Tân mewn tŷ ar Ffordd Penmynydd ar Ynys Môn
Mae gwasanaethau brys yn ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl i ddyn 82 oed farw yn dilyn tân mewn tŷ ar Ynys Môn.
Cafodd yr heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Ffordd Penmynydd ger Porthaethwy tua 17:00 ddydd Sul, 19 Ebrill.
Cafodd corff y dyn ei ddarganfod y tu allan i'r eiddo, ac yn ddiweddarach cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
"Mae'n rhaid i ni ddangos ein cydymdeimlad dwys gyda theulu a ffrindiau'r dyn yn ystod yr amser anodd yma," meddai Mike Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad, ac mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio ar y cyd i'r digwyddiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






