Gwrthdrawiad ar lôn gefn ger Corwen
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i wrthdrawiad ar lôn gefn rhwng y B5105 a Melin-y-Wig, ger Corwen, toc wedi hanner nos ar fore Sadwrn.
Marwolaeth y gyrrwr
Mae dyn 70 oed wedi marw yn dilyn y gwrthdrawiad, a oedd yn ymwneud â char rali Ford Escort melyn o 1992.
"Bu farw'r gyrrwr ar y lleoliad," medden nhw.
Apêl am dystiolaeth
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw i helpu gyda'r ymchwiliad.
Cysylltu â Cymru Fyw
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok am y newyddion diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap i gael y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






