd yr Eglwys fod y cyngor yn gweithredu mewn ffordd a allai gyfateb i "wahaniaethu crefyddol" yn erbyn ysgolion ffydd yn y sir.
Daw'r rhybudd wedi i'r cyngor bleidleisio ym mis Mai o blaid bwrw ymlaen â chynigion i ddileu statws Gwirfoddol Reoledig yr ysgol Gymraeg a'i sefydlu fel ysgol gymunedol.
Dywedodd Cyngor Sir Penfro wrth BBC Cymru Fyw nad yw'n dymuno gwneud sylw ar hyn o bryd.
'Gwahaniaethu yn erbyn addysg ffydd'
Ar 14 Mai, pleidleisiodd y cyngor o blaid dileu statws Gwirfoddol Reoledig yr ysgol er gwaethaf y ffaith bod 97% o'r ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus wedi gwrthwynebu'r newid.
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi anfon llythyr ffurfiol at swyddogion y cyngor ar ran Esgobaeth Tyddewi yn rhybuddio y byddan nhw'n herio'r cynlluniau os byddant yn mynd yn eu blaenau.
Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n cymryd camau cyfreithiol ar sail "camliwio cyhoeddus a honiadau cyfreithiol anghyflawn" wrth gyflwyno'r achos dros ddileu statws eglwysig yr ysgol.
Maen nhw hefyd yn dadlau bod y cynlluniau'n gyfystyr â "gwahaniaethu yn erbyn addysg ffydd".
Mae'r Eglwys yn honni nad oes gan y cyngor hawl awtomatig i ddefnyddio'r safle ar gyfer ysgol gymunedol pe bai statws eglwysig yr ysgol yn cael ei ddiddymu.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru fod penderfyniadau'r cyngor ynghylch Ysgol Cilgerran ac Ysgol Wirfoddol Reoledig Maenorbŷr yn rhan o batrwm ehangach.
"Ynghyd â'r ymosodiad difrifol a diangen ar statws eglwysig Ysgol Cilgerran, dyma batrwm o ymddygiad sy'n fwriadol dargedu'r addysg Gristnogol gynhwysol y mae ysgolion yr Eglwys yng Nghymru wedi'i darparu i'w cymunedau ers cenedlaethau," meddai.
Cynghorwyr yn pleidleisio i gau dwy ysgol gynradd yn Sir Benfro
Ysgol Maenorbŷr: Trefnu addysg dros dro yn dilyn tân
Wrth gyfeirio at benderfyniad Cyngor Sir Penfro i gau Ysgol Maenorbŷr, a gafodd ei difrodi gan dân yn 2022, dywed yr Eglwys fod yr ysgol wedi aros yn wag er gwaethaf sicrwydd y byddai'n cael ei hailadeiladu.
Mae'r llythyr cyfreithiol yn rhoi saith diwrnod i'r cyngor atal y broses, gan rybuddio y gallai'r Eglwys gychwyn achos yn yr Uchel Lys os na fydd hynny'n digwydd.
Mae'r Eglwys yn dweud ei bod yn ystyried ceisio gwaharddeb dros dro ac adolygiad barnwrol o benderfyniad y cyngor.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Yn y sir sy'n grud i Gristnogaeth yng Nghymru, ac sy'n ymfalchïo mewn bod yn fan geni a chysegrfa Nawddsant ein cenedl, mae'n eironi chwerw bod y cyngor yn ymddwyn mewn modd a allai fod yn wahaniaethol yn erbyn ysgolion yr Eglwys.
"Nid ydym yn barod i ganiatáu i hyn ddigwydd ac rydym yn edrych ar gynrychiolwyr etholedig y sir i atal y gweithredoedd dinistriol hyn," ychwanegodd y llefarydd.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cael cais am ymateb ond nid ydynt yn dymuno gwneud sylw ar hyn o bryd.
'Angen hyblygrwydd'
Dywedodd y Cynghorydd lleol, John Davies a chyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro fod "sefyllfa eitha' clir wedi bod o'r cychwyn cynta'.
"Mae'n rhaid i ni dderbyn bod stad ein hysgolion yn newid dros amser - ma' hynny'n hen hen hanes ym mhob sir yng Nghymru.
"Erbyn hyn yn anffodus, hon ydy'r unig ysgol eglwysig sydd ar ôl yn Nyffryn Teifi, felly dwi'n cefnogi'r cyngor sir yn eu bwriad i ddatgysylltu ysgol Cilgerran."
Er bod Mr Davies yn gapelwr ei hun hyd heddiw, esboniodd ei fod yn derbyn bod newid ar ei ffordd.
"Mae angen yr hyblygrwydd yna sydd ddim ar gael mewn ysgol eglwys, er mwyn y dyfodol - bod 'na bresenoldeb addysg gynradd yn dal i fodoli.
"Mae'n anodd 'neud hynny os cadw cysylltiad ag eglwys yn y hirdymor."






